Neidio i'r prif gynnwy

Mae datblygiad tai newydd yng Nghaerdydd a ariannwyd â dros £1.4 miliwn o raglen Eiddo Llai Llywodraeth Cymru a'r Grant Tai Cymdeithasol wedi'i agor yn swyddogol gan Carl Sargeant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Datblygwyd Cwrt yr Eglwys yn Nhreganna gan Gymdeithas Tai Taf mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd a Pendragon Construction.

Mae'r cynllun yn cynnwys 16 o fflatiau ag un ystafell wely a phedwar tŷ â thair ystafell wely.

Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet, cydweithio da gan y partneriaid sydd i gyfrif am lwyddiant y cynllun.

Dywedodd Carl Sargeant:

"Dwi bob amser yn awyddus i ymweld â chynlluniau sydd wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru, i gael gweld â'm llygaid fy hun y manteision y gall ein buddsoddiad eu rhoi i gymunedau.

"Dw i'n falch ein bod wedi gallu helpu Cymdeithas Tai Taf yn ariannol â'r datblygiad hwn, drwy'r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol a'r rhaglen Eiddo Llai. Yn 2016/17, fe wnaethom neilltuo £4.2 miliwn o'r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol i helpu i ddarparu cynlluniau tai fforddiadwy yng Nghaerdydd sydd un ai wedi cychwyn neu ar fin cychwyn.

"Mae cynyddu'r stoc o dai yng Nghymru yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a dyna pam rydyn ni wedi addo darparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod oes y llywodraeth hon. Dw i wedi ymrwymo i weithio gyda datblygwyr, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i fwrw ymlaen â chynlluniau a fydd yn cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy o safon."