Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo dros £2.3m i ddarparu gorchuddion wyneb am ddim i bob dysgwr mewn ysgolion uwchradd a lleoliadau addysg bellach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnaeth Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, y cyhoeddiad a fydd yn golygu y bydd £1.8m a £469,000 yn cael ei ddarparu i ysgolion a lleoliadau addysg bellach yn y drefn honno.

Mae'r Prif Swyddog Meddygol yn argymell defnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd lle nad oes modd cadw at ddulliau rheoli corfforol eraill neu fod hynny'n annhebygol.

Gall hyn gynnwys ardaloedd cymunedol o ysgolion lle mae'r cynllun ffisegol yn golygu na all grwpiau cyswllt barhau i gael eu gwahanu i'r un graddau.

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn dilyn datganiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog Addysg a Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, lle maent wedi darparu canllawiau newydd ynghylch defnyddio gorchuddion wyneb mewn lleoliadau addysg.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

"Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo mwy na £2.3m i ddarparu gorchuddion wyneb i bob disgybl o oedran ysgol uwchradd neu mewn lleoliadau addysg bellach.

“Mae'n hanfodol bod plant a phobl ifanc, rhieni a'r gweithlu addysg yn teimlo'n hyderus bod yr holl fesurau'n cael eu cymryd i'w hamddiffyn wrth iddynt ddychwelyd i ysgolion a cholegau.

“Rydym hefyd wedi diweddaru ein canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau AB yn ddiweddar sy'n ei gwneud yn ofynnol i leoliadau ac awdurdodau lleol gynnal asesiadau risg o'u safleoedd i benderfynu a ddylid argymell gorchuddion wynebau ar gyfer eu staff a'u pobl ifanc mewn mannau cymunedol - mae hyn yn cynnwys cludiant i'r ysgol a'r coleg.”

Dywedodd llefarydd ar ran CLlLC:

"Mae ysgolion ac awdurdodau lleol wedi cynllunio'n helaeth dros yr haf i baratoi ar gyfer ailagor ysgolion a lliniaru risgiau COVID 19 i fyfyrwyr, athrawon a staff cymorth.

"Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys y gwasanaeth profi, olrhain a diogelu a threfniadau i ddarparu staff y mae angen iddynt hunanynysu lle bo hynny'n bosibl neu drefnu darpariaeth amgen.”