Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd y bydd cyllid yn cael ei neilltuo i helpu sefydliadau yng Nghymru i baratoi dinasyddion yr UE nad ydynt o'r DU ar gyfer Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Cynllun Grant Cymorth i Ddinasyddion yr UE Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid tymor byr i brosiectau yn Abertawe, Merthyr, Casnewydd a'r Gogledd.

Bydd sefydliadau trydydd sector sydd ar hyn o bryd yn helpu dinasyddion yr UE yn eu cymunedau lleol yn elwa, gan olygu bod modd iddynt ddiogelu gwasanaethau allweddol a pharatoi ar gyfer systemau newydd y disgwylir eu gweld fel rhan o ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.

Amcangyfrifir y bydd ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth yn effeithio ar 80,000 o ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru.

Y sefydliadau sy'n cael cyllid yw:

  • Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol Bae Abertawe - cymorth i staff sy'n ymdrin yn benodol â materion sy'n wynebu dinasyddion yr UE nad ydynt o'r DU a gweithdai/cymorthfeydd i roi cyngor ymarferol.
  • Cartrefi Cymoedd Merthyr (mewn partneriaeth â Chymdeithas Cymuned Bwylaidd y Cymoedd) - ymgyrch rhannu gwybodaeth, gan gynnwys rhannu gwybodaeth ar-lein a chynnal diwrnodau galw heibio i roi cyngor. Sesiynau hyfforddi i'r cyhoedd a sefydliadau am hawliau gwladolion yr UE o ran statws preswylio sefydlog.
  • Mind Casnewydd - cynhyrchu adroddiad ffurfiol wedi'i seilio ar ganlyniadau gan grwpiau ffocws a digwyddiadau sy'n crynhoi'r prif faterion a nodwyd wrth hyrwyddo'r Cynllun Preswylio Sefydlog a'r rhwystrau a gododd wrth ymwneud â'r Cynllun.
  • Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol y Gogledd (mewn partneriaeth â BAWSO) - cymorth ar gyfer swyddog cynghori arbenigol i roi cyngor ac arweiniad i ddinasyddion yr UE nad ydynt o'r DU yn y gogledd.
Wrth gyhoeddi'r cyllid yn nigwyddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghonwy  ddoe (dydd Iau 7 Chwefror), dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt: 

"Gyda'r bobl o wledydd yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru yn wynebu ansicrwydd cynyddol a pharhaus, mae'n hanfodol eu cefnogi a rhannu gwybodaeth gywir am hawliau a'r Statws Preswylydd Sefydlog.

"Rydym yn cydnabod, wrth baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, bod angen i gymunedau gael cymorth ychwanegol penodol - a'n sefydliadau a gwasanaethau trydydd parti ardderchog sydd yn y lle gorau i helpu yn hyn o beth.

"Mae cyfrifoldeb gennym dros bob aelod o'n cymunedau, beth bynnag eu cenedligrwydd neu statws mewnfudo. Bydd Cymru yn dal i fod angen mudwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd i helpu i gynnal ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus. Mae angen defnyddio pob dull posibl i roi sicrwydd i'r bobl hyn ein bod yn gwerthfawrogi eu cyfraniadau i'n gwlad."

Yn ogystal â'r cynllun grant, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cytuno i £1.3 miliwn o gyllid i brosiect Hawliau Dinasyddion yr UE er mwyn: darparu adnoddau ychwanegol i ddarparwyr gwasanaethau cynghori, sefydlu cyngor arbenigol ar gamfanteisio yn y gweithle, darparu hyfforddiant i awdurdodau lleol am gymhwyster gwladolion nad ydynt o'r DU i dderbyn gwasanaethau, cynnal ymchwil i nodi anghydraddoldebau a darparu gwefan am hawliau cymunedau o fudwyr yng Nghymru. Bydd Prosiect Hawliau Dinasyddion yr UE yn dod yn weithredol ym mis Mawrth.