Neidio i'r prif gynnwy

Mae dros £50,000 yn mynd i gael ei rannu rhwng saith o brosiectau sy’n chwarae rôl hanfodol mewn cydgymunedau yng Nghonwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ymhlith y prosiectau a fydd yn elwa o ganlyniad i Gronfa Gymunedol Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau'r Rhyl y  mae canolfan hyfforddi  i bobl ifanc ag awtistiaeth a phobl ifanc ag anghenion arbennig, arhosfan fysiau newydd i ardal ddiarffordd sy’n cael ei defnyddio gan blant ysgol a’r henoed,  a gwaith adfer ar gastell. Mae Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau'r Rhyl yn cael ei gweithredu gan Innogy Renewables UK Ltd.

Mae Creatasmile wedi cael £10,000 i ehangu’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig ganddynt a datblygu ystafell de a fydd yn helpu pobl ifanc ag awtistiaeth a phobl ifanc ag anghenion arbennig i gael sgiliau a magu hyder wrth weithio gyda phobl eraill yn y gymuned leol.

Rhoddir £10,000 i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych i gefnogi’r cam nesaf o waith adfer ar y Castell, gwaith sy’n cynnwys creu ardaloedd gwyrdd yn y coetiroedd ac atgyweirio to’r Tŷ Melon .

Bydd Cymorth Cymunedol Conwy a Chymorth Gwirfoddol Conwy yn cael buddsoddiad o £10,000 i gynnal y Swyddog Datblygu Rhaglen i dreialu Canolfan i Gyn-filwyr yng Nghonwy.  Bydd y swyddog yn cynnig gwasanaeth pwrpasol a holistaidd i bob cyn-filwr er mwyn rhoi cymorth iddynt ddygymod a bywyd allan o’r lluoedd arfog unwaith eto.  

Bydd Chwaraeon Conwy yn cael £9,860 i brynu beiciau wedi eu haddasu er mwyn darparu ystod o sesiynau beicio i bobl anabl.

Bydd y Siop Cyngor ar Fudd-daliadau yn cael £6,300 yn ystod y flwyddyn ariannol hon ac eto yn 2018/19 i barhau i ddarparu gwasanaeth allgymorth i breswylwyr Abergele a Bae Colwyn Bay, er mwyn iddynt gael cyngor a gwasanaeth eirioli.

Bydd Cyngor Tref Abergele yn cael £2,257 tuag at y gost o adeiladu arhosfan fysiau ar lwybr bysiau arfordirol sy’n ddiarffordd ac agored, ac sy’n cael ei ddefnyddio gan blant ysgol a’r henoed.

Bydd £1,900 yn helpu Clwb Modelau Cychod Bae Colwyn i reoli’r broblem eang o chwyn dŵr ymwthiol mewn llyn newydd i gychod.

Anogir grwpiau cymunedol neu wirfoddol, elusennau a chynghorau tref a chymuned mewn ardaloedd cymwys o Gonwy, i wneud cais i Gronfa Gymunedol Fferm Wynt ar y Môr Gwastadeddau'r Rhyl. Caiff y gronfa ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru ac mae'n darparu grantiau gwerth rhwng £2,000 a £10,000.

Dywedodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:

“Mae’r cyllid hwn yn hwb gwirioneddol i gymunedau lleol yng Nghonwy, ac yn help i wella ansawdd bywyd y trigolion.

“Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Gwastadeddau'r Rhyl yn buddsoddi mewn prosiectau sy’n hanfodol i’r ardal, boed hynny yn helpu pobl i gael sgiliau newydd neu yn cefnogi gwasanaethau lleol. Byddwn i’n annog pob grŵp cymunedol sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid i ddysgu mwy am y gronfa."

Dywedodd Katy Woodington, Uwch-swyddog Buddsoddi Cymunedol yn Innogy:

“Mae’n beth cyffrous i weld Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Gwastadeddau’r Rhyl yn cefnogi amrywiaeth mor eang o brosiectau eto eleni. Rwy’n edrych ymlaen at gael clywed mwy am y modd y mae’r prosiectau hyn yn defnyddio’r cyllid i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau’r trigolion lleol.

“Mae’r cyllid, sy’n cael ei ddosbarthu gan Lywodraeth Cymru, ar gael bob blwyddyn y mae’r fferm wynt yn weithredol. Felly, meddyliwch a fydd eich grwpiau cymunedol chi yn gallu elwa o wneud cais yn y dyfodol.”