Neidio i'r prif gynnwys

Llythyr Cylch Gwaith Adnodd 2026 to 2030

Owain Gethin Davies
Cadeirydd Adnodd

Annwyl Gethin

Rwy'n ysgrifennu atoch i nodi'r cylch gwaith ar gyfer Adnodd. Mae'r llythyr hwn yn disodli eich cylch gwaith blaenorol. Bwriedir iddo aros yn ei le am dymor cyfan y Llywodraeth, hyd nes y bydd y Llywodraeth yn gosod ei hagenda strategol yn dilyn etholiad cyffredinol cyffredin y Senedd yn 2030.

Wrth gyhoeddi'r llythyr hwn, rwy'n ymwybodol bod Adnodd yn gweithredu yng nghyd-destun yr un blaenoriaethau cenedlaethol ag Dysgu, ac y bydd angen i'r is-gwmnïau hyn, sy'n llwyr atebol i Weinidogion Cymru ac o dan eu perchnogaeth lwyr, gydweithio i gynllunio'r cymorth sydd ei angen ar ein system addysg. 

Y cyd-destun strategol

Mae'r Rhaglen Lywodraethu, a gyhoeddwyd ar 22 Medi 2026, yn nodi agenda strategol y Llywodraeth hon. Mae hyn yn cynnwys:

  • cyhoeddi a gweithredu Cynllun Llythrennedd a Rhifedd, a chodi safonau drwy sefydlu targedau cenedlaethol, gan gynnwys asesiad sylfaenol ar gyfer dysgwyr sy'n dechrau yn yr ysgol, a chefnogi ein gweithlu i ddatblygu targedau unigol ar gyfer pob dysgwr
  • adolygu trefniadau cwricwlwm ac asesu i symleiddio ac egluro disgwyliadau ar gyfer ysgolion a lleoliadau
  • datblygu fframwaith cydlynol sy'n dwyn ysgolion, iechyd a gofal cymdeithasol, a gwasanaethau ieuenctid ynghyd i fynd i'r afael ag ymddygiad, presenoldeb, llesiant ac anghydraddoldeb addysgol
  • cryfhau cynaliadwyedd hirdymor y system Anghenion Dysgu Ychwanegol drwy weithio mewn partneriaeth, gan gynnwys gyda phartneriaid iechyd, i gryfhau eglurder y system, capasiti a hyder y gweithlu i ddarparu addysg gynhwysol yn y Gymraeg neu’r Saesneg, fel bod plant a phobl ifanc yn derbyn y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn i ddiwallu eu hanghenion
  • cynyddu cyfran y plant a'r bobl ifanc sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg a chefnogi cynnydd yn nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
  • gweithio gyda'n gweithlu addysg a'n partneriaid cymdeithasol i wneud addysgu yn yrfa ddeniadol, uchel ei pharch sy’n dod â boddhad; a gwella recriwtio a chadw trwy leihau llwyth gwaith, darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer cynllunio, paratoi ac asesu a chefnogi datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel i bob athro, arweinydd a chynorthwyydd addysgu
  • cryfhau arweinyddiaeth a llywodraethiant diogelu ar draws y sector addysg drwy sicrhau bod dysgwyr ac addysgwyr yn gallu adnabod ac adrodd am achosion o grŵmio, darparu addysg gynhwysfawr ar ddiogelwch digidol a llythrennedd yn y cyfryngau, a sicrhau bod safonau diogelu ac addysgol yn cael eu cynnal yn gyson ac yn destun craffu annibynnol

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau gwelliant parhaus mewn llythrennedd a rhifedd i'n dysgwyr dros dymor y Senedd hon. Mae'r sgiliau sylfaenol hyn yn hanfodol ar gyfer dysgu, ar gyfer gwaith ac ar gyfer bywyd ac maent yn ganolog i'n pwrpas fel Llywodraeth. Mae ein Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol yn nodi meysydd allweddol o gymorth ar draws y system i Adnodd, Dysgu a phartneriaid cenedlaethol eraill eu datblygu ar y cyd â'm swyddogion. Rwy'n awyddus i Adnodd ddatblygu a thargedu ei adnoddau a gomisiynir mewn ffordd sy'n cefnogi'r nod hwn o sicrhau gwelliant parhaus mewn llythrennedd a rhifedd.

Mae gan Adnodd a Dysgu rolau allweddol a chyflenwol wrth gefnogi ein gwaith ar y blaenoriaethau hyn: 

  • Mae Adnodd yn arwain ac yn cydlynu'r ddarpariaeth o adnoddau addysgu, dysgu ac asesu dwyieithog o ansawdd uchel, gan gynnwys i gefnogi dysgwyr sydd ag ADY ac ar gyfer datblygiad yn y blynyddoedd cynnar. Mae gwaith Adnodd yn hanfodol i wireddu'r Cwricwlwm i Gymru, ac ar gyfer cynnydd dysgwyr a chyflawni cymwysterau cymeradwy ar draws y continwwm 3 i 19.
  • Gall Dysgu, trwy ddarparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel mewn llwybrau gyrfa cydlynol a darparu cymorth i gryfhau arweinyddiaeth, sicrhau bod ein hymarferwyr yn fyfyriol, yn chwilfrydig ac yn gydweithredol.

Dylai darpariaeth Adnodd, ochr yn ochr â darpariaeth Dysgu, anelu at wella safonau mewn addysgu, dysgu ac asesu, a hyrwyddo tegwch a chynhwysiant trwy gael gwared ar rwystrau i ymgysylltu â dysgu a gwneud cynnydd. Dylai Adnodd gefnogi ymarferwyr i gynllunio a darparu profiadau dysgu diddorol sy'n cefnogi cynnydd dysgwyr ac yn gwireddu uchelgeisiau'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd y cynnig cenedlaethol cydlynol hwn o adnoddau hygyrch a pherthnasol yn helpu i reoli llwyth gwaith ymarferwyr, yn cefnogi eu llesiant ac yn ysbrydoli eu harferion.

Mae Adnodd hefyd yn allweddol i weithredu ein gweledigaeth ar gyfer system gwella ysgolion gydweithredol. Dylai adnoddau addysg cenedlaethol cyson o ansawdd uchel, ochr yn ochr â dysgu proffesiynol gan Dysgu a chefnogaeth gan awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, arfogi ysgolion – fel sefydliadau sy'n dysgu – i weithio ar y cyd i godi safonau a gwella deilliannau i bob dysgwr ledled Cymru.

Dylai gwaith Adnodd hefyd ystyried Deddf Cydraddoldeb 2010 a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 a Strategaeth Cymraeg 2050, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a Deddf Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) 2026.

Amcanion

Bydd angen i waith Adnodd gyflawni'r amcanion a bennir yn ei Erthyglau Cymdeithasu, a gyhoeddwyd ar wefan Tŷ'r Cwmnïau.

Mae'r rhain yn ymwneud â chomisiynu, cynhyrchu a hyrwyddo adnoddau addysg dwyieithog a deunyddiau ategol. Mae'r Erthyglau Cymdeithasu hefyd yn nodi y gall Adnodd ymgymryd ag unrhyw gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yn angenrheidiol neu'n ddymunol i hyrwyddo eu hamcanion.

Blaenoriaethau Strategol

Mae'r Atodiad i'r llythyr hwn yn nodi'r blaenoriaethau strategol a ddylai lywio gwaith Adnodd ar gyfer 2026 i 2030. Mae'r gofynion a nodwyd yn Llythyr Cyllido Adnodd 2026 i 2027 yn parhau yn eu lle. 

Cwmpas y ddarpariaeth

Dylai adnoddau a deunyddiau ategol Adnodd gefnogi addysgu, dysgu, cynnydd dysgwyr ac asesu ar draws holl leoliadau addysg y Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys yr holl ysgolion a gynhelir, Unedau Cyfeirio Disgyblion, darpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol (AHY), a lleoliadau meithrin nas cynhelir o'r blynyddoedd cynnar ymlaen. Yn ôl yr angen, gall Adnodd hefyd gefnogi datblygu adnoddau addysg ar gyfer plant 0 i 3 oed, hunan-astudio dysgwyr, a pharatoi ar gyfer cymwysterau cymeradwy.

Dylai Adnodd sicrhau'r mynediad gorau posibl i'w ddarpariaeth, gan sicrhau cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu ar draws y gweithlu addysg a'r gymuned ehangach o ddefnyddwyr adnoddau. Dylai'r cymorth fod ar gael ac yn hygyrch yn Gymraeg a Saesneg mewn modd teg. Dylai'r ddarpariaeth Gymraeg fod yn ymatebol i ofynion Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, a dylai Adnodd weithio mewn partneriaeth agos â'r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol (yr Athrofa) ar ôl iddi gael ei sefydlu ar 1 Awst 2027 i gefnogi gweithredu'r Ddeddf yn effeithiol.

Nid yw'n ofynnol i Adnodd ddatblygu adnoddau pwrpasol ar gyfer y sector gwaith ieuenctid ond dylai anelu at hybu mynediad at adnoddau presennol ymhlith gweithwyr ac arweinwyr ieuenctid fel y bo'n briodol.

Fel rhan o raglenni penodol, gellir nodi darpariaeth bwrpasol ar gyfer grwpiau eraill yn Llythyrau Cyllido blynyddol Adnodd. 

Rolau partneriaid

Mae Adnodd a Dysgu yn sefydliadau allweddol yn ein system addysg yng Nghymru ochr yn ochr â phartneriaid eraill, gan gynnwys ysgolion, lleoliadau, awdurdodau lleol, awdurdodau esgobaethol, Estyn a Llywodraeth Cymru. Bydd cyflawni'r Cylch Gwaith hwn yn gofyn am gydweithredu effeithiol rhwng Adnodd, Dysgu a'r holl bartneriaid. Mae eu rolau priodol wedi'u hamlinellu yn y Canllawiau Gwella Ysgolion.

Mae Dysgu ac Adnodd yn gyfrifol am arwain a chydgysylltu'r gwaith o ddatblygu a darparu cymorth o ansawdd uchel sy'n gyson yn genedlaethol ar gyfer addysgu a dysgu. Rwy'n disgwyl i'r ddau sefydliad weithio gyda'i gilydd i sicrhau darpariaeth gydategol sy'n cael yr effaith fwyaf bosibl. Mae hyn yn cynnwys creu, datblygu a rhannu adnoddau addysgu, dysgu ac asesu priodol i gefnogi cynnig dysgu proffesiynol Dysgu mewn ffordd gydlynol ac amserol.

Rwy'n disgwyl i Adnodd a Dysgu gydweithio â'n Tîm Gwella Addysg a sefydliadau eraill, yn enwedig awdurdodau lleol ac Estyn, i nodi anghenion y system ac i ddatblygu a chyflwyno darpariaeth i ddiwallu anghenion ymarferwyr. Rwy’n disgwyl i sefydliadau partner ategu a chyd-fynd â'r ddarpariaeth genedlaethol, a pheidio â dyblygu neu wyro oddi wrthi.

Trwy'r rolau cydategol hyn, dylai Adnodd, Dysgu a'u partneriaid weithio gyda'i gilydd i sicrhau system gymorth genedlaethol gydlynol o ansawdd uchel sy'n gwella arferion a deilliannau i bob dysgwr.

Cynlluniau sefydliadol

Yn unol â'r Ddogfen Fframwaith sydd ar waith rhwng Llywodraeth Cymru ac Adnodd, mae'n ofynnol i chi gyflwyno cynlluniau wedi'u diweddaru o fewn tri mis ar ôl derbyn y Llythyr Cylch Gwaith hwn sy'n nodi sut y byddwch yn cyflawni eich amcanion strategol.

Mae'n ofynnol i Adnodd ddatblygu cynllun corfforaethol o fewn y fframwaith polisi a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, a hynny yng nghyd-destun y nodau Llesiant, i gwmpasu'r cyfnod 2026 i 2030 a darparu dull cyflawni hirdymor clir. Dylid cyflwyno'r cynllun ochr yn ochr â'r cynllun busnes.

Efallai y bydd Adnodd hefyd yn dymuno ystyried a oes angen unrhyw newidiadau i gynlluniau gweithredol yn dilyn y llythyr hwn. Mae cynlluniau gweithredol fel arfer yn cael eu llunio bob blwyddyn mewn ymateb i Lythyrau Cyllido blynyddol ac yn cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. 

Cyllid

Mae Llythyr Cyllido Adnodd ar gyfer 2026 i 2027 yn darparu cyllideb adnoddau o £4,974,194. Gall Llythyrau Cyllido gael eu diweddaru yn ystod y flwyddyn, er enghraifft i ddarparu cyllid ar gyfer gofynion ychwanegol.

Bydd cyllid ar gyfer 2027 i 2028, 2028 i 2029, a 2029 i 2030 yn ddibynnol ar brosesau cyllideb Llywodraeth Cymru a phenderfyniadau gan Senedd Cymru. Mae hyn yn golygu: 

  • efallai y darperir cyllid ychwanegol ar gyfer gofynion ychwanegol, i'w nodi mewn Llythyrau Cyllido i ddod
  • efallai y bydd cyllid yn lleihau os nad oes angen gweithgareddau mwyach, ac efallai y bydd angen lleihau gweithgareddau o ran eu cwmpas neu eu cyrhaeddiad; efallai y bydd angen oedi gweithgareddau neu eu cyflwyno fesul cam 
  • efallai na ddarperir cyllid ar gyfer yr holl weithgareddau sydd wedi'u cynnwys yn yr Atodiad 
  • efallai y gofynnir i Adnodd adnabod arbedion effeithlonrwydd yn ei weithrediadau ac wrth gyflawni gweithgareddau

Bydd unrhyw newidiadau i’r cyllid yn cael eu trafod rhwng Adnodd a'm swyddogion yn y lle cyntaf ac mewn da bryd cyn y blynyddoedd ariannol perthnasol.

Yn gywir

Anna Brychan AS/MS

Gweinidog y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
Cabinet Minister for Education and the Welsh Language 
 

Atodiad

Adnodd: Blaenoriaethau strategol ar gyfer 2026 i 2030

  1. Sicrhau bod adnoddau addysgu a dysgu perthnasol o ansawdd uchel ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd, i gefnogi llythrennedd a rhifedd yn y blynyddoedd cynnar, y Cwricwlwm i Gymru a chymwysterau cymeradwy 

  • Blynyddoedd cynnar: cefnogi'r gwaith o gyflawni'r blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd cynnar a dysgu sylfaen trwy sicrhau mynediad at adnoddau o ansawdd uchel, sy'n briodol yn ddatblygiadol.
  • Cynllunio cwricwlwm: sicrhau mynediad at adnoddau hyblyg, ymarferol y gellir eu defnyddio'n uniongyrchol ar gyfer cynllunio cwricwlwm ysgol a chynllunio yn yr ystafell ddosbarth, gyda'r gwaith comisiynu yn cefnogi cynnydd dysgwyr ac asesu.
  • Llythrennedd a rhifedd: datblygu adnoddau dysgu, addysgu ac asesu (ochr yn ochr â dysgu proffesiynol) fel elfen allweddol o weithredu'r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol yn llwyddiannus, gan gynnwys deunyddiau sy'n cefnogi ymarferwyr i ymgorffori llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm a chefnogi cynnydd mewn dysgu.
  • Y Gymraeg: gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Dysgu a'r Athrofa, ar adnoddau a deunyddiau i gefnogi datblygu sgiliau Cymraeg - yn unol â'r Cod sy'n disgrifio gallu yn y Gymraeg.
  • Anghenion dysgu ychwanegol: cadw ffocws strategol ar gydlynu, datblygu a gwella adnoddau sy'n cefnogi dysgwyr gydag ADY, gan sicrhau bod y ddarpariaeth yn adlewyrchu'r anghenion amrywiol ar draws lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg.
  • Tegwch a llesiant: cadw ffocws parhaus ar ddarparu deunyddiau addysgu a dysgu sy'n diwallu anghenion ymarferwyr a dysgwyr, gan gynnwys ar amrywiaeth, rhywedd, iechyd a llesiant (gan gynnwys iechyd meddwl), hawliau, anableddau, gwrth-hiliaeth ac ethnigrwydd.
  • Dyniaethau: adeiladu adnoddau pellach i gefnogi addysgu a dysgu hanes Cymru, ochr yn ochr â materion cymdeithasol ehangach.
  • Gwyddoniaeth a thechnoleg: gweithio gyda phartneriaid i wella mynediad at adnoddau cynradd ac uwchradd ar gyfer gwyddoniaeth, cyfrifiadura a chymhwysedd digidol.
  • Celfyddydau mynegiannol: ymateb i gyfleoedd i wella adnoddau addysgu a dysgu sy'n cefnogi datblygiad y celfyddydau mynegiannol.
  • Gwybodaeth a sgiliau sy'n rhan annatod o'r pedwar diben cefnogi dysgwyr i ddatblygu creadigrwydd ac arloesedd, meddwl beirniadol a datrys problemau, effeithiolrwydd personol, a chynllunio a threfnu.
  1. Cynnal fframwaith sicrhau ansawdd, gan sicrhau bod adnoddau yn unol ag ethos ac egwyddorion craidd y Cwricwlwm i Gymru

  • Anghenion y system: ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Dysgu, awdurdodau lleol, Estyn, Cymwysterau Cymru, yr Athrofa, partneriaid Cwlwm a dysgwyr, er mwyn cynnal dealltwriaeth o anghenion defnyddwyr ar gyfer comisiynu a darparu adnoddau.
  • Cynnal a gwella'n barhaus fframwaith sicrhau ansawdd ar gyfer adolygu, creu a diweddaru adnoddau addysgu a dysgu dwyieithog o ansawdd uchel, wedi'u llywio gan eich ymgysylltiad â rhanddeiliaid.
  • Arwain ar gyd-lunio a chyfathrebu canllawiau ar safonau a disgwyliadau ar gyfer datblygu adnoddau addysgu a dysgu dwyieithog.
  • Ymgysylltu â sefydliadau sy'n cael eu hariannu drwy raglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru i sicrhau bod yr adnoddau a ddatblygir fel rhan o'r cymorth hwnnw yn ateb y galw.
  • Sicrhau eu bod yn ofynnol i grewyr adnoddau ymgysylltu ag ethos ac egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru a'u cymhwyso, a'u cefnogi i wneud hynny.
  1. Hybu'r gwaith o hyrwyddo adnoddau, codi ymwybyddiaeth ohonynt a'u defnyddio'n effeithiol

  • Ymgysylltu â thimau cyfathrebu a pholisi Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill i gefnogi cyfathrebu effeithiol ynghylch yr adnoddau a ddarperir i'r sector, ac i’w hyrwyddo.
  • Gweithio gyda swyddogion dysgu digidol Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o barhau i ddatblygu platfform Hwb fel y gwasanaeth naturiol i droi ato i ymarferwyr sy'n chwilio am gefnogaeth, adnoddau ac ysbrydoliaeth.
  • Datblygu a gweithredu eich cynllun ymgysylltu a chyfathrebu strategol fel rhan o'ch gweithgarwch busnes.
  • Cynnal model comisiynu priodol, ar sail cydadeiladu, sy'n:
    • adlewyrchu ac yn diwallu anghenion y sector addysg a rhanddeiliaid allweddol
    • sicrhau gwerth am arian
    • gwneud y defnydd gorau o'r arbenigedd, yr wybodaeth a'r sgiliau sydd ar gael yng Nghymru
    • mabwysiadu dull arloesol o ran y math o adnoddau, eu fformat a'u dyluniad, gan wneud y defnydd gorau o dechnolegau, tystiolaeth ac offer newydd
    • cyd-fynd â chydberthnasau a dulliau gweithredu sydd eisoes yn bodoli ar draws y sector addysg, ac yn manteisio arnynt
  1. Datblygu a buddsoddi mewn sgiliau a'r gallu i greu, rhannu a chyhoeddi adnoddau addysgol yng Nghymru

  • Gan adeiladu ar lwyddiant eich cronfa Cydweithredu ac Arloesi yn 2025 i 2026, parhau i gefnogi, annog ac ariannu dulliau a syniadau arloesol a fydd yn datblygu ystod y crewyr cynnwys yng Nghymru.
  • Drwy eich dull comisiynu a'ch gwaith gyda sefydliadau partner, parhau i ddatblygu eich perthynas â chyhoeddwyr, datblygwyr a chrewyr cynnwys i helpu i gefnogi cynllunio cynaliadwy a buddsoddi mewn sgiliau a chapasiti yng Nghymru.
  • Parhau i weithredu fel galluogwr strategol trwy feithrin partneriaethau a harneisio arbenigedd, arloesedd a syniadau o'r tu hwnt i'r sector addysg er budd a mwynhad dysgwyr ac ymarferwyr.
  1. Cynnal a pharhau i ddatblygu gallu corfforaethol a systemau sefydliadol Adnodd

  • Gweithredu trefniadau llywodraethu cadarn, gan gynnwys Bwrdd sy'n perfformio ar lefel uchel a swyddogaeth weithredol sydd ag adnoddau a sgiliau digonol.
  • Bodloni'r holl rwymedigaethau cyfreithiol, ariannol a rheoleiddiol, gan gynnal cyfres gynhwysfawr o bolisïau sefydliadol, rheolaethau a fframweithiau sicrwydd.
  • Datblygu a chynnal sefydliad sy'n perfformio ar lefel uchel trwy ddysgu a datblygiad proffesiynol, llesiant staff ac arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ymgorffori diwylliant o welliant parhaus.
  • Bodloni'r gofynion a nodir yng Nghytundeb Fframwaith Llywodraeth Cymru a gweithio'n adeiladol ac yn dryloyw gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill.