Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid i helpu i gwblhau gwaith adfer ar Neuadd y Sir yn Llandeilo.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian ychwanegol yn helpu Menter Dinefwr i gwblhau'r trawsnewidiad, sydd ers hynny wedi'i lesteirio gan y pandemig.

Neuadd y Sir yw'r trydydd adeilad hynaf yn Llandeilo ac mae'n dyddio'n ôl i 1803. Dros y canrifoedd fe'i defnyddiwyd fel cyfnewidfa ŷd, llysoedd ynadon, ac yn fwy diweddar fel swyddfeydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a Chyngor Tref Llandeilo. Bydd y trawsnewidiad yn sicrhau bod y neuadd wrth galon cymuned y dref.

Bydd yn darparu canolfan newydd ar gyfer gwasanaethau cymorth, unedau dros dro ar gyfer busnesau lleol, ystafell gyfarfod/ymgynghori a chanolfan gyrchfan i dwristiaid. Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, sy'n rhan o strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

"Mae'r pandemig wedi cael effaith ar bob agwedd ar fywyd Cymru, a bydd yr arian hwn yn sicrhau y gall Neuadd y Sir barhau i fod yn ganolbwynt hanfodol i Landeilo – fel y bu dros y 200 mlynedd diwethaf.

"Bydd y neuadd yn cael effaith fawr ar yr ardal, gan greu mwy na 30 o swyddi newydd a chyfleoedd prentisiaeth a hyfforddiant pellach – drwy gyfrwng y Gymraeg i gyd, a fydd yn rhan annatod o ddatblygiad y neuadd ac yn cefnogi llu o amcanion ein strategaeth Cymraeg 2050."

Disgwylir i'r gwaith adfer i'r neuadd gael ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2021.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd Meddwl, Lles a'r Gymraeg:

"Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi cyfle i Fenter Dinefwr gwblhau'r gwaith angenrheidiol i'r adeilad eiconinc hwn a sicrhau y gall y gwaith gael ei gwblhau cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.

"Bydd Canolfan Hengwrt yn ganolfan aml-ddefnydd werthfawr yn Llandeilo, gan gryfhau'r economi leol, cefnogi cymuned fywiog a diogelu'r Gymraeg."