Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi y bydd hosbisau Cymru yn derbyn £4 miliwn o gyllid y llywodraeth i barhau â'u gwaith hanfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyllid yn sicrhau bod pobl ar draws Cymru yn parhau i dderbyn gofal lliniarol a gofal diwedd oes gan y rhwydwaith o hosbisau, sy'n dibynnu yn draddodiadol ar godi arian a rhoddion elusennol.

Ond mae'r argyfwng costau byw wedi gwneud codi arian yn gynyddol heriol, gan ei gwneud hi'n anoddach i hosbisau gadw a recriwtio staff - mae rhai wedi gorfod ystyried a oes modd iddyn nhw barhau i gynnal gwasanaethau.

Bydd y £4 miliwn, a fydd yn cael ei rannu gan y 12 hosbis a gomisiynwyd yng Nghymru, yn eu helpu i gynnal gwasanaethau, talu costau staffio, a gwella ansawdd y gofal diwedd oes a ddarperir i unigolion a’u teuluoedd.

Bydd dros £770,000 yn mynd i'r ddwy hosbis i blant, Tŷ Gobaith a Thŷ Hafan, sy'n cefnogi plant a phobl ifanc sy'n byw gyda chyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Mae hosbisau a gwasanaethau gofal diwedd oes yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr, ac maen nhw’n chwarae rhan bwysig iawn wrth gefnogi teuluoedd ar rai o'r adegau anoddaf eu bywydau.

Maen nhw hefyd yn cefnogi'r GIG i ddarparu gofal hanfodol i oddeutu 20,000 o bobl sydd angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes bob blwyddyn.

Bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau y gallan nhw barhau i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn a pharhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel ledled Cymru.

Dywedodd Cadeirydd Hosbisau Cymru a Phrif Weithredwr Hosbis y Ddinas, Liz Booyse:

Bob blwyddyn, mae miloedd o oedolion a phlant sy'n wynebu salwch sy'n cyfyngu ar fywyd yn troi at hosbisau elusennol yng Nghymru i gael gofal arbenigol a chefnogaeth ddibynadwy, iddyn nhw a'u teuluoedd.

Mae Aelodau Hosbisau Cymru yn croesawu cydnabyddiaeth a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r rôl hanfodol y mae hosbisau Cymru yn ei chwarae wrth ddarparu gofal lliniarol a gwasanaethau diwedd oes, mewn cydweithrediad â'r GIG.

Wrth i'r galw am ein gwasanaethau barhau i gynyddu, rydyn ni hefyd yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu trefniant ariannu cynaliadwy gyda hosbisau Cymru. Mae'r ymrwymiad hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau parhad y gwasanaethau hanfodol yr ydyn ni’n eu darparu i gymunedau ar draws Cymru.

Dywedodd Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth Cymru ar gyfer Hospice UK, Matthew Brindley:

Rydyn ni’n croesawu cydnabyddiaeth a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i hosbisau Cymru fel partneriaid gwerthfawr a chyfartal â'r GIG. Bydd y cymorth hwn yn helpu i sicrhau y gall ein haelodau barhau i ddarparu gofal hanfodol i 20,000 o bobl sy'n cael eu heffeithio gan salwch angheuol bob blwyddyn, gan dynnu pwysau oddi ar y GIG.

Ond mae hosbisau'n dal i wynebu dyfodol ansicr gyda chymhlethdodau cynyddol o ran y gofal a phwysau costau byw. Mae'r arian hwn yn rhoi cefnogaeth a sicrwydd mawr ei angen ar hosbisau nawr, ond bydd angen i ni weithio gyda Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd i ddatblygu datrysiad cyllid mwy cynaliadwy a theg sy'n cydnabod rôl partneriaeth hanfodol hosbisau Cymru wrth ddarparu gofal ochr yn ochr â'n cydweithwyr yn y GIG.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyswllt Partneriaethau Strategol a Gwasanaethau Marie Curie Cymru, Rachel Jones:

Mae'r cyhoeddiad heddiw o gyllid i gefnogi hosbisau elusennol yng Nghymru i'w groesawu, ond mae angen model ariannu mwy cynaliadwy arnom. Mae hosbisau elusennol yng Nghymru, fel Hosbis Marie Curie yng Nghaerdydd a'r Fro, yn bartneriaid hanfodol i'r system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach. Maen nhw’n darparu gofal a chymorth hanfodol i unigolion ar ddiwedd eu oes a'r rhai sy'n agos atynt, ac yn lleihau'r pwysau ar y GIG.

Fel elusen, rydym yn ffodus bod gennym gefnogwyr anhygoel sy'n helpu i godi arian hanfodol i'n galluogi i ddarparu gwasanaethau i gefnogi a gofalu am unigolion a'u hanwyliaid ledled Cymru, ond nid yw dibynnu ar yr haelioni hwn yn gynaliadwy ac nid ydym wedi ein hamddiffyn rhag effeithiau'r argyfwng costau byw.

Gyda mwy o bobl yn debygol o fod angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y dyfodol, mae'n hanfodol ein bod yn gallu parhau i archwilio'r hyn sydd ei angen i sefydlu model ariannu gwirioneddol gynaliadwy i sicrhau bod pobl yn cael y gofal lliniarol a'r gofal diwedd oes gorau posibl. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'r Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes ar hyn.

Mae'r cyllid yn rhan o gam 3 o adolygiad o ofal diwedd oes Llywodraeth Cymru. Cafodd £4 miliwn ei ddarparu i gefnogi hosbisau yn 2023 i 2024.