Neidio i'r prif gynnwy
Teitl y cynnig:

Defnyddio’r arian ar gyfer Addysg Ôl-16 yng Nghymru 2021 i 2022

Swyddog(ion) sy’n cwblhau’r Asesiad Effaith Integredig (enw(au) ac enw’r tîm):

Geoff Hicks (Yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau)

Helen Scaife (Yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau)

Adran: Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes
Pennaeth yr Is-adran/SRO (enw): Alan Woods
Ysgrifennydd y Cabinet / Y Weinidog sy'n gyfrifol: Y Gweinidog Addysg
Dyddiad dechrau: Ionawr 2021

 

Adran 1: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Gofynnir i’r Gweinidog Addysg gymeradwyo dyraniadau cyllid ar gyfer y sector ôl-16. Cyhoeddwyd y gyllideb ar gyfer 2021 i 2022 yn ddiweddar ac mae’r Llinell Wariant yn y Gyllideb ar gyfer Darpariaeth Addysg Bellach wedi’i gosod ar £502.13 miliwn. Mae hyn yn gynnydd o £39.06 miliwn ar gyllideb y flwyddyn flaenorol.

Hirdymor

  • Mae llawer o’r gyllideb yn cael ei dyrannu yn unol â blaenoriaethau ac ymrwymiadau cyllido sy’n bodoli eisoes. Mae’r opsiynau ar gyfer sut i ddefnyddio gweddill y cyllid wedi’u rhoi gerbron y Gweinidog yn y cyngor.
  • Mae swyddogion yn argymell cynnydd o 7.1% i gyfradd gyllido unedau'r sector – Addysg Bellach , Chweched Dosbarth a Dysgu Oedolion Awdurdodau Lleol. 
  • Mae Chweched Dosbarthiadau Awdurdodau Lleol wedi cael cynnydd o 7.1% i'r gyfradd sylfaenol, ond mae'r newid canrannol gwirioneddol i'w cyllid yn dibynnu ar newidiadau i ddemograffeg a newidiadau i'r ddarpariaeth. 
  • Mae cyllid y Grant Dysgu Cymunedol wedi'i newid er mwyn dyrannu cyllid yn ôl poblogaeth yn hytrach na'r system hanesyddol a ddefnyddiwyd yn flaenorol. Mae'r fethodoleg hon yn sicrhau bod pobl Cymru yn cael mynediad cyfartal i ddarpariaeth a bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael yr un swm o gyllid waeth ble maent yn byw. Oherwydd natur y system ariannu flaenorol, bydd hyn yn golygu y bydd rhai awdurdodau lleol yn cael cynnydd sylweddol a gostyngiadau o’r lefelau cyllido blaenorol.
  • Mae swyddogion wedi cydweithio â phob awdurdod lleol i nodi sut y bydd yn cyrraedd ei darged pontio o fewn cyfnod addas o amser. Nid yw'r awdurdodau lleol hynny sy'n gweld gostyngiad mewn cyllid wedi gostwng mwy na 5 y cant oni bai eu bod wedi gofyn yn benodol am fwy o ostyngiad i gyd-fynd â'u cyfnod pontio eu hunain.

Atal

  • Bydd y cynnydd yn y gyfradd sylfaenol yn gwella cyfleoedd i ddysgwyr ar draws y sector; a bydd y newidiadau i’r ddarpariaeth rhan-amser yn gwneud y system yn decach i bob dysgwr ledled Cymru.
  • Bydd y newidiadau i'r fethodoleg ariannu ar gyfer y Grant Dysgu Cymunedol yn golygu bod y cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail decach na blynyddoedd blaenorol.

Integreiddio

  • Mae’r cyllid ar gyfer addysg ôl-16 yn cefnogi amcanion y Rhaglen Lywodraethu a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Mae cyllid ôl-16 yn cyfrannu at nifer o nodau llesiant sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn benodol:
    • Cymru lewyrchus (poblogaeth fedrus sydd wedi’i haddysgu’n dda)
    • Cymru sy'n fwy cyfartal (yn galluogi pobl i gyrraedd eu potensial)
    • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Cydweithio

  • Mae’r dyraniadau ôl-16 yn cael eu rhoi i Sefydliadau Addysg Bellach ac awdurdodau lleol ar gyfer cyflwyno’r ddarpariaeth ôl-16.

Cyfranogiad

  • Mae swyddogion wedi cydweithio â’r sector dros y pedair blynedd ddiwethaf i ddatblygu’r model cyllido diwygiedig hwn ar gyfer dyrannu’r Grant Dysgu Cymunedol. Mae awdurdodau lleol wedi bod yn ymwybodol o’r cynnydd neu’r gostyngiad tebygol i’w dyraniadau arfaethedig ers nifer o flynyddoedd.

Effaith

  • Bydd y cynnydd yn y gyfradd sylfaenol ar gyfer y ddarpariaeth yn cael effaith gadarnhaol ar yr holl ddysgwyr ôl-16.

Costau ac Arbedion

  • Cyhoeddwyd y gyllideb ar gyfer 2021 i 2022 yn ddiweddar ac mae’r Llinell Wariant yn y Gyllideb ar gyfer Darpariaeth Addysg Bellach wedi ei gosod ar £502.13 miliwn.

Mecanwaith

  • Ni chynigir deddfwriaeth.

Adran 7: casgliad

7.1 Sut mae’r bobl sy’n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi cael eu cynnwys wrth ei ddatblygu?

Cafwyd trafodaethau gyda darparwyr ynghylch datblygu systemau cyllido a chynllunio diwygiedig.

Mae’r penderfyniadau terfynol mewn perthynas â rhannu dyraniadau yn cael ei gwneud gan y Gweinidog.

7.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Mae llawer o’r gyllideb yn cael ei dyrannu yn unol â blaenoriaethau ac ymrwymiadau cyllido sy’n bodoli eisoes. Mae’r opsiynau ar gyfer sut i ddefnyddio gweddill y cyllid, gan gynnwys y cynnydd, wedi’u rhoi gerbron y Gweinidog yn y cyngor.

Mae swyddogion yn argymell cynnydd o 7.1% yn y gyfradd sylfaenol ar gyfer darpariaeth Addysg Bellach, Dysgu Oedolion a Chweched Dosbarth. Mae’r swm hwn yn cwmpasu’r ymrwymiad ychwanegol sy’n ofynnol oherwydd y cynnydd yng nghyflogau athrawon a thiwtoriaid Addysg Bellach.

Mae cadw ymgodiadau teneurwydd poblogaeth ac amddifadedd yn golygu y bydd mwy o gyllid yn canolbwyntio ar ardaloedd difreintiedig a gwledig, a fydd yn helpu i sicrhau bod darpariaeth addas ar gael i bob dysgwr.

Bydd y cynnydd yn y gyfradd sylfaenol ar gyfer y Grant Dysgu Cymunedol yn arwain at gynnydd yn y buddsoddiad mewn dysgu oedolion yng Nghymru sy'n ceisio cefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf am ein cymorth. Fodd bynnag, bydd newidiadau i'r fethodoleg ariannu ar gyfer dyrannu'r Grant Dysgu Cymunedol yn golygu cynnydd neu ostyngiad sylweddol i rai awdurdodau lleol. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol, yn achos y rhai sy'n cael cynnydd, ac effaith negyddol ar y ddarpariaeth ac argaeledd y gwasanaethau sy'n bodoli eisoes. Mae hyn yn ganlyniad angenrheidiol i sicrhau bod yr arian yn cael ei ddosbarthu’n decach o fewn cyllideb gyfyngedig.

Gwneir y dyraniadau hyn ar adeg lle mae staff a dysgwyr yn y sector ôl-16 yn wynebu anawsterau parhaus oherwydd pandemig Covid-19, a’r cyfnodau clo cysylltiedig. Mae darparwyr Addysg Bellach wedi cael cyllid ychwanegol er mwyn mynd i’r afael â’r newidiadau angenrheidiol yn sgil y pandemig – yn bennaf symud tuag at ddull dysgu cyfunol. Bydd y dyraniadau blynyddol yn parhau i gefnogi’r ymateb yn y sector i oblygiadau’r pandemig.

Codwyd pryderon ynghylch mynediad cyfartal i gyfleoedd cyfrwng Cymraeg lle gallai’r cyfyngiadau o ran adnoddau ag amser ymarferwyr olygu bod yr addysgu a’r gweithgareddau dysgu ar-lein yn cael eu darparu’n bennaf yn Saesneg. Oherwydd hynny, efallai y bydd llai o adnoddau ar gael i ategu dysgu parhaus cyfrwng Cymraeg. 

Mae cyllid hefyd ar gael ar gyfer cymorth iechyd meddwl er mwyn galluogi darparwyr i gydweithio ar brosiectau sy’n cefnogi dysgwyr a staff i ymdrin ag effeithiau pandemig Covid-19.

7.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant a/neu yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Bydd y cynnydd yn y buddsoddiad yn y ddarpariaeth ôl-16 yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr ar y cyfan gyda chynnydd o 7.1% yn y gyfradd sylfaenol yn gyffredinol.

Bydd y newidiadau yn y ffordd yr ydym yn dyrannu cyllid y Grant Dysgu Cymunedol yn golygu y bydd rhai awdurdodau lleol yn gweld cynnydd neu ostyngiad sylweddol yn y grant. Hynny er mwyn sicrhau system gyllido decach ar draws Cymru. Bydd swyddogion yn parhau i gydweithio â darparwyr i liniaru effaith unrhyw newidiadau i’r ddarpariaeth ar ddysgwyr. 

O ganlyniad i bryderon ynghylch mynediad at ddarpariaeth ar-lein cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, bydd angen i ddarparwyr ystyried hyn wrth iddynt barhau i ddatblygu eu darpariaeth dysgu cyfunol, a chymryd camau i wella mynediad i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar-lein lle bo hynny’n bosibl.

7.4 Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo ddatblygu a phan ddaw i ben?

Mae’r data ar gyfer pob darpariaeth yn cael eu cyflwyno drwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, ac yn cael eu monitro’n flynyddol er mwyn gwerthuso’r ddarpariaeth. Mae ystadegau sy’n cael eu codi o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol a gall y cyhoedd eu gweld.

Adran 8: datganiad

Datganiad

Rwy’n fodlon bod effaith y cam gweithredu arfaethedig wedi’i asesu a’i chofnodi’n ddigonol.

Enw’r Uwch Swyddog Cyfrifol / Dirprwy Gyfarwyddwr: Alan Woods

Adran: Yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau/yr Adran Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes/Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol

Dyddiad: 17 Mawrth 2021