Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru (AIDAC) yn goruchwylio’r modd y mae cyfraith amgylcheddol yn gweithredu yng Nghymru ac yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru er mwyn gwella canlyniadau amgylcheddol. Mae’r Asesydd yn cyhoeddi diweddariadau ynghylch cynnydd o ran ei gwaith.

Digwyddiadau

Mynychodd Dr Llewelyn Jones y Sioe Frenhinol yn Llanfair-ym-Muallt ym mis Gorffennaf. Roedd yn gyfle iddi gwrdd yn anffurfiol ag ystod o randdeiliaid allweddol. Bu modd iddi gasglu barn a gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud â’r modd y mae cyfraith amgylcheddol yn gweithredu, sy'n ddefnyddiol i’w gwaith.

Ar 15 Medi 2023 gwnaethom gynnal cyfarfod i randdeiliaid, lle’r oedd llawer o bobl yn bresennol. Roedd y cyfarfod rhithiol yn gyfle i Dr Llewelyn Jones rannu diweddariad am y gwaith  sydd yn digwydd. Roedd hefyd yn gyfle iddi ateb cwestiynau am ei gwaith ac am faterion sy’n peri pryder ac sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd.

Cyflwyniadau

Ers mis Mehefin 2023, mae rhagor o gyflwyniadau wedi dod i law sy’n ymwneud â’r materion canlynol:

  • y modd y mae gorchmynion cadw coed yn gweithredu, a gwaith gorfodi rheoleiddiol sy’n ymwneud â chynllunio.
  • y modd y caiff canllawiau cynllunio eu cymhwyso i’r gwaith o reoli allyriadau amonia mewn datblygiadau amaethyddol.

Mae un o’r cyflwyniadau’n destun adroddiad sy’n cael ei lunio gan yr Asesydd ar hyn o bryd. Rydym wrthi’n cynnal ymarfer cwmpasu yng nghyswllt y cyflwyniad arall.

Rhaglen waith bresennol

Mae’r Asesydd Interim yn gweithio ar sawl adroddiad. Maent wedi cyrraedd amryw gamau yn y gwaith o’u llunio ac maent yn ymwneud ag ystod o faterion amgylcheddol.

Bydd yr adroddiad ynghylch coedwigaeth yn canolbwyntio ar orchmynion cadw coed, trwyddedau cwympo coed a rheoliadau cynllunio. Mae’r newidiadau terfynol yn cael eu gwneud i’r adroddiad ar hyn o bryd a disgwylir y bydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

Mae’r adroddiad ynghylch gwrychoedd ar fin cael ei gwblhau hefyd. Mae’r adroddiad hwn yn ystyried effeithiolrwydd y modd y mae rheoliadau’n gweithredu i warchod gwrychoedd, a’r effaith ar fioamrywiaeth a bywyd gwyllt. Mae cysylltiad agos rhwng yr adroddiad hwn a’r Adroddiad ynghylch Coedwigaeth, oherwydd nodwyd sawl mater sy’n gorgyffwrdd â’i gilydd.

Mae adroddiad ynghylch y fframwaith cyfreithiol ar gyfer safleoedd gwarchodedig wrthi’n cael ei lunio, yn dilyn ymatebion i alwad yr Asesydd am dystiolaeth, ac rydym wrthi’n adolygu’r dystiolaeth honno ar hyn o bryd.

Bydd cam nesaf yr adroddiad ynghylch defnyddio sancsiynau sifil mewn cyfraith amgylcheddol yn cynnwys galwad am dystiolaeth. Bydd yr alwad yn cael ei chyhoeddi’n fuan er mwyn casglu tystiolaeth a barn am y defnydd a wneir o Sancsiynau Sifil ar hyn o bryd ac ynghylch a allai ehangu’r defnydd a wneir ohonynt fod o gymorth i sicrhau bod cyfraith amgylcheddol yn gweithredu’n gywir yng Nghymru. Bydd manylion ynghylch sut mae cyflwyno tystiolaeth ynghyd â dyddiadau’r alwad ar gael ar wefan yr Asesydd.

Mae’r Asesydd yn dal i gadw golwg fanwl ar faterion sy’n ymwneud ag ansawdd dŵr, yn enwedig achosion o ollwng carthion i mewn i afonydd Cymru. Yn 2024, mae’r Asesydd yn bwriadu adolygu’r rheoliadau a’r ddeddfwriaeth bresennol er mwyn penderfynu beth yw’r prif broblemau o ran sut y maent yn gweithredu ar hyn o bryd, ac a ellid gwneud unrhyw ddiwygiadau manteisiol iddynt. Mae’r Asesydd yn bwriadu ymgymryd â chyfres o ymweliadau ymchwilio â safleoedd perthnasol. Bydd hynny o gymorth i feithrin dealltwriaeth o’r problemau o safbwynt ymarferol.

Myfyrwyr doethuriaeth

Bydd sawl myfyriwr yn cael eu recriwtio ar gyfer interniaethau rhan-amser gyda’r Asesydd yn 2024. Bydd y swyddi hyn yn galluogi myfyrwyr i feithrin eu dealltwriaeth o’r modd y mae cyfraith amgylcheddol yn gweithredu ac o’r heriau ymarferol sy’n gysylltiedig â’i gweithredu. At hynny, bydd y myfyrwyr yn cynorthwyo gyda gwaith presennol yr Asesydd ar ansawdd dŵr a safleoedd gwarchodedig. 

Cyfarfod i randdeiliaid

Bydd y cyfarfod nesaf i randdeiliaid er mwyn i Dr Llewelyn Jones roi diweddariad am ei gwaith yn cael ei gynnal ar 15 Rhagfyr rhwng 10:30 a 11:30. Os hoffech gael rhagor o lythyrau newyddion a gwybodaeth gan yr Asesydd, mae croeso i chi gysylltu drwy’r cyfeiriad ebost isod fel bod modd eich ychwanegu at y rhestr bostio ar gyfer rhanddeiliaid.

Contacting IEPAW

Mae’r Asesydd yn croesawu cyflwyniadau ynghylch y modd y mae cyfraith amgylcheddol yn gweithredu. Os hoffech drafod unrhyw faterion neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â’r Asesydd drwy’r prif flwch post, sef IEPAW@gov.wales