Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi buddsoddiad o £500,000 i Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu prosiectau seilwaith rheilffyrdd pwysig yn Wrecsam, yn ôl cyhoeddiad gan Ken Skates.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn caniatáu cwblhau y gwaith datblygu i uwchraddio Cyffordd Gogledd Wrecsam fel prosiect blaenoriaeth. 

Bydd hyn yn golygu bod modd gwella amseroedd teithio o orsaf Wrecsam Gyffredinol i'r gogledd, gan ganiatáu i drenau i deithio drwy y rhan sydd â rheilffordd sengl hyd at Yr Orsedd yn gynt, fydd hefyd yn helpu i sicrhau gwasanaethau mwy rheolaidd. 

Mae'r buddsoddiad hefyd yn cael ei ddefnyddio i ystyried ystod o ymyriadau eraill allai wneud mwy i gefnogi y cynnydd mewn gwasanaethau. Mae'r rhain yn cynnwys gwelliannau i arwyddion a'r seilwaith cysylltiedig yn ogystal â chroesfannau yn yr ardal hon. 

Meddai Ken Skates: 

"Dwi'n falch iawn y bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn cefnogi Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu y prosiectau hollbwysig hyn gyda'r nod o wella amseroedd teithio a sicrhau bod trenau'n rhedeg yn fwy rheolaidd drwy ardal Wrecsam.

"Ein nod amlwg yw gweld gwelliannau er lles pob defnyddiwr y rheilffyrdd a bydd y cyllid hwn yn sicrhau yr hyn y gellir ei ddarparu at yr union ddiben hwnnw.

"Dyma enghraifft arall o'r camau yr ydym yn eu cymryd fel llywodraeth gyfrifol ac sydd eto yn tynnu sylw at y diffyg cyllido hanesyddol gan Lywodraeth y DU yn ein rhwydwaith rheilffyrdd sydd ond wedi gwario 1.5 y cant o'u cyllideb ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, er gwaethaf y ffaith bod hyn yn cyfrif am 11 y cant o'r traciau yng Nghymru a Lloegr, ers 2011.  

"Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn gwella seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru ac yn dilyn fy nghyhoeddiad diweddar i ddatblygu Hwb Trafnidiaeth a Busnes newydd i adfywio yr ardal o amgylch Gorsaf Ganolog Wrecsam yn gyfan gwbl. 

"Rydym yn rhoi hwb i'r economi leol, gan ysgogi cyfleoedd newydd ar gyfer twf a chreu rhwydwaith trafnidiaeth gwell yn yr ardal."