Neidio i'r prif gynnwy

Cyfrifiad 2021

Amcangyfrifon o’r boblogaeth a chartrefi Cymru: Cyfrifiad 2021

Ar 28 Mehefin, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ganlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru (Swyddfa Ystadegau Gwladol) a Lloegr. Mae’r canlyniadau cyntaf hyn yn cynnwys amcangyfrifon o’r boblogaeth a chartrefi wedi’u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ôl rhyw a grwpiau oedran pum mlynedd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi bwletin ystadegol sy’n crynhoi’r prif ganlyniadau ar gyfer Cymru. Mae’r data hefyd ar gael ar StatsCymru.

Y prif bwyntiau

Newid yn y boblogaeth

  • Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, maint y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru oedd 3,107,500. Dyma’r boblogaeth fwyaf a gofnodwyd erioed drwy gyfrifiad yng Nghymru.
  • Mae poblogaeth Cymru wedi cynyddu 44,000 (1.4%) ers y cyfrifiad diwethaf yn 2011, pan oedd yn 3,063,456.
  • Roedd cyfradd twf y boblogaeth yng Nghymru rhwng 2011 a 2021 (1.4%) yn is na’r gyfradd rhwng 2001 a 2011, pan gynyddodd y boblogaeth 5.5%.
  • Roedd cyfradd twf y boblogaeth yng Nghymru yn sylweddol is nag yn Lloegr, lle cynyddodd y boblogaeth 6.6% (bron 3.5 miliwn).
  • Roedd mwy o farwolaethau na genedigaethau yng Nghymru rhwng 2011 a 2021. Mae’r twf yn y boblogaeth ers 2011 i’w briodoli i fudo net positif (oddeutu 55,000 o breswylwyr arferol) i mewn i Gymru.

Poblogaethau awdurdodau lleol

  • Yr awdurdodau lleol â’r cyfraddau uchaf o dwf yn y boblogaeth ers 2011 oedd Casnewydd (9.5%), Caerdydd (4.7%) a Phen-y-bont ar Ogwr (4.5%).
  • Roedd gan sawl awdurdod lleol boblogaethau is yn 2021 nag yn 2011. Roedd y cyfraddau mwyaf o leihad yn y boblogaeth ers 2011 yng Ngheredigion (5.8%), Blaenau Gwent (4.2%) a Gwynedd (3.7%).

Poblogaeth yn ôl oedran

  • Roedd mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn y grwpiau oedran hŷn yng Nghymru. Cyfran y boblogaeth a oedd yn 65 oed neu’n hŷn oedd 21.3% (i fyny o 18.4% yn 2011).
  • Roedd canran fwy o’r boblogaeth yn 65 oed a throsodd yng Nghymru nag yn holl ranbarthau Lloegr, heblaw am Dde-orllewin Lloegr, lle roedd 22.3% o’r boblogaeth yn y grŵp oedran hwn.
  • Mae maint y boblogaeth 90 oed neu hŷn yng Nghymru (29,700, 1.0%) wedi cynyddu ers 2011, pan oedd 25,200 (0.8%) yn 90 oed neu’n hŷn.

Dwysedd y boblogaeth

  • Ar gyfartaledd, roedd 150 o breswylwyr fesul cilometr sgwâr yng Nghymru yn 2021, sy’n sylweddol is na dwysedd y boblogaeth yn Lloegr (434 o breswylwyr fesul cilometr sgwâr).
  • Yr awdurdod lleol â’r dwysedd poblogaeth mwyaf yng Nghymru oedd Caerdydd (2,572 o breswylwyr fesul cilometr sgwâr), a Phowys a oedd â’r dwysedd poblogaeth lleiaf (26 o breswylwyr fesul cilometr sgwâr).

Nifer y cartrefi

  • Roedd 1,347,100 o gartrefi ag o leiaf un preswylydd arferol yng Nghymru ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Mae hyn yn gynnydd o 44,400 (3.4%) ers 2011, pan oedd 1,302,676 o gartrefi.

Mae’r SYG wedi cyhoeddi erthygl ryngweithiol sy’n adrodd stori wrth sgrolio ynghylch sut mae’r boblogaeth wedi newid yn eich ardal chi (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae’n dangos canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr ar lefel leol.

Mae yna hefyd gêm map poblogaeth Cyfrifiad 2021 (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Gêm ar-lein yw hon ar sail data Cyfrifiad 2021, sy’n herio’r chwaraewyr i ymlwybro ar draws map o Gymru a Lloegr drwy ddyfalu ffeithiau’n gywir am awdurdodau lleol cyfagos.

Cynlluniau’r SYG ar gyfer rhyddhau data Cyfrifiad 2021

Nod y SYG yw cyhoeddi holl brif ddata Cyfrifiad 2021 am boblogaeth Cymru a Lloegr o fewn dwy flynedd i’r cyfrifiad. Bydd y cyhoeddiadau hyn yn cael eu rhyddhau mewn tri cham:

Dechreuodd Cam 1 gyda’r amcangyfrifon o’r boblogaeth a chartrefi wedi’u talgrynnu, ac o hydref 2022 bydd hefyd yn cynnwys cyhoeddi crynodebau o bynciau, a phroffiliau ardal.

Y crynodebau o bynciau (mewn trefn yn ôl pryd y maent yn debygol o gael eu cyhoeddi) yw:

  • demograffeg a mudo
  • grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd (gan gynnwys y Gymraeg)
  • Cyn-filwyr Lluoedd Arfog y DU
  • tai
  • y farchnad lafur a theithio i’r gwaith
  • cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd
  • addysg
  • iechyd, anabledd a gofal di-dâl

Bydd Cam 2 ar waith rhwng gaeaf 2022 a dechrau 2023. Bydd yn cynnwys cyhoeddi sylwebaethau ystadegol ochr yn ochr â data’r crynodebau o bynciau, data amlamryweb ar gyfer y sylfaen boblogaeth breswyl arferol, a rhyddhau data am y boblogaeth breswyl fyrdymor.

Bydd Cam 3 yn dechrau yng ngwanwyn 2023. Bydd y cam hwn yn cynnwys data ynghylch sylfeini poblogaeth amgen, poblogaethau bach, data mudo manwl, data ‘llif’ a samplau microddata.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghynlluniau cyhoeddi’r SYG.

Gwybodaeth ddiweddaraf y SYG am ystadegau poblogaeth

Mae’r SYG wedi cyhoeddi erthygl a blog sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y model dynamig o’r boblogaeth (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae’r dull newydd hwn yn defnyddio modelu ystadegol a ffynonellau data gweinyddol i ddarparu ystadegau poblogaeth yn amlach, ac sy’n fwy perthnasol ac amserol.

Sut mae’r model dynamig o’r boblogaeth yn wahanol i’r amcangyfrifon canol blwyddyn presennol?

Mae’r dull presennol o amcangyfrif poblogaeth yn destun cyfeiliornad cynyddol po fwyaf y symudwn oddi wrth ddyddiad y cyfrifiad blaenorol. Fodd bynnag, mae’r model dynamig o’r boblogaeth yn mynd i’r afael â’r broblem hon drwy gyfuno data annibynnol am boblogaeth â newidiadau o ran genedigaethau, marwolaethau, mudo, a thueddiadau demograffig.

Mae’r SYG hefyd wedi cyhoeddi canllaw i ystadegau a ffynonellau poblogaeth (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae’r canllaw yn cynnwys cyfeiriadau at y gwahanol fathau o amcangyfrifon poblogaeth y bwriedir eu cyhoeddi yn 2022 a 2023, gan gynnwys yr amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth ar gyfer 2021, y bwriedir eu cyhoeddi ym mis Tachwedd; ac amcangyfrifon o’r boblogaeth rhwng canol 2012 a chanol 2020, gan ddefnyddio sylfaen newydd, y bwriedir eu cyhoeddi ddechrau 2023.

Ystadegau’r Gymraeg

I gael gwybodaeth am ystadegau’r Gymraeg, gweler diweddariad chwarterol Ystadegau Cymru.

Cyswllt

Martin Parry

Rhif ffôn: 0300 025 0373

E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099