Neidio i'r prif gynnwy

Ystadegau'r rhestr etholiadol

Ar 5 Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bennawd ystadegol am ystadegau'r rhestr etholiadol i Gymru ar gyfer  2021. Mae data manwl wedi'i gyhoeddi ar StatsCymru.

Mae ystadegau etholiadol yn gyfrifiadau blynyddol o nifer y bobl sydd wedi'u cofrestru ar gofrestri etholiadol, ac sydd felly â hawl i bleidleisio. Mae Electoral roll statistics (Swyddfa Ystadegau Gwladol) ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau llywodraeth leol i'r DU ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae ONS wedi nodi nad yw'r ystadegau hyn yn adlewyrchu'r newidiadau i feini prawf cymhwysedd ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ers 2020. O ganlyniad, mae cofrestriadau etholiadol llywodraeth leol ar gyfer pobl 16 oed a phobl ifanc 15 oed sy'n cofrestru ymlaen llaw, yng Nghymru, ar goll o'r ystadegau hyn. Gweler gwefan ONS am ragor o wybodaeth.

Prif bwyntiau

  • Cyfanswm nifer etholwyr Senedd Cymru ac etholwyr llywodraeth leol a oedd wedi'u cofrestru i bleidleisio ym mis Rhagfyr 2021 yng Nghymru oedd 2,348,600.
  • Roedd hyn yn gynnydd o 0.3% rhwng 1 Rhagfyr 2020 a 1 Rhagfyr 2021, er bod gostyngiad o 0.4% o'i gymharu â'r uchafbwynt ar 2 Mawrth 2020.
  • Cyfanswm nifer etholwyr Senedd y DU a oedd wedi'u cofrestru i bleidleisio ym mis Rhagfyr 1 yng Nghymru oedd 2,307,900.
  • Roedd hyn yn gynnydd o 0.1% rhwng 1 Rhagfyr 2020 a 1 Rhagfyr 2021, er bod gostyngiad o 0.6% o'i gymharu â'r uchafbwynt ar 2 Mawrth 2020.
  • Gostyngodd cyfanswm nifer etholwyr Seneddol y DU a oedd wedi'u cofrestru i bleidleisio yn y DU  0.7% yn gyffredinol rhwng 1 Rhagfyr 2020 ac 1 Rhagfyr 2021.

Cyfrifiad

Cyfrifiad 2021

Ar 1 Mawrth, creodd ONS cynllun dadansoddi yn ôl pwnc (Swyddfa Ystadegau Gwladol) wedi'i ddiweddaru a gafodd ei greu ochr yn ochr â rhan un o’r ymateb i’r ymgynghoriad (Swyddfa Ystadegau Gwladol) a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr a rhan dau (Swyddfa Ystadegau Gwladol) a gyhoeddwyd ar 31 Mawrth. Bydd y cynlluniau dadansoddi terfynol ac wedi'u ddiweddaru yn cael eu cyhoeddi ddiwedd y gwanwyn, gyda'r canlyniadau cyntaf wedi'u hamserlennu ar gyfer dechrau'r haf.

Cyhoeddodd ONS gyfrifiadau rhagarweiniol Cyfrifiad 2021 o wlad enedigol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Wcráin a gwledydd cyfagos neu berthnasol i helpu i gynllunio ymateb i argyfwng lleol a chenedlaethol. Mae'r data ar gael i'r awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr.

Ar gyfer cwestiynau am yr ymgynghoriad neu allbynnau Cyfrifiad 2021 cysylltwch â: census.outputs@ons.gov.uk

Cyfrifiad 1921

Ar 12 Ebrill, cyhoeddodd ONS newly digitalised county and district level statistics on the 1921 Census (Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Y newyddion diweddaraf am ystadegau'r boblogaeth, ONS

Ar 25 Chwefror, cyhoeddodd ONS trosolwg o boblogaeth y DU yn 2020 (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae'r trosolwg yn rhoi crynodeb o boblogaeth y DU yn 2020, gan dynnu sylw at y newidiadau a'r ffactorau sy'n cyfrannu at hyn. Mae'n canolbwyntio ar gydrannau newid yn y boblogaeth dros amser, gan gynnwys ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo.

Ar 2 Mawrth, Cyhoeddodd ONS ganllaw ar gyfer ystadegau a ffynonellau’r boblogaeth (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae'r canllaw hwn yn rhoi crynodeb o'r dyddiadau cyhoeddi arfaethedig ar gyfer amcangyfrifon o'r boblogaeth, ym mha ffyrdd maent yn cael eu defnyddio a'r ffynonellau data sy'n sail iddynt. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i ddiweddaru'r dudalen hon wrth i'r cynlluniau fynd rhagddynt.

Ystadegau mudo

Ystadegau'r Gymraeg

I gael gwybodaeth am Ystadegau'r Gymraeg, gweler diweddariad chwarterol ystadegau Cymru.

Cyswllt

Martin Parry

Rhif ffôn: 0300 025 0373

E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099