Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau buddsoddiad sylweddol o £15.75m dros y tair blynedd nesaf i barhau â dau gynllun hanfodol sy'n cefnogi gofalwyr di-dâl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Cynllun Seibiant byr a'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr yn darparu achubiaeth hanfodol i filoedd o ofalwyr ledled Cymru. Bydd cyhoeddiad heddiw yn gweld y ddau gynllun yn parhau hyd at 2029.

Mae'r Cynllun Seibiant Byr yn galluogi gofalwyr di-dâl o bob oedran i gymryd seibiant personol o'u cyfrifoldebau gofalu, gan gynnwys teithiau cymdeithasol, aelodaeth hamdden ac offer i ddilyn hobi.

Yn ystod ei dair blynedd gyntaf, darparodd y cynllun dros 50,000 o seibiannau byr, gan ragori ar ei darged cychwynnol o 30,000 yn sylweddol a chyrraedd gofalwyr nad oeddent yn hysbys o'r blaen i wasanaethau cymorth.

Mae'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr yn darparu cymorth ariannol brys i ofalwyr di-dâl ar incwm isel, gan eu helpu i brynu eitemau hanfodol megis bwyd, nwyddau ar gyfer y cartref neu i dalu biliau cyfleustodau.

Rhoddodd y gronfa gymorth i 29,500 o ofalwyr di-dâl rhwng Ebrill 2022 ac Ebrill 2025, bron dwbl ei darged gwreiddiol o 15,000. Yn hanfodol, mae'n darparu cyngor hefyd ar fudd-daliadau lles a chynllunio ariannol i gael effaith gadarnhaol barhaus.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden,

 "Mae'r cyhoeddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i ofalwyr di-dâl sy'n chwarae rhan hanfodol mewn cymunedau ledled Cymru.

“Mae'r Cynllun Seibiant Byr a'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr wedi profi eu gwerth dro ar ôl tro gan gynnwys cyrraedd gofalwyr y mae arnyn nhw angen cymorth ond nad oeddent yn hysbys i wasanaethau o'r blaen.

“Dydy'r cynlluniau hyn ddim yn ymwneud â darparu seibiant a chymorth ariannol yn unig – maen nhw'n ymwneud â chydnabod y cyfraniad amhrisiadwy y mae gofalwyr yn ei wneud i'n cymdeithas a sicrhau bod ganddyn nhw'r cymorth i ofalu am eu llesiant eu hunain yr un pryd â gofalu am eraill."

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Kate Cubbage,

 “Mae gofalwyr di-dâl yn hanfodol i gynnal ein system iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddarparu cymorth angenrheidiol a gwerthfawr o fewn teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.

“Rydyn ni'n gwybod bod gofal da yn ofal sy'n cael help llaw. Yn rhy aml mae gofalwyr yn dweud wrthym eu bod yn cael eu gadael i ofalu ar eu pennau eu hunain heb y cymorth cywir i ofalu amdanyn nhw eu hunain neu i wneud pethau eraill sy'n bwysig iddyn nhw. Mae llawer yn ymestyn allan am gymorth pan fyddant yn argyfwng arnynt.

“Mae cadarnhau cyllid amlflwyddyn ar gyfer y Gronfa Gymorth i Ofalwyr a'r Cynllun Seibiant Byr Cenedlaethol yn darparu buddsoddiad y mae ei angen yn fawr yn y gwasanaethau sydd yn y sefyllfa orau i fod yno i ofalwyr pan fydd arnynt ei angen fwyaf. Gyda'i gilydd, byddant yn rhoi achubiaeth i ddegau o filoedd o ofalwyr gan roi cyfleoedd iddynt orffwys a chael eu gwynt atynt a chan gynnig cymorth ariannol brys i'r rhai sy'n gwneud y dewis anodd rhwng gwresogi a bwyta.

“Mae buddsoddiad hirdymor Llywodraeth Cymru yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd angenrheidiol, nid yn unig i ofalwyr, ond hefyd i'r sefydliadau lleol sy'n gweithio'n ddiflino i'w cefnogi. Mae'r cyhoeddiad hwn o gyllid yn gydnabyddiaeth bwysig o'r rôl werthfawr y mae gofalwyr yn ei chwarae a phwysigrwydd blaenoriaethu cymorth ar eu cyfer.”