Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon canol-blwyddyn o boblogaeth Cymru: 2025

Ar 29 Gorffennaf, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) amcangyfrifon canol 2025 o boblogaeth Cymru a Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bwletin sy’n crynhoi amcangyfrifon canol 2025 o boblogaeth Cymru. Bydd tablau StatsCymru (StatsCymru) yn cael eu diweddaru maes o law.

Mae amcangyfrifon ar gyfer 2022 i 2024 wedi’u diwygio gan SYG i ymgorffori gwell data am fudo rhyngwladol a mewnol.

Mae rhagor o wybodaeth am effaith y diwygiadau ym mwletin SYG sy’n nodi’r Amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr: canol 2025.

Mae amcangyfrifon poblogaeth Cymru wedi’u diwygio i lawr i:

  • 3,132,700 yn 2022, sef gostyngiad o 1,500 (0.05%) o’r amcangyfrif a gyhoeddwyd yn flaenorol
  • 3,165,100 yn 2023, sef gostyngiad o 2,300 (0.07%) o’r amcangyfrif a gyhoeddwyd yn flaenorol
  • 3,177,900 yn 2024, sef gostyngiad o 8,600 (0.27%) o’r amcangyfrif a gyhoeddwyd yn flaenorol

Y prif bwyntiau

  • Yn 2025, roedd tua 3,175,200 o bobl yn byw yng Nghymru, gostyngiad bach o 0.1%, tua 2,800 yn llai o bobl o’i gymharu â 2024. Dyma’r gostyngiad cyntaf yn y boblogaeth ers rhwng 2014 a 2015.
  • Mae’r gostyngiad diweddar yn y boblogaeth wedi cael ei ysgogi gan newid naturiol negyddol a mudo rhyngwladol net sy’n gostwng.
  • Roedd dros bumed o’r bobl yn 65 oed neu’n hŷn (22.2%, neu 705,100 o bobl).
  • Casnewydd welodd y cynnydd canrannol mwyaf yn y boblogaeth (cynnydd o 0.7%).
  • Roedd cynnydd o 0.4% yn y boblogaeth yn Lloegr ar gyfer yr un cyfnod.

Mae’r Prif ystadegydd wedi cyhoeddi blog am yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf a’n cynlluniau i ddiweddaru amcanestyniadau.

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Mae SYG wedi cyhoeddi blog, sy’n esbonio sut mae’n gwella amcangyfrifon poblogaeth i roi gwybodaeth gliriach a gwell i ddefnyddwyr am y boblogaeth yn eu hardal.

Ochr yn ochr ag amcangyfrifon poblogaeth canol 2025, mae SYG wedi cyhoeddi Amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr: canllaw ar ddulliau ac ansawdd (SYG) a’r erthygl Gwella amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr (SYG), sy’n esbonio’r dulliau a ddefnyddiwyd a’r gwelliannau parhaus i’r amcangyfrifon swyddogol. 

Mae SYG hefyd wedi cyhoeddi erthygl adroddiad Effaith y pandemig coronafeirws ar ansawdd amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer Cymru a Lloegr, sy’n archwilio effeithiau’r pandemig coronafeirws (COVID-19) ar y ffynonellau a ddefnyddiwyd yn yr amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr, beth mae’n ei olygu o ran eu hansawdd a’u hansicrwydd, a sut y dylai defnyddwyr ddehongli’r amcangyfrifon ar gyfer blynyddoedd y pandemig a thu hwnt.

‌Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso ichi gysylltu â ni ar ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.

Amcangyfrifon o’r boblogaeth hen iawn

Ar 29 Gorffennaf, cyhoeddodd SYG amcangyfrifon o’r boblogaeth hen iawn, gan gynnwys pobl sy’n gant oed neu’n hŷn, Cymru a Lloegr: 2002 i 2025. Datganiad data yn unig yw hwn sy’n darparu amcangyfrifon poblogaeth yn ôl oedran unigol a rhyw ar gyfer pobl 90 oed a hŷn yng Nghymru a Lloegr.

Amcangyfrifon o’r boblogaeth yn ôl statws priodasol a threfniadau byw

Ar 31 Gorffennaf, cyhoeddodd SYG amcangyfrifon o’r boblogaeth yn ôl statws priodasol a threfniadau byw, Cymru a Lloegr: 2025. Mae’r datganiad yn darparu amcangyfrifon yn ôl oedran a rhyw ac mae’n cynnwys gwybodaeth am dueddiadau o ran priodas, partneriaethau sifil, ysgariad, gweddwdod a chyd-fyw. 

Mae SYG hefyd wedi diwygio amcangyfrifon ar gyfer 2022 i 2024 yn dilyn diwygiadau i amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth.

Amcangyfrifon o boblogaeth y DU: canol 2025

Nod SYG yw rhyddhau set lawn o amcangyfrifon canol 2025 o boblogaeth y DU yn hydref 2026. Bydd hyn yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a gynhyrchir gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon, ac amcangyfrifon ar gyfer yr Alban a gynhyrchir gan Gofnodion Cenedlaethol yr Alban.

Ystadegau’r Gymraeg

Manylion cyswllt

Rhif ffôn: 0300 025 0373

E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099