Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Asesydd Diogelu'r Amgylchedd Interim Cymru (yr Asesydd Interim) yn goruchwylio gweithrediad cyfraith amgylcheddol yng Nghymru ac yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru er mwyn gwella canlyniadau amgylcheddol.

Mae’r Asesydd Interim yn bwriadu cyhoeddi diweddariadau chwarterol ar gynnydd ei gwaith. Dyma'r cyntaf o'r diweddariadau hyn.

Adroddiad Pwyllgor y Senedd ar Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (CCEI)

Cyhoeddodd Pwyllgor y Senedd ar Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (CCEI) ei adroddiad ar Weithrediad y Mesurau Interim Diogelu'r Amgylchedd ar 28 Medi 2022.  Roedd hyn yn dilyn sesiwn dystiolaeth gyda’r Asesydd Interim ar 30 Mehefin 2022. Roedd yr adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion, ar gyfer Llywodraeth Cymru yn bennaf. Roedd y rhain yn cynnwys: 

  • Cais am fanylion ynglŷn â'r cynlluniau mwy hirdymor ar gyfer llywodraethu amgylcheddol 
  • Galwad am adolygiad brys i adnoddau’r Asesydd Interim 
  • Cynigion am ddull y llywodraeth o ymateb i adroddiadau’r Asesydd Interim 
  • Cais am fanylion ynglŷn â'r cynlluniau ar gyfer gwerthuso'r mesurau interim. 

Fe wnaeth y Pwyllgor rai argymhellion hefyd ar gyfer yr Asesydd Interim. Roedd y rhain yn ymwneud â chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r rôl a thryloywder ynghylch gwaith yr Asesydd Interim. Bydd yr Asesydd Interim yn rhoi ymateb i'r Pwyllgor yn nodi'r camau penodol y bydd hi'n eu cymryd mewn ymateb i'w hargymhellion erbyn dechrau mis Tachwedd.

Diweddariad ar geisiadau a dderbyniwyd gan yr Asesydd Interim

Ers mis Ebrill 2022, derbyniwyd pedwar cais yn ymwneud â'r materion canlynol:

  • Gwarchod safleoedd gwarchodedig yng Nghymru
  • Pryderon am benderfyniad cynllunio lleol
  • Ansawdd dŵr 
  • Halogiad posibl gan biffenylau polyclorinedig (PCBs).  

O'r pedwar cyflwyniad hwn, barnwyd bod un y tu allan i'r cwmpas. Mae’r Asesydd Interim yn ystyried pa gamau sy’n briodol mewn perthynas â'r tri chais arall.
 

Blaenraglen waith - adroddiadau

Mae’r Asesydd Interim yn gweithio ar ei hadroddiad cyntaf ar goedwigaeth gyda'r nod o'i gyhoeddi'n fuan. Bydd yr adroddiad yn canolbwyntio ar orchmynion cadw coed, y ddeddf coedwigaeth, a materion cysylltiedig. 

Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr Asesydd Interim alwad am dystiolaeth ar ddiogelu a rheoli gwrychoedd a gaeodd ddiwedd mis Medi. Daeth hyn ar ôl trafodaeth banel ar y mater hwn yn ystod Sioe Frenhinol 2022. Mae’r Asesydd Interim yn bwriadu defnyddio'r dystiolaeth hon i lywio adroddiad ynghylch a yw Rheoliadau Perthi 1997 yn cyflawni eu nod datganedig o ddiogelu gwrychoedd yn effeithiol.  
 
Mae’r Asesydd Interim yn gobeithio dechrau gweithio ar adroddiad ar ddefnyddio sancsiynau sifil mewn cyfraith amgylcheddol. Nod yr adroddiad hwn fydd ystyried a oes gan reoleiddwyr yng Nghymru'r offer sydd eu hangen arnynt i sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith amgylcheddol, ac a fyddai ehangu sancsiynau sifil yn gwella canlyniadau amgylcheddol.

Mae’r Asesydd Interim yn parhau i ddilyn datblygiadau sy'n ymwneud ag ansawdd dŵr yng Nghymru, yn enwedig ar ollwng carthion i afonydd Cymru. Mae hyn yn cynnwys camau gweithredu sy'n deillio o adroddiad Pwyllgor y Senedd ar Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (CCEI) ar orlifoedd storm a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022. 

Mae’r Asesydd Interim hefyd yn bwriadu ystyried y fframwaith cyfreithiol mewn perthynas â safleoedd gwarchodedig a bydd yn cynnal cyfarfod bord gron ar y mater hwn ym mis Tachwedd.

Blaenraglen waith - cyhoeddi

Mae’r Asesydd Interim wedi cytuno'n ddiweddar ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda'i chymheiriaid yn rhannau eraill y DU - Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd yn Lloegr a Safonau Amgylcheddol Yr Alban. Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gael ac mae'n amlinellu sut mae’r tri chorff yn bwriadu cydweithio yn y dyfodol.

Mae’r Asesydd Interim yn bwriadu cyhoeddi cyfres o egwyddorion blaenoriaethu i'w defnyddio wrth benderfynu pa gyflwyniadau y byddai’n briodol llunio adroddiad ar gyfer Gweinidogion Cymru yn eu cylch, yn ogystal â dogfen gyfeirio hawdd ei defnyddio ar reoleiddwyr amgylcheddol sy'n gweithredu yng Nghymru.