Neidio i'r prif gynnwy

Lleoliadau swyddfeydd rhyngwladol Llywodraeth Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru rwydwaith o 21 o swyddfeydd rhyngwladol. Mae’r swyddfeydd hyn ym mhrif economïau’r byd ac wedi’u lleoli’n bennaf o fewn rhwydwaith Llysgenhadaeth ac Uchel Gomisiwn y DU. Dyma leoliadau’r swyddfeydd:

Gogledd America

Efrog Newydd, Washington DC, Atlanta, Chicago, Los Angeles, Montréal

Ewrop

Dulyn, Paris, Brwsel, Düsseldorf, Berlin a Llundain

Tsieina

Chongqing, Beijing a Shanghai

India

Delhi Newydd, Mumbai a Bangalore

Japan

Tokyo

Y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA)

Dubai a Doha

Image

Yn achos pob swyddfa, y cylch gwaith yw cyflawni uchelgeisiau’r Strategaeth Rryngwladol a lansiwyd ym mis Ionawr 2020 gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae’r strategaeth yn nodi’r weledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf a’r uchelgeisiau yw:

  • Codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol
  • Tyfu ein heconomi drwy gynorthwyo busnesau i gynyddu allforion a denu mewnfuddsoddiadau o’r radd flaenaf
  • Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae holl weithgareddau’r timau rhyngwladol yn cyd-fynd â’r uchelgeisiau uchod, a chaiff cynlluniau cyflawni eu mesur yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol. Mae hyn yn golygu bod cyfres o uchelgeisiau cyffredin ar gyfer pob swyddfa yn ein rhwydwaith.

Mae cyhoeddi’r strategaeth wedi rhoi ffocws newydd i’r rhwydwaith o swyddfeydd ac mae eisoes wedi cael effaith ar eu gwaith. Bydd pob swyddfa ryngwladol yn rhoi pwyslais gwahanol ar bob uchelgais i adlewyrchu’r elw a’r perthnasedd posibl i’r farchnad maen nhw’n gweithio ynddi.

Er hynny, bydd gan bob swyddfa gylch gwaith cyffredin i ddod o hyd i gyfleoedd denu mewnfuddsoddiad er mwyn i dîm Cymru gyfan allu darparu a sicrhau buddsoddiadau i Gymru. Bydd pob tîm yn gweithio gyda’r rhiant gwmnïau neu bencadlysoedd buddsoddwyr presennol i feithrin cysylltiadau a nodi cyfleoedd i ehangu’r gweithrediadau presennol yng Nghymru drwy ail-fuddsoddi.

Bydd gan bob swyddfa ryngwladol ffocws cryf ar fasnach a byddant yn nodi cyfleoedd yn y farchnad i fusnesau yng Nghymru sicrhau cytundebau allforio, a chefnogi’r cwmnïau hynny ar eu siwrnai allforio. Bydd pob tîm yn cydweithio gyda’r Adran Masnach Ryngwladol (DIT) a sefydliadau partner eraill lle bo’n briodol i gefnogi cwmnïau o Gymru yn y farchnad.

Gwaith newydd i’r swyddfeydd rhyngwladol fydd canolbwyntio ar adeiladu a chreu rhwydweithiau cryf o Gymry ar wasgar yn eu marchnadoedd. Bydd hyn yn golygu cefnogi grwpiau Cymry ar wasgar presennol a sefydliadau partner a nodi unigolion a grwpiau newydd er mwyn codi proffil Cymru ar lwyfan byd, a chynorthwyo i gyflawni cylch gwaith y swyddfa ac uchelgeisiau’r Strategaeth Ryngwladol.

Mae’r tudalennau canlynol yn diffinio ymhellach y ffocws ar gyfer y rhwydwaith tramor sy’n cyd-fynd â thri phrif uchelgais y Strategaeth Ryngwladol sy’n dangos nodau wedi’u teilwra ar gyfer y rhanbarthau unigol.

Unol Daleithiau America

Uchelgais 1: Codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol

  • Datblygu a meithrin rhwydweithiau gwleidyddol ar lefel Ffederal a Thaleithiol er mwyn nodi’r cyfleoedd i arddangos Cymru. Nodi unigolion allweddol sydd â diddordeb yn ein cynorthwyo i gyflawni ein tri uchelgais allweddol.
  • Gweithio gyda phartneriaid chwaraeon a diwylliannol yng Nghymru ar gynlluniau ymweld blynyddol i adnabod cyfleoedd er mwyn cynnig cymorth tra yn y farchnad.
  • Adeiladu rhwydweithiau Cymry ar wasgar cryf ar draws UDA gyfan gan ddefnyddio ein swyddfeydd cynrychioliadol. Adeiladu a cheisio rheoli grŵp bach o gysylltiadau o’r radd flaenaf i gefnogi cylch gwaith ehangach y tîm.
  • Annog partneriaethau ymchwil a rhaglenni cyfnewid myfyrwyr rhwng prifysgolion yr Unol Daleithiau a Chymru.
  • Defnyddio Dydd Gŵyl Dewi fel llwyfan i hyrwyddo Cymru.
  • Gweithio gyda phartneriaid yn y farchnad fel y British Council i wireddu amcanion y strategaeth.
  • Codi proffil Cymru drwy gynllun cyfathrebu â ffocws penodol gan gynnwys mwy o ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy gynorthwyo busnesau yng Nghymru i gynyddu allforion

  • Gweithio gyda phartneriaid fel yr a’r Adran Masnach Ryngwladol i nodi cyfleoedd allforio o fewn marchnad yr Unol
  • Daleithiau sy’n cyd-fynd â galluoedd cwmnïau o Gymru. Mae sectorau o’r fath yn cynnwys ynni, gwyddorau bywyd ac awyrofod. 
  • Gweithio gyda’r Tim Cymorth Masnach yng Nghymru er mwyn cynyddu nifer y cwmnïau o Gymru sy’n cynnal ymweliadau â ffocws ar allforio â’r Unol Daleithiau drwy ddarparu cymorth uniongyrchol cyn ac yn ystod ymweliadau.
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda chydweithwyr y sector bwyd a diod er mwyn amlinellu potensial yr Unol Daleithiau fel marchnad allforion a nodi cyfleoedd i arddangos cynnyrch Cymru gydol y flwyddyn.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo sector bwyd a diod Cymru i brynwyr cenedlaethol er mwyn sicrhau eu presenoldeb yn nigwyddiad BlasCymru/TasteWales.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy ddenu mewnfuddsoddiad o’r radd flaenaf

  • Cynnal gwaith datblygu busnes penodol er mwyn targedu diwydiannau allweddol yn yr Unol Daleithiau ac amlinellu cryfderau gweithredu o Gymru.
  • Canolbwyntio’n rhagweithiol ar sectorau allweddol led-ddargludyddion cyfansawdd, seiberddiogelwch a diwydiannau creadigol er mwyn amlinellu’r galluoedd yng Nghymru o safbwynt y sgiliau sydd ar gael, galluoedd ymchwil a datblygu, eiddo a mynediad at gyllid.
  • Gweithio gyda phartneriaid a lluosyddion fel yr Adran Masnach Ryngwladol, Siambrau Masnach a fforymau busnes er mwyn amlinellu cryfderau Cymru a chyd-dargedu busnes â photensial buddsoddi.
  • Hyrwyddo’r cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer twf busnesau yng Nghymru drwy ddefnyddio prosiectau cymell megis y Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd fel cyfle i fusnesau ac fel ffordd o ddyrchafu enw da Cymru.
  • Meithrin a chynnal cydberthnasau cryf â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau o blith buddsoddwyr presennol yr Unol Daleithiau er mwyn deall cynlluniau cyfredol a nodi cyfleoedd i ail-fuddsoddi. Caiff hyn ei gyflawni drwy weithio ar y cyd â thimau yng Nghymru.

Uchelgais 3: Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

  • Gweithio’n uniongyrchol gyda sefydliadau rhyngwladol, fel y Cenhedloedd Unedig, i dynnu sylw at feysydd lle mae gan Gymru neges gref.
  • Hybu dwyieithrwydd a rhannu ein harbenigedd er mwyn hyrwyddo a chefnogi ieithoedd lleiafrifol a chynhenid.
  • Gweithio gyda thimau ehangach Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r hyn a gyflawnwyd ar sail Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a llwyddiannau ailgylchu fel enghreifftiau.
  • Gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo’r rhagoriaeth ymchwil sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru a chwilio am gyfleoedd i gydweithredu’n rhyngwladol.
  • Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd twristiaeth yn y farchnad drwy gynlluniau gweithgarwch sy’n gydnaws â Croeso Cymru.
  • Gweithio gyda sefydliadau ymchwil a phrifysgolion yng Nghymru i amlygu dull Cymru o weithredu ac ymrwymo i feysydd fel cynaliadwyedd ac ymchwil ynni adnewyddadwy.

Canada

Uchelgais 1:Codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol

  • Ymgysylltu a gweithio gyda sefydliadau partner a rhanddeiliaid Cymreig i nodi cyfleoedd i ymweld â Chymru a’i hyrwyddo yng Nghanada gan gynnwys grwpiau chwaraeon a diwylliannol.
  • Datblygu a meithrin cysylltiadau gwleidyddol ar lefel ffederal a thaleithiol er mwyn cynnig cyfleoedd i amlinellu negeseuon allweddol Cymru.
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda’r Prif Ymgynghorydd Gwyddonol yng Nghymru i feithrin cysylltiadau ymchwil ac arloesi rhwng y rhanbarthau a chefnogi rhaglen o ymweliadau â ffocws penodol.
  • Adeiladu rhwydwaith cryf o Gymry ar wasgar ledled Canada a cheisio rheoli grŵp bach o gysylltiadau o’r radd flaenaf i gefnogi cylch gwaith ehangach y tîm.
  • Annog partneriaethau ymchwil rhwng sefydliadau Cymru a Chanada a’r rhaglen cyfnewid myfyrwyr.
  • Gweithio gyda phartneriaid yn y farchnad fel y British Council a’r Siambrau Masnach i wireddu amcanion y strategaeth.
  • Defnyddio Dydd Gŵyl Dewi fel llwyfan i hyrwyddo Cymru.
  • Codi proffil Cymru drwy gynllun cyfathrebu â ffocws penodol sy’n cynnwys mwy o ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy gynorthwyo busnesau yng Nghymru i gynyddu allforion

  • Mewn cydweithrediad â phartneriaid, fel yr Adran Masnach Ryngwladol, ar draws pob rhan o rwydwaith Canada, gweithio i nodi cyfleoedd allforio o fewn y farchnad sy’n cyd-fynd â galluoedd cwmnïau o Gymru. Mae sectorau o’r fath yn cynnwys olew a nwy, technoleg ac ynni adnewyddadwy.
  • Cynyddu nifer y cwmnïau o Gymru sy’n cynnal ymweliadau allforio i Ganada trwy ddarparu cymorth uniongyrchol cyn ac yn ystod ymweliadau.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo cyfleoedd masnach yng Nghanada i gwmnïau sectorau allweddol o Gymru.
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda chydweithwyr yn y sector bwyd a diod er mwyn amlinellu potensial taleithiau allweddol Canada fel marchnad allforio a nodi cyfleoedd i arddangos cynnyrch o Gymru gydol y flwyddyn.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo sector bwyd a diod Cymru i brynwyr cenedlaethol yng Nghanada i sicrhau eu bod yn mynychu digwyddiad BlasCymru/TasteWales.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy ddenu mewnfuddsoddiad o’r radd flaenaf

  • Cynnal gwaith datblygu busnes penodol er mwyn targedu diwydiannau allweddol yng Nghanada fel fintech, ynni a TGCh a’r manteision amlinellol o weithredu o safle yng Nghymru.
  • Canolbwyntio’n rhagweithiol ar sectorau allweddol lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiberddiogelwch a diwydiannau creadigol er mwyn amlinellu’r galluoedd yng Nghymru o safbwynt y sgiliau sydd ar gael, galluoedd ymchwil a datblygu, eiddo a mynediad at gyllid.
  • Cefnogi teithiau o’r tu allan i Gymru gan gwmnïau o Ganada.
  • Gweithio gyda phartneriaid a lluosyddion fel yr Adran Masnach Ryngwladol, Siambrau Masnach a fforymau busnes er mwyn amlinellu cryfderau Cymru a chyd-dargedu busnes a photensial buddsoddi.
  • Hyrwyddo cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer twf busnesau yng Nghymru drwy ddefnyddio prosiectau cymell megis Ynni Morol Cymru fel cyfle i fusnesau a ffordd o ddyrchafu enw da Cymru.
  • Meithrin a chynnal perthynas gref â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau o blith buddsoddwyr presennol Canada yng Nghymru er mwyn deall cynlluniau cyfredol a nodi cyfleoedd i ailfuddsoddi. Caiff hyn ei gyflawni drwy weithio ar y cyd â thimau yng Nghymru.

Uchelgais 3: Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

  • Gweithio’n uniongyrchol gyda sefydliadau cenedlaethol a thaleithiol fel National Reserach Council of Canada i dynnu sylw at gryfderau Cymru.
  • Hybu dwyieithrwydd a rhannu ein harbenigedd er mwyn hyrwyddo a chefnogi ieithoedd lleiafrifol a chynhenid.
  • Gweithio gyda thimau ehangach Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r hyn a gyflawnwyd ar sail Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a llwyddiannau ailgylchu fel enghreifftiau.
  • Gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo’r rhagoriaeth ymchwil sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru a chwilio am gyfleoedd i gydweithredu’n rhyngwladol.
  • Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd twristiaeth yn y farchnad drwy gynlluniau gweithgarwch sy’n gydnaws â Croeso Cymru.

Iwerddon

Uchelgais 1: Codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol

  • Gweithio gyda Chonswliaeth Iwerddon sydd newydd ei sefydlu yng Nghymru i nodi meysydd ar gyfer cydweithio a chydweithredu wrth hyrwyddo nodau’r Strategaeth Ryngwladol.
  • Datblygu rhwydweithiau a chysylltiadau gwleidyddol yn Iwerddon i nodi cyfleoedd i arddangos Cymru. Nodi unigolion allweddol o fewn grwpiau rhanbarthol sydd â diddordeb yn ein cynorthwyo i gyflawni ein tri uchelgais allweddol.
  • Gweithio gyda phartneriaid chwaraeon a diwylliannol yng Nghymru ar gynlluniau ymweliadau blynyddol i Iwerddon a nodi cyfleoedd i gefnogi tra yn y farchnad.
  • Annog ac adeiladu ar bartneriaethau ymchwil cyfredol rhwng Cymru ac Iwerddon.
  • Defnyddio Dydd Gŵyl Dewi fel llwyfan i hyrwyddo Cymru ar draws taleithiau Iwerddon ac ymgysylltu â rhwydweithiau Cymry ar wasgar a rhanbarthol.
  • Adeiladu a chreu rhwydwaith cryf o Gymry ar wasgar ledled Iwerddon a cheisio rheoli grŵp bach o gysylltiadau o’r radd flaenaf i gefnogi’r swyddfa ehangach.
  • Codi proffil Cymru drwy gynllun cyfathrebu â ffocws penodol gan gynnwys mwy o ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Gweithio gyda phartneriaid yn y farchnad fel y British Council a Siambr Fasnach Iwerddon i wireddu amcanion y strategaeth.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy gynorthwyo busnesau yng Nghymru i gynyddu allforion

  • Gweithio gyda phartneriaid fel y Siambrau Masnach a’r Adran Masnach Ryngwladol i nodi cyfleoedd allforio o fewn y farchnad Wyddelig sy’n cyd-fynd â galluoedd cwmnïau Cymru. Mae sectorau o’r fath yn cynnwys awyrofod, gweithgynhyrchu uwch, gwyddorau bywyd a bwyd a diod.
  • Cynyddu nifer y cwmnïau yng Nghymru sy’n cynnal ymweliadau â ffocws ar allforio gydag Iwerddon drwy ddarparu cymorth uniongyrchol cyn ac yn ystod ymweliadau.
  • Hyrwyddo cyfleoedd masnach i gwmnïau’r sectorau allweddol o Gymru er mwyn sicrhau mwy o ymweliadau datblygu busnes.
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda chydweithwyr y sector bwyd a diod er mwyn amlinellu potensial Iwerddon fel marchnad allforio a nodi cyfleoedd i arddangos cynnyrch o Gymru gydol y flwyddyn.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo sector bwyd a diod Cymru i brynwyr cenedlaethol er mwyn sicrhau eu presenoldeb yn nigwyddiad BlasCymru/TasteWales.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy ddenu mewnfuddsoddiad o’r radd flaenaf

  • Cynnal gwaith datblygu busnes penodol er mwyn targedu diwydiannau allweddol yn Iwerddon mewn sectorau fel fintech, ynni, gweithgynhyrchu uwch a TGCh a’r manteision amlinellol o weithredu o safle yng Nghymru.
  • Canolbwyntio’n rhagweithiol ar sectorau allweddol lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiberddiogelwch a diwydiannau creadigol er mwyn amlinellu’r galluoedd yng Nghymru o safbwynt y sgiliau sydd ar gael, galluoedd ymchwil a datblygu, eiddo a mynediad at gyllid.
  • Sicrhau teithiau o’r tu allan i Gymru gan gwmnïau o Iwerddon.
  • Gweithio gyda phartneriaid a lluosyddion fel yr Adran Masnach Ryngwladol a fforymau busnes er mwyn amlinellu cryfderau Cymru a chyd-dargedu busnes â photensial buddsoddi.
  • Hyrwyddo cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer twf busnesau yng Nghymru drwy ddefnyddio prosiectau cymell megis Ynni Morol Cymru fel cyfle i fusnesau a ffordd o ddyrchafu enw da Cymru.
  • Meithrin a chynnal perthynas gref â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau o blith y nifer sylweddol o fuddsoddwyr o Iwerddon yng Nghymru er mwyn deall cynlluniau cyfredol a nodi cyfleoedd ailfuddsoddi. Caiff hyn ei gyflawni drwy weithio ar y cyd â thimau yng Nghymru.

Uchelgais 3: Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

  • Gweithio gyda thimau ehangach Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r hyn a gyflawnwyd ar sail Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a llwyddiannau ynni ac ailgylchu er enghraifft.
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda sefydliadau ar hyd a lled Iwerddon i dynnu sylw at feysydd lle mae gan Gymru neges gref.
  • Hybu dwyieithrwydd a rhannu ein harbenigedd er mwyn hyrwyddo a chefnogi ieithoedd lleiafrifol a chynhenid.
  • Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd twristiaeth yn y farchnad drwy gynlluniau gweithgarwch sy’n gydnaws â Croeso Cymru.
  • Gweithio gyda sefydliadau ymchwil a phrifysgolion yng Nghymru i amlygu dull Cymru o weithredu ac ymrwymo i feysydd fel cynaliadwyedd ac ymchwil ynni adnewyddadwy.

Ffrainc

Uchelgais 1: Codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol

  • Adeiladu a meithrin rhwydweithiau cryf o Gymry ar wasgar ledled Ffrainc a cheisio rheoli grŵp bach o gysylltiadau o’r radd flaenaf i gefnogi cylch gwaith ehangach y tîm.
  • Annog partneriaethau ymchwil rhwng sefydliadau ymchwil Ffrainc a Chymru ac adeiladu ar y cysylltiadau megis y rhai rhwng prifysgolion Abertawe a Grenoble.
  • Meithrin cysylltiadau pellach ar draws rhanbarthau Ffrainc a nodi cyfleoedd i arddangos Cymru. Nodi unigolion allweddol o fewn grwpiau rhanbarthol a hoffai ein cynorthwyo i gyflawni ein tri uchelgais allweddol.
  • Gweithio gyda phartneriaid chwaraeon a diwylliannol Cymru ar gynlluniau ymweliadau blynyddol i Ffrainc er mwyn nodi cyfleoedd i gefnogi tra yn y farchnad.
  • Defnyddio Dydd Gŵyl Dewi fel llwyfan i hyrwyddo Cymru ledled Ffrainc ac ymgysylltu â’r Cymry ar wasgar.
  • Adeiladu ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sefydledig â Llydaw er mwyn nodi cyfleoedd i gydweithio.
  • Codi proffil Cymru drwy gynllun cyfathrebu â ffocws penodol gan gynnwys mwy o ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Gweithio gyda phartneriaid fel y British Council a’r Siambr Ffrengig-Brydeinig ym Mharis a Llundain i wireddu amcanion y strategaeth.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy gynorthwyo busnesau yng Nghymru i gynyddu allforion

  • Cynyddu nifer y cwmnïau o Gymru sy’n cynnal ymweliadau â ffocws ar allforio â Ffrainc trwy ddarparu cymorth uniongyrchol cyn ac yn ystod ymweliadau.
  • Cydweithio â phartneriaid yn y farchnad fel y Siambr Fasnach Ffrengig-Brydeinig a’r Adran Masnach Ryngwladol i nodi cyfleoedd allforio o fewn y farchnad Ffrengig sy’n cyd-fynd â galluoedd cwmnïau Cymru. Mae sectorau â ffocws o’r fath yn cynnwys awyrofod, gwyddorau bywyd, seiberddiogelwch a bwyd a diod.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo cyfleoedd masnach yn Ffrainc i gwmnïau’r sectorau allweddol o Gymru er mwyn sicrhau mwy o ymweliadau datblygu busnes.
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda chydweithwyr yn y sector bwyd a diod i amlinellu potensial Ffrainc fel marchnad allforio a nodi cyfleoedd i arddangos cynnyrch Cymru ar hyd a lled rhanbarthau Ffrainc.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo sector bwyd a diod Cymru i brynwyr er mwyn sicrhau eu presenoldeb yn nigwyddiad BlasCymru/TasteWales.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy ddenu mewnfuddsoddiad o’r radd flaenaf

  • Cynnal gwaith datblygu busnes penodol er mwyn targedu diwydiannau allweddol yn Ffrainc mewn sectorau megis lled-ddargludyddion cyfansawdd, fintech, technoleg a’r manteision amlinellol o weithredu o safle yng Nghymru.
  • Canolbwyntio’n rhagweithiol ar sectorau allweddol lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiberddiogelwch a diwydiannau creadigol er mwyn amlinellu’r galluoedd yng Nghymru o safbwynt y sgiliau sydd ar gael, galluoedd ymchwil a datblygu, eiddo a mynediad at gyllid.
  • Sicrhau teithiau o’r tu allan i Gymru gan gwmnïau o Ffrainc.
  • Gweithio gyda phartneriaid a lluosyddion fel yr Adran Masnach Ryngwladol a fforymau busnes er mwyn amlinellu cryfderau Cymru a chyd-dargedu busnesau â photensial buddsoddi.
  • Hyrwyddo cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer twf busnesau yng Nghymru drwy ddefnyddio prosiectau cymell megis Ynni Morol Cymru fel cyfle i fusnesau a ffordd o ddyrchafu enw da Cymru.
  • Meithrin a chynnal cysylltiadau cryf â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau o blith buddsoddwyr presennol Ffrainc yng Nghymru er mwyn deall cynlluniau cyfredol a nodi cyfleoedd i ail-fuddsoddi. Caiff hyn ei gyflawni drwy weithio ar y cyd â thimau yng Nghymru.

Uchelgais 3: Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

  • Gweithio’n uniongyrchol gyda sefydliadau ledled Ffrainc i dynnu sylw at feysydd lle mae gan Gymru neges gref. Adeiladu ar waith cyfredol gyda mentrau Vanguard a Four Motors a chyswllt cryf â rhanbarthau megis Llydaw.
  • Gweithio gyda thimau ehangach Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r hyn a gyflawnwyd ar sail Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a llwyddiannau ailgylchu fel enghreifftiau.
  • Gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo’r rhagoriaeth ymchwil sy’n cael ei chyflawni ledled Cymru ac edrych am gyfleoedd i gydweithredu.
  • Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd twristiaeth yn y farchnad drwy gynlluniau gweithgarwch sy’n gydnaws â Croeso Cymru.
  • Gweithio gyda sefydliadau ymchwil a phrifysgolion yng Nghymru i dynnu sylw at ddull Cymru o weithredu ac ymrwymo i feysydd fel cynaliadwyedd ac ymchwil ynni adnewyddadwy

Yr Almaen

Uchelgais 1: Codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol

  • Adeiladu a chreu rhwydwaith cryf o Gymry ar wasgar ledled yr Almaen gan ganolbwyntio ar swyddfeydd yn Berlin a Düsseldorf. Rheoli grŵp bach o gysylltiadau o’r radd flaenaf i gefnogi nodau’r Strategaeth Ryngwladol.
  • Defnyddio’r gweithgaredd a gynlluniwyd o amgylch ymgyrch Cymru yn yr Almaen 2021 i godi proffil mewn rhanbarthau allweddol.
  • Gweithio gyda phartneriaid chwaraeon a diwylliannol yng Nghymru ar gynlluniau ymweliadau blynyddol i’r Almaen er mwyn nodi cyfleoedd i gefnogi tra yn y farchnad ac arddangos i gynulleidfa eang.
  • Annog partneriaethau ymchwil a rhaglenni cyfnewid myfyrwyr rhwng prifysgolion yr Almaen a Chymru.
  • Defnyddio Dydd Gŵyl Dewi fel llwyfan i hyrwyddo Cymru ar hyd a lled yr Almaen ac ymgysylltu â rhwydweithiau Cymry ar wasgar a rhanbarthol.
  • Adeiladu ar y cysylltiadau a sefydlwyd gyda mentrau Vanguard a Four Motors.
  • Codi proffil Cymru drwy gynllun cyfathrebu â ffocws penodol gan gynnwys mwy o ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Gweithio gyda phartneriaid yn y farchnad fel y British Council a Siambrau Masnach y DU i wireddu amcanion y strategaeth.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy gynorthwyo busnesau yng Nghymru i gynyddu allforion

  • Gweithio gyda phartneriaid fel yr Adran Masnach Ryngwladol i nodi cyfleoedd allforio newydd o fewn yr Almaen sy’n cyd-fynd â gallu cwmnïau o Gymru. Mae sectorau â ffocws o’r fath yn cynnwys y diwydiant modurol, awyrofod, gweithgynhyrchu uwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd, gwyddorau bywyd a bwyd a diod.
  • Cynyddu nifer y cwmnïau o Gymru sy’n cynnal ymweliadau â ffocws ar allforio â’r Almaen drwy ddarparu cymorth uniongyrchol cyn ac yn ystod ymweliadau.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo cyfleoedd masnach yn yr Almaen i gwmnïau’r sectorau allweddol o Gymru er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd yn y farchnad.
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda chydweithwyr y sector bwyd a diod er mwyn amlinellu potensial yr Almaen fel marchnad allforio a nodi cyfleoedd i arddangos cynnyrch o Gymru gydol y flwyddyn.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo sector bwyd a diod Cymru i brynwyr cenedlaethol er mwyn sicrhau eu presenoldeb yn nigwyddiad BlasCymru/TasteWales.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy ddenu mewnfuddsoddiad o’r radd flaenaf

  • Cynnal gweithgarwch datblygu busnes penodol er mwyn targedu sectorau allweddol yn yr Almaen megis gweithgynhyrchu uwch, ynni a TGCh a’r manteision amlinellol o weithredu o safle yng Nghymru.
  • Canolbwyntio’n rhagweithiol ar sectorau allweddol lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiberddiogelwch a diwydiannau creadigol er mwyn amlinellu’r galluoedd yng Nghymru o safbwynt y sgiliau sydd ar gael, galluoedd ymchwil a datblygu, eiddo a mynediad at gyllid.
  • Gweithio gyda phartneriaid a lluosyddion fel yr Adran Masnach Ryngwladol, Siambrau Masnach a fforymau busnes er mwyn amlinellu cryfderau Cymru a chyd-dargedu busnes aphotensial buddsoddi.
  • Hyrwyddo cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer twf busnesau yng Nghymru drwy ddefnyddio prosiectau cymell megis Ynni Morol Cymru fel cyfle i fusnesau a ffordd o ddyrchafu enw da Cymru.
  • Meithrin a chynnal cysylltiadau cryf â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau o blith buddsoddwyr presennol yr Almaen er mwyn deall cynlluniau cyfredol a nodi cyfleoedd i ailfuddsoddi. Caiff hyn ei gyflawni drwy weithio ar y cyd â thimau yng Nghymru.

Uchelgais 3: Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

  • Gweithio’n uniongyrchol gyda sefydliadau ledled yr Almaen i dynnu sylw at feysydd lle mae gan Gymru neges gref. Adeiladu ar waith cyfredol gyda mentrau Vanguard a Four Motors.
  • Gweithio gyda thimau ehangach Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r hyn a gyflawnwyd ar sail Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a llwyddiannau ailgylchu fel enghreifftiau.
  • Gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo’r rhagoriaeth ymchwil sy’n digwydd ledled Cymru a chwilio am gyfleoedd cydweithredu â sefydliadau yn yr Almaen.
  • Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd twristiaeth yn yr Almaen drwy gynlluniau gweithgarwch sy’n gydnaws â Croeso Cymru.
  • Gweithio gyda sefydliadau ymchwil a phrifysgolion yng Nghymru i amlygu dull Cymru o weithredu ac ymrwymo i feysydd fel cynaliadwyedd ac ymchwil ynni adnewyddadwy.

Gwlad Belg

Mae’r tîm yng Ngwlad Belg wedi’i leoli o fewn swyddfa gynrychioliadol Llywodraeth Cymru ym Mrwsel ac yn cwmpasu marchnadoedd Ewropeaidd allweddol eraill o’r fan hyn. Yn ogystal, mae gan y Swyddfa ym Mrwsel ffocws ehangach ar ddarparu a chefnogi gweithgareddau’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd.

Uchelgais 1: Codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol

  • Datblygu rhwydweithiau a chysylltiadau ar draws marchnadoedd gogledd Ewrop er mwyn nodi’r cyfleoedd i arddangos Cymru. Nodi unigolion allweddol o fewn rhanbarthau a hoffai ein cynorthwyo i gyflawni ein tri uchelgais allweddol.
  • Adeiladu a meithrin rhwydweithiau cryf o Gymry ar wasgar ar draws marchnadoedd Ewropeaidd blaenoriaethol a sefydliadau’r UE, gan adeiladu ar set gadarn o gysylltiadau sydd eisoes yn bodoli, ynghyd â chyfres helaeth o gysylltiadau’r UE.
  • Gweithio gyda phartneriaid chwaraeon a diwylliannol yng Nghymru ar gynlluniau ymweliadau blynyddol i nodi cyfleoedd i gefnogi tra yn y farchnad ac arddangos i gynulleidfa eang yn y farchnad.
  • Annog partneriaethau ymchwil a rhaglenni cyfnewid myfyrwyr rhwng rhanbarthau Ewrop a phrifysgolion Cymru.
  • Parhau i ddefnyddio Dydd Gŵyl Dewi fel llwyfan i hyrwyddo Cymru mewn marchnadoedd Ewropeaidd allweddol ac ymgysylltu â rhwydweithiau Cymry ar wasgar a rhanbarthol, ond gan ddatblygu digwyddiadau arloesol ar fwy nag un diwrnod.
  • Codi proffil Cymru drwy gynllun cyfathrebu â ffocws penodol, yn enwedig er mwyn cefnogi digwyddiadau newydd, gan gynnwys mwy o ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Adeiladu ar gydberthnasau rhanbarthol sefydledig dwyochrog ac amlochrog gan gynnwys cysylltiadau â Fflandrys.
  • Gweithio gyda phartneriaid yn y farchnad fel y British Council a’r Siambrau Masnach i wireddu amcanion y strategaeth.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy gynorthwyo busnesau yng Nghymru i gynyddu allforion

  • Gweithio gyda phartneriaid fel y Siambrau Masnach a’r Adran Masnach Ryngwladol i nodi cyfleoedd allforio o fewn marchnadoedd blaenoriaethol sy’n cyd-fynd â galluoedd cwmnïau Cymru. Mae sectorau â ffocws o’r fath yn cynnwys awyrofod, seiberddiogelwch, gweithgynhyrchu uwch, gwyddorau bywyd a bwyd a diod.
  • Cynyddu nifer y cwmnïau o Gymru sy’n cynnal ymweliadau â ffocws ar allforio i’r prif ganolfannau Ewropeaidd drwy ddarparu cymorth uniongyrchol cyn ac yn ystod ymweliadau.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo cyfleoedd masnach ym marchnadoedd Ewrop i gwmnïau’r sectorau allweddol o Gymru er mwyn sicrhau mwy o ymweliadau datblygu busnes.
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda chydweithwyr y sector bwyd a diod er mwyn amlinellu’r potensial yn Ewrop fel marchnad allforio a nodi cyfleoedd i arddangos cynnyrch Cymru gydol y flwyddyn.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo sector bwyd a diod Cymru i brynwyr cenedlaethol er mwyn sicrhau eu presenoldeb yn nigwyddiad BlasCymru/TasteWales.
  • Sicrhau cysondeb effeithiol rhwng hyrwyddo polisi a chyfleoedd allforio i fusnesau Cymru.
  • Sicrhau dilyniant o ran cyfraniad Llywodraeth Cymru i drafodaethau ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol er mwyn sicrhau’r buddiannau mwyaf i economi Cymru.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy ddenu mewnfuddsoddiad o’r radd flaenaf

  • Cynnal gweithgarwch datblygu busnes penodol er mwyn targedu diwydiannau allweddol yn Ewrop, fel gweithgynhyrchu uwch, fintech, ynni a TGCh a’r manteision amlinellol o weithredu o safle yng Nghymru.
  • Canolbwyntio’n rhagweithiol ar sectorau allweddol lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiberddiogelwch a diwydiannau creadigol er mwyn amlinellu’r galluoedd yng Nghymru o safbwynt y sgiliau sydd ar gael, galluoedd ymchwil a datblygu, eiddo a mynediad at gyllid.
  • Gweithio gyda’r Adran Masnach Ryngwladol i sicrhau teithiau o’r tu allan i Gymru gan gwmnïau Ewropeaidd.
  • Gweithio gyda phartneriaid a lluosyddion fel yr Adran Masnach Ryngwladol, siambrau busnes a fforymau busnes er mwyn amlinellu cryfderau Cymru a chyd-dargedu busnesau â photensial buddsoddi.
  • Hyrwyddo cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer twf busnesau yng Nghymru drwy ddefnyddio prosiectau cymell megis Ynni Morol Cymru fel cyfle i fusnesau a ffordd o ddyrchafu enw da Cymru.
  • Meithrin a chynnal perthynas gref â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau o blith buddsoddwyr Ewropeaidd cyfredol yng Nghymru er mwyn deall cynlluniau cyfredol a nodi cyfleoedd i ail-fuddsoddi. Caiff hyn ei gyflawni drwy weithio ar y cyd â thimau yng Nghymru.

Uchelgais 3: Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

  • Gweithio’n uniongyrchol gyda sefydliadau ar draws prif ranbarthau Ewrop i dynnu sylw at feysydd lle mae gan Gymru neges gref.
  • Gweithio gyda thimau ehangach Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r hyn a gyflawnwyd ar sail Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a llwyddiannau ailgylchu fel enghreifftiau.
  • Gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo’r rhagoriaeth ymchwil sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru a chwilio am gyfleoedd i gydweithredu’n rhyngwladol.
  • Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd twristiaeth yn y farchnad drwy gynlluniau gweithgarwch sy’n gydnaws â Croeso Cymru.
  • Gweithio gyda sefydliadau ymchwil a phrifysgolion yng Nghymru i dynnu sylw at ddull Cymru o weithredu ac ymrwymo i feysydd fel cynaliadwyedd ac ymchwil ynni adnewyddadwy.

Llundain

Uchelgais 1: Codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol

  • Datblygu ac adeiladu rhwydwaith cryf o luosyddion a nodi unigolion allweddol sydd â’r gallu i gynorthwyo i gyflawni yn erbyn y tri uchelgais allweddol.
  • Gweithio gyda phartneriaid chwaraeon a diwylliannol yng Nghymru ar gynlluniau ymweliadau blynyddol i nodi cyfleoedd i gefnogi yn Llundain ac arddangos i gynulleidfa eang.
  • Defnyddio Dydd Gŵyl Dewi fel llwyfan i hyrwyddo Cymru ar y cyd â rhwydwaith Cymru yn Llundain sydd wedi ennill ei blwyf.
  • Adeiladu a datblygu’r rhwydwaith Cymry ar wasgar ymhellach yn Llundain drwy gydweithio â sefydliadau partner. Rheoli grŵp bach o gysylltiadau o’r radd flaenaf yn Llundain i gefnogi cylch gwaith ehangach y swyddfa.
  • Cefnogi ein gwaith Cysylltiadau Rhyngwladol i ffurfio perthynas agosach gyda Llysgenadaethau sydd yn Llundain.
  • Codi proffil Cymru drwy gynllun cyfathrebu â ffocws penodol sy’n cynnwys mwy o ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy gynorthwyo busnesau yng Nghymru i gynyddu allforion

  • Parhau i weithio gyda sectorau fel bwyd a diod er mwyn arddangos cynnyrch Cymru i farchnad Llundain a sicrhau gwerthiannau uniongyrchol.
  • Gweithio a rheoli perthynas uniongyrchol gydag arweinwyr yr Adran Masnach Ryngwladol yn Llundain er mwyn sicrhau bod negeseuon diweddaraf y sector yn cael eu lledaenu ar draws y rhwydwaith.
  • Gweithio gyda fforymau allweddol y sector yng Nghymru i fanteisio ar gyfleoedd rhyngwladol drwy farchnad Llundain.
  • Rhoi cymorth uniongyrchol i fuddsoddwyr rhyngwladol cyfredol yng Nghymru sydd â phencadlys Ewropeaidd yn Llundain.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy ddenu mewnfuddsoddiad o’r radd flaenaf

  • Nodi twf cwmnïau rhyngwladol yn Llundain a darparu neges ranbarthol Gymreig er mwyn cefnogi twf y tu allan i Lundain.
  • Mynychu a hyrwyddo negeseuon sectoraidd allweddol Cymru yn nigwyddiadau Llundain, sy’n cyd-fynd â sectorau fel fintech a gwasanaethau proffesiynol.
  • Hyrwyddo cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer twf busnesau yng Nghymru drwy ddefnyddio prosiectau cymell megis Ynni Morol Cymru fel cyfle i fusnesau a ffordd o ddyrchafu enw da Cymru.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo sector bwyd a diod Cymru i uwch brynwyr er mwyn sicrhau eu presenoldeb yn nigwyddiad BlasCymru/TasteWales.

Uchelgais 3: Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

  • Gweithio’n uniongyrchol gyda sefydliadau yn Llundain i nodi cyfleoedd a llwyfannau i hyrwyddo meysydd lle mae gan Gymru neges gref.
  • Gweithio gyda thimau ehangach Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i nodi cyfleoedd a llwyfannau i dynnu sylw at neges Cymru.
  • Ymgysylltu a chydweithio â Swyddfa’r Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gynlluniau blynyddol i hyrwyddo negeseuon allweddol ledled Llundain.

Y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA)

Mae tîm MENA yn gweithio o ddwy swyddfa - y naill yn Dubai, yr Emiraethau Arabaidd Unedig a’r llall yn Doha, Qatar. O blith gwledydd Cyngor Cydweithredol y Gwlff (GCC), y marchnadoedd pwysicaf yw’r Emiraethau Arabaidd Unedig, Qatar, Saudi Arabia, Kuwait, Oman, a Bahrain.

Uchelgais 1: Codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol

  • Rhoi cymorth uniongyrchol i sector addysg uwch Cymru ehangu ei gyrhaeddiad ar draws y rhanbarth o safbwynt partneriaethau. Cefnogi Croeso Cymru yn eu dyheadau i ddenu mwy o ymwelwyr i Gymru ar wasanaeth awyren uniongyrchol Qatar Airways rhwng Doha a Chaerdydd.
  • Ymgysylltu a gweithio gyda sefydliadau partner a rhanddeiliaid Cymru i nodi cyfleoedd i ymweld â Chymru a’i hyrwyddo yn rhanbarth Cyngor Cydweithredol y Gwlff gan gynnwys grwpiau chwaraeon a diwylliannol fel Undeb Rygbi Cymru a’r Cwmni Opera Cenedlaethol.
  • Adeiladu rhwydwaith cryf o Gymry ar wasgar ar draws y rhanbarth a cheisio rheoli grŵp bach o gysylltiadau o’r radd flaenaf er mwyn cefnogi cylch gwaith ehangach y tîm.
  • Annog partneriaethau ymchwil rhwng sefydliadau yng Nghyngor Cydweithredol y Gwlff a Chymru.
  • Manteisio i’r eithaf ar ddilyniant cyfryngau cymdeithasol cryf y rhanbarth gyda chynnwys gwreiddiol o Gymru.
  • Defnyddio’r cyfleoedd a gynigir gan World EXPO 2020 yn Dubai fel platfform i hyrwyddo Cymru ar lwyfan byd, ar draws ystod o themâu.
  • Gweithio gyda phartneriaid yn y farchnad fel y British Council i wireddu amcanion y strategaeth.
  • Defnyddio Dydd Gŵyl Dewi fel llwyfan i hyrwyddo Cymru yn y rhanbarth ac ymgysylltu â’r Cymry ar wasgar.
  • Codi proffil Cymru drwy gynllun cyfathrebu â ffocws penodol sy’n cynnwys mwy o ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy gynorthwyo busnesau yng Nghymru i gynyddu allforion

  • Darparu cymorth uniongyrchol i allforwyr Cymru yw prif ffocws tîm MENA.
  • Mewn cydweithrediad â phartneriaid fel yr Adran Masnach Ryngwladol, nodi cyfleoedd allforio o fewn y farchnad sy’n cyd-fynd â galluoedd cwmnïau o Gymru mewn sectorau megis ynni/nwy ac olew, gwyddorau bywyd ac adeiladu.
  • Cynyddu’r ffocws ar y sector technoleg gan gynnwys seiberddiogelwch, fintech a medtech i wireddu potensial allforio.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i nodi cwmnïau o Gymru sy’n gallu archwilio cyfleoedd masnachu yn y rhanbarth drwy ddarparu adroddiadau gwybodaeth am y farchnad a phwysleisio cymorth UK Export Finance.
  • Cefnogi cwmnïau o Gymru ar deithiau masnach penodol sy’n ymwneud â digwyddiadau fel Arab Health ac ADIPEC.
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda chydweithwyr y sector bwyd a diod er mwyn parhau i amlinellu potensial rhanbarthau allweddol Cyngor Cydweithredol y Gwlff a nodi cyfleoedd i arddangos cynnyrch o Gymru gydol y flwyddyn.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo sector bwyd Cymru i brynwyr cenedlaethol yn y rhanbarth er mwyn sicrhau eu presenoldeb yn BlasCymru/TasteCymru.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy ddenu mewnfuddsoddiad o’r radd flaenaf

  • Gweithio gyda phartneriaid a lluosyddion fel yr Adran Masnach Ryngwladol er mwyn tynnu sylw at gryfderau Cymru a thargedu buddsoddwyr ar y cyd ble fo cyfleoedd yn cydweddu.
  • Hyrwyddo cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer twf busnesau yng Nghymru drwy ddefnyddio prosiectau cymell er mwyn dyrchafu enw da Cymru.
  • Gweithio gyda phartneriaid a lluosyddion megis yr Adran Masnach Ryngwladol er mwyn meithrin a chynnal cysylltiadau cryf o fewn sefydliadau buddsoddi allweddol yn y rhanbarth gyda’r bwriad o gyflwyno cyfleoedd buddsoddi o Gymru.

Uchelgais 3: Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

  • Elwa i’r eithaf ar bresenoldeb Cymru yn Dubai World EXPO 2020 a chyflwyno rhaglen amrywiol o weithgarwch i arddangos Cymru ar lwyfan byd.
  • Gweithio gyda thimau ehangach Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r hyn a gyflawnwyd ar sail Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a llwyddiannau ailgylchu fel enghreifftiau.
  • Gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo’r rhagoriaeth ymchwil sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru a chwilio am gyfleoedd i gydweithredu’n rhyngwladol.

India

Uchelgais 1: Codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol

  • Gweithio’n uniongyrchol gyda sefydliadau partner a rhanddeiliaid Cymru i nodi cyfleoedd i ymweld â Chymru a’u hyrwyddo yn India.
  • Adeiladu ar y gwaith presennol i hyrwyddo’r sector addysg uwch a phellach yng Nghymru a sicrhau partneriaethau newydd â sefydliadau Indiaidd. Mae Global Wales wedi nodi India fel marchnad darged.
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda’r academyddion blaenllaw ac arbenigwyr y sector i ymweld ag India a chreu cysylltiadau ymchwil ac arloesi rhwng y rhanbarthau.
  • Adeiladu rhwydwaith cryf o Gymry ar wasgar ar hyd a lled India a cheisio rheoli grŵp bach o gysylltiadau o’r radd flaenaf i gefnogi cylch gwaith ehangach y tîm.
  • Defnyddio Dydd Gŵyl Dewi fel llwyfan i hyrwyddo Cymru.
  • Gweithio gyda phartneriaid yn y farchnad fel y British Council a’r Siambrau Masnach i wireddu amcanion y strategaeth.
  • Codi proffil Cymru drwy gynllun cyfathrebu â ffocws penodol gan gynnwys mwy o ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy gynorthwyo busnesau yng Nghymru i gynyddu allforion

  • Gweithio ar y cyd â’r Adran Masnach Ryngwladol a siambrau busnes ledled India er mwyn nodi cyfleoedd allforio o fewn y farchnad sy’n cyd-fynd â gallu cwmnïau o Gymru. Mae sectorau o’r fath yn cynnwys TGCh, awyrofod a gweithgynhyrchu uwch.
  • Cynyddu nifer y cwmnïau o Gymru sy’n mynd ar ymweliadau allforio i India drwy roi cymorth uniongyrchol cyn, yn ystod ac ar ôl ymweliadau, i sicrhau bod y cwmnïau’n llwyddo.
  • Mynd ati i hyrwyddo cyfleoedd masnach yn India i gwmnïau o Gymru o amgylch sectorau allweddol er mwyn sicrhau teithiau masnach â nod penodol.
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda chydweithwyr y sector bwyd a diod er mwyn amlinellu potensial India fel marchnad allforio a nodi cyfleoedd i arddangos cynnyrch Cymru gydol y flwyddyn.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy ddenu mewnfuddsoddiad o’r radd flaenaf

  • Cynnal gwaith datblygu busnes penodol i dargedu diwydiannau allweddol yn India fel TGCh, awyrofod a gweithgynhyrchu, gan amlinellu manteision gweithredu o safle yng Nghymru.
  • Canolbwyntio’n rhagweithiol ar sectorau allweddol lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiberddiogelwch a diwydiannau creadigol er mwyn amlinellu’r galluoedd yng Nghymru o safbwynt y sgiliau sydd ar gael, galluoedd ymchwil a datblygu, eiddo a mynediad at gyllid.
  • Sicrhau taith o’r tu allan ar y cyd i gwmnïau o India i Gymru gyda’r bwriad o annog cwmnïau Indiaidd i sicrhau safle busnes yma yng Nghymru.
  • Gweithio gyda phartneriaid a lluosyddion mewn marchnadoedd megis yr Adran Masnach Ryngwladol a Fforwm Awyrofod Cymru i amlinellu cryfderau Cymru a thargedu busnes gyda photensial buddsoddi ar y cyd.
  • Hyrwyddo cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer twf busnesau yng Nghymru drwy ddefnyddio prosiectau cymell megis Ynni Morol Cymru fel cyfle i fusnesau a ffordd o ddyrchafu enw da Cymru.
  • Meithrin a chynnal perthynas gref â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau o blith buddsoddwyr presennol India yng Nghymru er mwyn deall cynlluniau cyfredol a nodi cyfleoedd i ailfuddsoddi.

Uchelgais 3: Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

  • Defnyddio dathliadau blynyddol Dydd Gŵyl Dewi mewn digwyddiadau rhanbarthol penodol i gyflwyno negeseuon allweddol Cymru a datblygu rhwydwaith o Gymry ar wasgar.
  • Gweithio gyda thimau ehangach Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r hyn a gyflawnwyd ar sail Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a llwyddiannau ailgylchu fel enghreifftiau.
  • Gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo’r rhagoriaeth ymchwil sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru a chwilio am gyfleoedd i gydweithredu’n rhyngwladol.
  • Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd twristiaeth yn y farchnad drwy gynlluniau gweithgarwch sy’n gydnaws â Croeso Cymru.

Tsieina

Uchelgais 1: Codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol

  • Ymgysylltu a gweithio gyda sefydliadau partner a rhanddeiliaid Cymru i nodi cyfleoedd i ymweld â Chymru a’i hyrwyddo yn Tsieina gan gynnwys grwpiau chwaraeon a diwylliannol fel Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
  • Parhau i weithio gyda Croeso Cymru er mwyn nodi a sicrhau cyfleoedd twristiaeth o farchnad Tsieina yng Nghymru.
  • Adeiladu ar gysylltiadau llywodraeth ranbarthol a’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth presennol i ddangos ymrwymiad a chynnydd tuag at ymweliadau dwyochrog.
  • Rhoi cymorth uniongyrchol i sefydliadau addysg bellach Cymru i feithrin cysylltiadau yng Nghymru a sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu recriwtio.
  • Adeiladu rhwydwaith cryf o Gymry ar wasgar ar draws Tsieina a cheisio rheoli grŵp bach o gysylltiau o’r radd flaenaf i gefnogi cylch gwaith ehangach y tîm. Cyn-fyfyrwyr ac alumni sefydliadau o Gymru sydd wedi dychwelyd i Tsieina sy’n cyflwyno’r potensial mwyaf.
  • Annog partneriaethau ymchwil rhwng sefydliadau yng Nghymru a Tsieina a rhaglenni cyfnewid myfyrwyr.
  • Defnyddio Dydd Gŵyl Dewi fel llwyfan i hyrwyddo Cymru. 
  • Gweithio gyda phartneriaid yn y farchnad fel y British Council a’r Siambrau Masnach i wireddu amcanion y strategaeth.
  • Codi proffil Cymru drwy gynllun cyfathrebu â ffocws penodol gan gynnwys mwy o ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy gynorthwyo busnesau yng Nghymru i gynyddu allforion

  • Mewn cydweithrediad â phartneriaid fel yr Adran Masnach Ryngwladol ar draws rhwydwaith Tsieina, nodi cyfleoedd allforio o fewn y farchnad sy’n cyd-fynd â galluoedd cwmnïau o Gymru. Mae sectorau o’r fath yn cynnwys gweithgynhyrchu uwch.
  • Cynyddu nifer y cwmnïau o Gymru sy’n cynnal ymweliadau allforio i Tsieina trwy ddarparu cymorth uniongyrchol cyn ac yn ystod ymweliadau er mwyn sicrhau parodrwydd ar gyfer y farchnad Tsieineaidd.
  • Mynd ati i hyrwyddo cyfleoedd masnach yn Tsieina i gwmnïau o Gymru o amgylch sectorau allweddol er mwyn sicrhau teithiau masnach â ffocws.
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda chydweithwyr y sector bwyd a diod yng Nghymru i amlinellu’r potensial allforio i gwmnïau o Gymru. Nodi cyfleoedd i arddangos cynnyrch Cymru mewn digwyddiadau allweddol gydol y flwyddyn. • Mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo sector bwyd Cymru i brynwyr cenedlaethol yn Tsieina er mwyn sicrhau eu bod yn mynychu digwyddiad BlasCymru/TasteWales.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy ddenu mewnfuddsoddiad o’r radd flaenaf

  • Hyrwyddo Cymru fel lleoliad ar gyfer buddsoddiad Tsieineaidd ac adeiladu ar weithgarwch gydag Asiantaeth Hybu Tsieina a Bwrdd Hybu Buddsoddiadau Beijing.
  • Sicrhau dirprwyaeth o gwmnïau buddsoddi sy’n canolbwyntio ar y sector i Gymru.
  • Canolbwyntio’n rhagweithiol ar sectorau allweddol ac amlinellu’r galluoedd yng Nghymru o ran y sgiliau sydd ar gael, galluoedd ymchwil a datblygu, eiddo a mynediad at gyllid.
  • Hyrwyddo cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer twf busnesau yng Nghymru drwy ddefnyddio prosiectau cymell megis Ynni Morol Cymru fel cyfle i fusnesau a ffordd o ddyrchafu enw da Cymru.
  • Gweithio gyda phartneriaid a lluosyddion fel yr Adran Masnach Ryngwladol, Siambrau Masnach a fforymau busnes er mwyn amlinellu cryfderau Cymru a chyd-dargedu busnes a photensial buddsoddi.

Uchelgais 3: Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

  • Adeiladu ar bartneriaethau ymchwil Tsieina-Cymru a nodi cyfleoedd a llwyfannau i bwysleisio’r neges Gymreig i gynulleidfa eang.
  • Gweithio gyda thimau ehangach Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r hyn a gyflawnwyd ar sail Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a llwyddiannau ailgylchu fel enghreifftiau.
  • Gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo’r rhagoriaeth ymchwil sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru a chwilio am gyfleoedd i gydweithredu’n rhyngwladol.
  • Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd twristiaeth yn y farchnad drwy gynlluniau gweithgarwch sy’n gydnaws â Croeso Cymru.

Japan

Uchelgais 1: Codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol

  • Adeiladu ar waddol ac effaith gadarnhaol Cwpan Rygbi’r Byd 2019. Defnyddio sefydliadau partner sy’n ymweld i ddod o hyd i gyfleoedd i hyrwyddo Cymru yn Japan.
  • Parhau i feithrin cysylltiadau cryf â rhanbarthau Oita, Kitakyushu a Kumamoto sydd wedi amlinellu ymrwymiadau i gydweithio a chreu cysylltiadau parhaol â Chymru.
  • Cefnogi creu rhwydwaith cryf o Gymry ar wasgar ledled Japan, cefnogi’r grwpiau Cymreig lleol a cheisio rheoli grŵp bychan o gysylltiadau o’r radd flaenaf er mwyn cefnogi cylch gwaith ehangach y tîm.
  • Adeiladu ar effaith ymweliad y Prif Weinidog ym mis Medi 2019 a ddangosodd ymrwymiad i gysylltiadau rhwng y ddwy wlad ac adeiladu ar gysylltiadau chwaraeon, diwylliannol, addysgol ac economaidd.
  • Gwneud y gorau o gyfleoedd twristiaeth yn y farchnad trwy gynlluniau gweithgaredd wedi eu halinio gyda Croeso Cymru.
  • Codi proffil Cymru drwy gynllun cyfathrebu â ffocws penodol gan gynnwys mwy o ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Gweithio gyda phartneriaid yn y farchnad fel y British Council a’r Siambrau Masnach i wireddu amcanion y strategaeth.
  • Gweithio gyda’r gymuned Cymry ar wasgar i ennyn diddordeb yng Nghymru ac o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi yn benodol.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy gynorthwyo busnesau yng Nghymru i gynyddu allforion

  • Cynyddu nifer y cwmnïau o Gymru sy’n cynnal ymweliadau â ffocws ar allforio i Japan drwy ddarparu cymorth uniongyrchol cyn ac yn ystod ymweliadau, a sicrhau parodrwydd.
  • Mynd ati i hyrwyddo cyfleoedd masnach yn Japan i gwmnïau o Gymru o amgylch sectorau allweddol.
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda chydweithwyr y sector bwyd a diod er mwyn amlinellu’r potensial yn Japan ac adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y ddwy flynedd ddiwethaf o gwmpas cig oen a mewnforion cynnyrch o’r radd flaenaf o Gymru.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo sector bwyd a diod Cymru i brynwyr cenedlaethol Japan i sicrhau eu bod yn mynychu digwyddiad BlasCymru/TasteWales.

Uchelgais 2: Tyfu ein heconomi drwy ddenu mewnfuddsoddiad o’r radd flaenaf

  • Meithrin a chynnal cysylltiadau cryf â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau o blith cwmnïau buddsoddi presennol er mwyn deall cynlluniau cyfredol a nodi cyfleoedd i ailfuddsoddi. Caiff hyn ei gyflawni drwy weithio ar y cyd a thimau yng Nghymru.
  • Parhau i adeiladu ar gysylltiadau o fewn sectorau seiberddiogelwch a lled-ddargludyddion cyfansawdd Japan er mwyn amlinellu manteision gweithredu o safle yng Nghymru, o safbwynt y sgiliau sydd ar gael, galluoedd ymchwil a datblygu, eiddo a mynediad at gyllid.
  • Cydweithio â’r Adran Masnach Ryngwladol ar hyrwyddo’r gallu yng Nghymru o fewn y sectorau technoleg a fintech ehangach.
  • Parhau i gydweithio â sector adeiladu tai sefydledig Japan gyda’r potensial i greu canolfan yng Nghymru i wasanaethu marchnad ehangach y DU.
  • Hyrwyddo cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer twf busnesau yng Nghymru drwy ddefnyddio prosiectau cymell megis Ynni Morol Cymru fel cyfle i fusnesau a ffordd o ddyrchafu enw da Cymru.

Uchelgais 3: Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

  • Gweithio’n uniongyrchol gyda sefydliadau cenedlaethol yn Japan i dynnu sylw at feysydd lle mae gan Gymru neges gref. O bosib yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy a chynaliadwyedd.