Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Gweinidog Brexit Cymru, Jeremy Miles, yn teithio i Strasbourg heddiw i egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar y negodiadau sydd ar y gweill.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn nes ymlaen yr wythnos hon, bydd Aelodau Seneddol San Steffan yn cael cyfle arall i bleidleisio dros gefnogi neu wrthod cytundeb Brexit y Prif Weinidog. Mae’n bosibl hefyd y cynhelir pleidleisiau ychwanegol ar ddileu’r bygythiad o ymadael heb gytundeb ac ar estyn Erthygl 50.

Bydd y Gweinidog yn teithio i Senedd Ewrop yn Strasbourg cyn y bleidlais ystyrlon yn Nhŷ’r Cyffredin yfory, i gwrdd ag Aelodau o Senedd Ewrop ac i bwysleisio safbwynt penodol Llywodraeth Cymru ar Brexit a’r berthynas yr hoffai ei gweld rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol.

Dywedodd Jeremy Miles:

“Llai na thair wythnos sydd i fynd tan y diwrnod pan ydyn ni i fod i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a dydyn ni ddim callach ynglŷn â sut mae hynny’n mynd i ddigwydd. Mae’n rhaid i’r ansicrwydd hwn ddod i ben. Mae’n hen bryd i Brif Weinidog a Senedd y DU ddangos eu bod wedi gwrando ar rybuddion Seneddau Cymru a’r Alban. Fe ddylen nhw ddiystyru ymadael heb gytundeb a gofyn am estyniad i Erthygl 50 ar unwaith.

“Rwy’n teithio i Strasbourg yr wythnos hon i gael gwell dealltwriaeth o farn cydweithwyr ar draws yr Undeb Ewropeaidd; i esbonio ein barn ynglŷn â sut y gellid sicrhau mwyafrif cynaliadwy yn Senedd y DU ar gyfer math o Brexit sy’n adlewyrchu blaenoriaethau Cymru; ac i alw ar Senedd Ewrop i gefnogi ein hymdrechion i osgoi sefyllfa drychinebus o ymadael heb gytundeb. Mae hyn er gwaetha’r ffordd y mae Prif Weinidog y DU wedi camfanteisio ar ewyllys da ein partneriaid drwy geisio ailnegodi’r cytundeb yr oedd hi eisoes wedi cytuno arno.

“Rwy hefyd yn awyddus i fynegi’n glir bod Cymru’n gwerthfawrogi ei pherthynas â’n cymdogion agosaf. Mae cwlwm rhyngom ers blynyddoedd lawer, o ran ein hanes, ac er bod hynny ar fin dod i ben rydyn ni’n credu y gall ac y dylai Cymru barhau i gynnal y dolenni cyswllt agos sydd rhyngddi a’i chyfeillion ar draws Ewrop.”

Cyn cychwyn am Strasbourg, mae Mr Miles wedi cyhoeddi y bydd pedwar prosiect newydd yn elwa ar gyllid o Gronfa Bontio’r UE.

Cafodd y gronfa, sy’n werth £50m, ei datblygu mewn partneriaeth â busnesau, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau allweddol eraill yng Nghymru er mwyn darparu cymorth wedi’i deilwra wrth i’r DU baratoi i ymadael â’r UE.

Dyma’r pedwar prosiect diweddaraf:

  • Epidemioleg maes yn y DU - Unwaith y byddwn wedi ymadael â’r UE, ni fyddwn yn gallu manteisio ar hyfforddiant epidemioleg drwy’r Rhaglen Ewropeaidd ar gyfer Hyfforddiant Ymyrryd Epidemiolegol (EPIET). Mae £180,000 wedi’i ddyfarnu drwy’r Gronfa Bontio i gyllido lle ar Raglen Hyfforddiant Epidemioleg Maes y DU (FETP UK) yng Nghymru er mwyn inni allu penodi cymrodyr a chymryd rhan yn hyfforddiant a rhwydwaith y rhaglen hon, sy’n berthnasol i’r DU gyfan.
  • Statws Preswylwyr Sefydlog a Chyngor ar Fewnfudo - £500,000 i ddarparu rhagor o wybodaeth a chymorth, gan gynnwys cyngor ar fewnfudo, er mwyn helpu dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru a’u cefnogi i ymgeisio’n llwyddiannus am statws sefydlog. 
  • Cymorth i Fforymau Cydnerthedd lleol ar gyfer argyfyngau sifil posibl - rydym yn darparu £500,000 i helpu’r fforymau i wneud eu gwaith o ran y trefniadau cománd, rheoli a chydlynu ar gyfer Operation Yellowhammer yng Nghymru. Dim ond un person sydd gan y rhan fwyaf o’r fforymau i gydlynu’r trefniadau ar gyfer argyfyngau sifil posibl ar draws ardaloedd helaeth ac nid oes ganddynt unrhyw gymorth i ddarparu gwasanaethau y tu allan i oriau arferol. Bydd yr arian yn eu helpu i gyflogi mwy o staff i gydlynu’r cynllunio ac i fodloni’r ymrwymiadau a osodir gan Operation Yellowhammer i gyflwyno adroddiadau. Bydd y staff ychwanegol hefyd yn helpu ag unrhyw ymateb brys yn ystod y cyfnod ymadael, pan fydd angen gweithredu mewn sawl maes ar yr un pryd, o bosibl.
  • Meithrin cadernid cymunedau amaethyddol – er mwyn barnu beth fydd effaith Brexit ar iechyd a llesiant cymunedau ffermio gwledig yng Nghymru, a darparu model cymorth a fydd wedi’i seilio ar dystiolaeth ac a gaiff ei lunio ar y cyd â’r cymunedau ffermio. Dyfarnwyd £28,000 i’r prosiect hwn.