Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod rhaglen beilot sy’n cefnogi pobl sy’n gweithio yn sector sgrin Cymru gyda’u hiechyd meddwl ar fin elwa o £150,000 ychwanegol yn dilyn cam cyntaf llwyddiannus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wedi’i ariannu drwy Gymru Creadigol, mae rhaglen yr Hwylusydd Lles yn bartneriaeth rhwng rhaglen CULT Cymru, Undebau Creadigol yn Dysgu gyda’i Gilydd ac arbenigwyr iechyd meddwl a llesiant 6ft from the Spotlight CIC

Caiff y rhaglen ei gyrru a'i lliwio gan Grŵp Cynghori o gyflogwyr, undebau a chyrff diwydiant i ymateb i faterion a heriau a rannwyd gan bobl sy'n gweithio yn y sector.

Yng ngham cyntaf y peilot a gynhaliwyd rhwng Medi 2022 a Mawrth 2023, cafodd deg cwmni cynhyrchu fynediad at grantiau o hyd at £15,000 i sicrhau bod Hwylusydd Llesiant sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig yn rhan o’u cynyrchiadau i hyrwyddo iechyd meddwl a darparu cyngor llesiant yn y sector sgrin.

Dangosodd adborth gan gyflogwyr a'r gweithlu fod yr hwyluswyr yn ei gwneud hi'n haws o lawer datrys problemau llesiant ac wedi helpu i wella'r diwylliant gwaith. Nododd nifer o gynyrchiadau hefyd fod cael Hwylusydd Lles ar y set wedi helpu i gynyddu eu cynhyrchiant cyffredinol.

Bydd Cam 2 y peilot yn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd dros y chwe mis diwethaf ac yn galluogi carfan newydd o gwmnïau cynhyrchu i elwa ar y cymorth a'r cyngor sydd ar gael gyda'r nod o gynyddu llesiant ar y set a chadw mwy o staff.

Fel rhan o gam 2 y peilot bydd chwe Hwylusydd Llesiant newydd o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys pobl o Gefndiroedd Mwyafrifol y Byd, pobl anabl a'r gymuned LGBTQ+ yn cael eu hyfforddi. Mae cynlluniau hefyd i ehangu’r peilot i sectorau creadigol eraill fel cerddoriaeth.

Wrth gyhoeddi'r cyllid yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:

Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu sicrhau cyllid ar gyfer ail gam y rhaglen bwysig hon - ac wrth inni nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl - mae'n amser da inni feddwl a siarad am iechyd meddwl, mynd i'r afael â stigma yn uniongyrchol, a darganfod sut y gallwn greu cymdeithas sy'n atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu ac sy’n diogelu ein llesiant meddwl. 

"Mae cam cyntaf y rhaglen Hwylusydd Lles wedi cael effaith sylweddol ar arferion gwaith teg, diogel, cynhwysol a chefnogol yn y sector - ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid ar yr ail gam."

Dywedodd Philippa Childs, Pennaeth Bectu:

Mae Bectu wedi ymgyrchu'n gyson i iechyd meddwl a llesiant gweithwyr fod yn flaenoriaeth allweddol i gyflogwyr ac ymgysylltwyr, ac rwy'n falch iawn bod yr undeb yn gweithio mewn partneriaeth ag undebau creadigol eraill, Cymru Greadigol a rhanddeiliaid y diwydiant ar fenter mor bwysig a llwyddiannus.

"Mae rôl Hwylusydd Lles nid yn unig yn darparu arweiniad a chefnogaeth i weithwyr a gweithwyr llawrydd, ond mae'n dangos ymrwymiad gan gyflogwyr i flaenoriaethu iechyd meddwl a llesiant yn y gwaith.

"Mae effaith y pandemig ar weithlu'r diwydiannau ac yna’r argyfwng costau byw yn golygu nad yw blaenoriaethu iechyd meddwl yn y gwaith erioed wedi bod mor bwysig. Drwy gydweithio cyson a pharhaus yn y diwydiant, gallwn gefnogi'r gweithlu yn well a sicrhau bod y sector cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu ar drywydd i wella ei arferion gwaith."

Dywedodd Ruth Ballantyne, Swyddog Rhanbarthol, Undeb y Cerddorion a Chadeirydd CULT Cymru:

Gan weithio gydag aelodau undeb yn y diwydiannau creadigol bob dydd gallwn werthfawrogi'r angen am hwyluswyr llesiant a'r rôl bwysig y gallant ei chwarae. Mae'r peilot hwn wedi helpu i dynnu sylw at yr angen yn y sector am gymorth llesiant ac yn dilyn ei lwyddiant rydym yn edrych ymlaen at ymestyn y rolau hyn i'r rhai sy'n gweithio mewn cerddoriaeth a digwyddiadau byw.

"Mae llawer o gerddorion yn gweithio mewn amgylcheddau ynysig, straen uchel lle byddai mynediad at Hwylusydd Lles yn ychwanegiad i'w groesawu'n fawr. Mae'r rolau hyn yn gam hanfodol i sicrhau bod iechyd meddwl a llesiant yn flaenoriaeth a'r diwydiannau creadigol yn hygyrch i bawb".

Roedd adborth cyflogwyr a gweithwyr o’r peilot cyntaf wedi nodi manteision cael Hwylusydd Lles ar set gynhyrchu. Dangosodd:

  • fod cael mynediad i Hwylusydd Lles yn dangos ymrwymiad cadarnhaol y cyflogwr i gefnogi llesiant ei weithlu
  • bod y gweithlu yn fwy hyderus yn codi problemau llesiant sy’n weddol hawdd eu datrys gan fod yr Hwylusydd Lles yn anhysbys;
  • y gallai lleisio pryderon ynghylch ymddygiad gwael helpu i wella problemau
  • bod tynnu sylw at bryderon sensitif mewn sgriptiau wedi helpu i roi gwybod i’r cast, criw a’r rheolwyr am bwyntiau sbardun posibl ar gyfer unigolion
  • bod y gallu i drafod heriau personol yn gyfrinachol megis materion teuluol, profedigaeth, iechyd meddwl gwael, problemau ariannol, dim digon o waith etc a chael eich cyfeirio at gymorth priodol yn werthfawr
  • bod angen hyfforddiant o ran iechyd meddwl a llesiant, materion rheoli a chydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyflogwyr a’r gweithlu;Bod cyflogwyr wedi ceisio cyngor ar hygyrchedd ee ynghylch anabledd, crefydd etc.

Yn ddiweddar, dywedodd arolwg yr Elusen Ffilm a Theledu, Iechyd Meddwl yn y Diwydiant Teledu a Ffilm 2022: Tair Blynedd yn ddiweddarach, fod "newid positif" i’w weld mewn diwylliant ac ymddygiad yn ymwneud ag iechyd meddwl a llesiant. Fodd bynnag, nododd yr arolwg hefyd fod ffordd bell iawn i fynd i gefnogi gweithlu'r diwydiant yn well.