Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriad ar ddyfodol ystadegau ar y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr

Ar 29 Mehefin, lansiodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ymgynghoriad cyhoeddus ar ddull newydd o ymdrin ag ystadegau ar y boblogaeth a mudo (SYG) (Saesneg yn unig). Mae eich mewnbwn yn dystiolaeth hanfodol ar gyfer argymhellion yr Ystadegydd Gwladol i’r llywodraeth ar ddyfodol ystadegau ar y boblogaeth a mudo, a’r cyfrifiad. 

Rydym yn eich annog i ymateb i’r ymgynghoriad ac anfon y ddolen berthnasol ymlaen at unrhyw un arall allai fod â diddordeb.  

Mae’r holiadur yn hawdd i’w gwblhau ac mae ar gael yn Gymraeg (Ymgynghoriad ar ddyfodol ystadegau ar y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr (SYG)) ac yn Saesneg (Consultation on the future of population and migration statistics in England and Wales (SYG)). Os oes angen help arnoch i gwblhau eich ymateb, gallwch anfon e-bost i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol neu gysylltu â nhw ar 01329 444972. 

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi creu fideo wedi'i animeiddio sydd ar gael yn Gymraeg neu yn Saesneg (Transforming the way we produce statistics (SYG)) er mwyn i bobl ddysgu mwy am y rhesymau pam maen nhw’n trawsnewid y ffordd y maen nhw’n cynhyrchu ystadegau. Mae pennod ddiweddaraf 'Statistically Speaking', podlediad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, hefyd yn ystyried y ffordd y mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi bod yn gweithio i drawsnewid sut maen nhw’n cyfrif y boblogaeth, gan ddefnyddio setiau data newydd i fesur yn fwy cywir, amserol ac yn fanylach. Mae’r podlediad hefyd yn rhoi sylw i’r ymgynghoriad.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Iau 26 Hydref.

Rhagor o wybodaeth

Ochr yn ochr â’r ymgynghoriad, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi rhyddhau cyfres gynhwysfawr o ymchwil. Mae’r ymchwil hon yn rhoi tystiolaeth i’r defnyddwyr o’r cynnydd maent wedi’i wneud tuag at ddatblygu system newydd i gynhyrchu ystadegau amserol, o ansawdd uchel ar y boblogaeth, gyda data gweinyddol yn greiddiol i’r system honno. 

Ymhlith y gyfres hon o dystiolaeth, mae:

Mae’r erthyglau canlynol sydd hefyd yn llunio rhan o’r sylfaen dystiolaeth wedi cael eu cyhoeddi: 

Mae blog hefyd wedi’i ryddhau ar y pwnc Meithrin hyder yn ein gallu i symud i system newydd ar gyfer ystadegau'r boblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (Saesneg yn unig).

Ystadegau'r Gymraeg

I gael gwybodaeth am ystadegau'r Gymraeg, gweler diweddariad chwarterol Ystadegau Cymru.

Manylion cyswllt

Martin Parry

Rhif ffôn: 0300 025 0373

E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099