Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyllid gwerth dros £1.5 miliwn wedi cael ei ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru i 17 prosiect a fydd yn darparu sgiliau a phrosiectau hyfforddi o ansawdd uchel yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon wedi cyhoeddi heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Bydd £1.5 miliwn yn cael ei rannu rhwng 17 prosiect
  • Bydd y prosiectau'n helpu'r sector i ddatblygu'r sgiliau cywir
  • Bydd y cyllid yn sicrhau bod sector creadigol Cymru yn parhau i ffynnu

Cafodd y Gronfa Sgiliau Creadigol ei lansio ym mis Medi 2022, gyda'r nod o gefnogi prosiectau a oedd yn gallu cyflawni yn erbyn un neu fwy o'r deg o flaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol tair blynedd, a gafodd ei arwain gan y diwydiant.

Nod y Cynllun Gweithredu yw mynd i'r afael â'r sgiliau sydd eu hangen ar dri sector â blaenoriaeth: cerddoriaeth, cynnwys digidol a sgrin yn y tymor byr, yn ogystal ag ystyried yr anghenion hirdymor a fydd yn sicrhau bod sector creadigol Cymru yn parhau i ffynnu.

Mae'r prosiectau sydd wedi derbyn cyllid yn cynnwys:

  • datblygu sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau rheolwyr cerddoriaeth Cymru
  • uwchsgilio rheolwyr lleoliadau cerddoriaeth lleol yng Nghymru
  • sicrhau bod gan reolwyr a chynhyrchwyr sy'n gweithio ym maes teledu a ffilm yng Nghymru y sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithredu busnes creadigol llwyddiannus, gan ganolbwyntio'n benodol ar fasnacheiddio, sicrhau cyllid, manteisio i'r eithaf ar eiddo deallusol, cyrraedd cynulleidfa fyd-eang a chynllunio ar gyfer olyniaeth
  • bydd rhwydwaith newydd o Gynrychiolwyr Dysgu’r Undeb Gweithwyr Llawrydd a Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn grymuso gweithwyr creadigol i nodi a threfnu gweithgareddau dysgu, a chefnogi iechyd a llesiant meddwl eu cydweithwyr ar lawr gwlad
  • hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd Dysgu newydd ar gyfer y diwydiant sgrin, sydd â'r nod o fynd i'r afael â'r niferoedd hynod isel o bobl sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistig ar y sgrin neu y tu ôl i'r camera
  • hyb Gemau lefel mynediad i helpu i ddatblygu, mewn modd strategol, yr hyfforddiant sy'n cael ei ddarparu ar gyfer amrywiaeth o bobl ifanc, sy'n cynnwys gofynion lefel mynediad ar lefelau 1, 2 a 3 a Fframwaith BTEC

Mae cymorth wedi cael ei ddarparu ar gyfer prosiect newydd, a arweinir gan Ysgol Ffilm a Theledu Prifysgol De Cymru, Prifysgol Bangor, a Screen Alliance Wales, i greu tair Academi Sgrin o fewn Greatpoint Studios, Wolf Studios Wales ac Aria Studios i ddarparu’r sgiliau, yr addysg a'r hyfforddiant sydd eu hangen i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o bobl dalentog yng Nghymru i ffynnu yn y diwydiant sgrin.

Dywedodd Huw Swayne,  Deon Cysylltiol Partneriaethau a Datblygu Busnes Prifysgol De Cymru:

“Mae Academi Sgiliau Cymru yn brosiect arloesol ar gyfer Cymru gyfan, sy’n gweithio gydag Ysgolion, Colegau a Phrifysgolion i greu llwybrau i ymuno â diwydiant Teledu a Ffilm yng Nghymru sydd wedi gweld cryn gynnydd. Mae’n gweithredu mewn stiwdios ym Mangor, Caerdydd, Casnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr, ac mae’n darparu profiadau byd go iawn drwy weithdai, lleoliadau gwaith a gwaith maes. Ein nod yw adeiladu capasiti a hirhoedledd mewn gweithlu cynaliadwy sy’n denu’r bobl fwyaf talentog ac y defnyddio’r cyfleusterau gorau yng Nghymru, gan weithio ac ennill mewn marchnad byd-eang. Mae Prifysgol De Cymru, Screen Alliance Wales a Phrifysgol Bangor yn falch o gael y cyfle i weithio gyda Cymru Creadigol i gyflawni’r fenter gyffrous hon.”

Dywedodd Allison Dowzell, Screen Alliance Wales:

"Mae’n bleser gennyn ni weithio gyda’n partneriaid hirdymor, Prifysgol De Cymru, ar y fenter hon, ochr yn ochr â Phrifysgol Bangor a Cymru Creadigol. Mae cael y cyfle i ehangu’r gwaith rydyn ni eisoes yn ei wneud gyda’n gilydd, drwy fod yn rhan o brosiect Academi Sgiliau Cymru, yn destun cryn gyffro inni, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu a meithrin y dalent yng Nghymru ymhellach byth."

Dywedodd yr Athro Ruth McElroy, Pennaeth yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor:

“Mae Academïau Sgrin Cymru wedi’u sefydlu i wella’n uniongyrchol y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru ddilyn gyrfa yn y diwydiant ffilm a theledu. Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn cydweithio’n agos gydag Stiwdios Ffilm Aria ar Ynys Môn, Prifysgol De Cymru a Chynghrair Sgrin Cymru er mwyn adeiladu ffrwd gynaliadwy a chynhwysol ar gyfer diwydiant sgrin ffyniannus Cymru. Mae datblygu’r dalent gorau gyda’r sgiliau proffesiynol priodol a darparu cyfleoedd yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg yn greiddiol i’n cenhadaeth fel prifysgol, ac mae creu cynnwys bellach yn ddiwydiant byd-eang sy’n cynnig cyfleoedd enfawr i’n myfyrwyr yma yng Nghymru a thu hwnt.”

Mae Beacons Cymru yn ddarparwr sgiliau, gyrfa a datblygu busnes ar gyfer diwydiant cerddoriaeth Cymru, ac mae wedi llwyddo i sicrhau cyllid.

Dywedodd Luke Thomas, Becaons Cymru:

"Rydym yn ddiolchgar iawn i dderbyn y Gronfa Sgiliau Creadigol yn Beacons Cymru. Bydd yn ein galluogi i gyflawni sawl prosiect newydd cyffrous eleni, ac mae pob un ohonynt wedi'u cynllunio gan arweinwyr ifanc y dyfodol yn y sector cerddoriaeth. Bydd y prosiectau hyn i gyd yn helpu pobl ifanc ledled Cymru i ddatblygu sgiliau a’r hyder hanfodol i ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth."

Mae prosiect llwyddiannus arall a fydd yn gweithio ar draws pob sector creadigol ledled Cymru yn cael ei arwain gan BECTU Cymru. Nod Empowering Freelance Creatives ' yw edrych ar ffyrdd arloesol o unioni'r diffyg cydbwysedd rhwng sgiliau a llesiant sy'n gallu rhoi gweithwyr creadigol llawrydd o dan anfantais.

Dywedodd Siân Gale o raglen ddysgu CULT Cymru, rhaglen undeb ar y cyd:  

“Gweithwyr llawrydd yw asgwrn cefn diwydiannau creadigol llwyddiannus Cymru, a bydd y cynllun dwyieithog hwn ar gyfer Cymru gyfan yn darparu llawer o’r cymorth, sydd ei angen yn fawr iawn, ar gyfer y gweithwyr hyn sydd yn aml mewn sefyllfa fregus, i’w helpu nhw a’r diwydiant i oroesi ac i ffynnu.”

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

"Mae'r diwydiannau creadigol yn un o rannau economi Cymru sydd wedi bod yn tyfu gyflymaf ers bron i ddegawd, gan greu swyddi a chyfoeth, cyfrannu at frand cenedlaethol cryf a hyrwyddo Cymru ledled y byd. Er mwyn bodloni'r galw, rydyn ni wedi tynnu sylw at yr angen i ddatblygu'r sgiliau cywir ar draws y sector i gefnogi twf parhaus.

"Diben y gronfa hon yw parhau i gefnogi partneriaethau sgiliau strategol ledled Cymru, ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu dyfarnu'r cyllid i brosiectau cydweithredol a fydd yn darparu cyfleodd gwych ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector neu sydd am weithio yn y sector o bob cefndir."