Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, fod ymgynghoriad chwech wythnos i gael ei lansio i natur a chylch gwaith Rhaglen Gyllid Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cronfa Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r rheini sy’n wynebu’r perygl mwyaf y bydd pobl yn gwahaniaethu yn eu herbyn ac yn eu trin yn annheg, gan gynnwys pobl anabl; cymunedau duon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig; Sipsiwn, Roma a Theithwyr; ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a phobl LGBT+; yn ogystal â’r rheini sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae cyllideb flynyddol o £1.6miliwn yn y gronfa.

Dywedodd Jane Hutt:

“Mae’r Gronfa Cydraddoldeb a Chynhwysiant wedi bod wrth galon ein gwaith o ran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ers amser maith. Rydyn ni wedi cydnabod yn gynyddol y ffaith bod gwahanol agweddau ar anghydraddoldeb, megis hiliaeth, gwahaniaethu a thlodi yn gallu cyfuno i waethygu sefyllfaoedd i rai pobl a chymunedau, ac mae hyn wedi bod yn arbennig o amlwg yn ystod pandemig Covid-19.

“Ers 2017, rydyn ni wedi canolbwyntio ar gefnogi sefydliadau sy’n cynrychioli cymunedau o safbwynt cydraddoldeb a chynhwysiant, yn ogystal â darparwyr gwasanaethau penodol ar gyfer rhai grwpiau allweddol. Er ein bod yn bwriadu parhau â’r gwaith hwn, nid yw sefyll yn ein hunfan yn ddigon, ac mae’n rhaid inni ystyried p’un a yw ein dull gweithredu yn gweithio ai peidio.

“Dw i am ymchwilio i opsiynau i hwyluso cydweithio mwy rhwng cyrff cydraddoldeb yng Nghymru. Mae’n hollbwysig ein bod ni’n sicrhau’r budd mwyaf i bawb sydd dan anfantais neu sy’n profi gwahaniaethu yn eu herbyn.

“Mae angen i’n cyrff cydraddoldeb, unigolion a chymunedau ddweud wrthon ni beth y mae angen ei newid, fel y gallwn ni barhau i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru, sicrhau’r effaith gyffredinol fwyaf, a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’n cymunedau.

“Mae’r materion hyn yn effeithio ar bob un ohonon ni, felly rhowch wybod inni sut, yn eich barn chi, y gallwn ni ddefnyddio’r cyllid hwn orau i’r dyfodol.”