Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Mwy o Swyddi

Mae'r bobl ifanc gyntaf i raddio o brosiect peilot i wella mynediad llawr gwlad i'r sectorau gemau ac animeiddio wedi sicrhau lleoedd i'w chwennych ar raddau datblygu gemau ynghyd â gwaith yn y diwydiant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

O'r 30 o fyfyrwyr a astudiodd ar Brosiect Gêm cychwynnol Media Academy Cymru (MAC), aeth 80% ymlaen i gyrsiau addysg bellach yn Ne Cymru, mae pedwar yn astudio cyrsiau sy'n gysylltiedig â gemau yn y brifysgol, ac ar hyn o bryd mae un yn gweithio fel profwr gemau i un o brif ddatblygwyr gemau Cymru.

Mae MAC yn darparu rhaglenni addysg amgen i bobl ifanc 16 i 25 oed nad ydynt mewn addysg na chyflogaeth. Maent yn adnabyddus yn rhyngwladol am eu gwaith yn dargyfeirio plant a phobl ifanc o'r system cyfiawnder troseddol.

Derbyniodd Prosiect Gêm dros £140,000 gan Lywodraeth Cymru, drwy rownd gyntaf Cronfa Sgiliau Cymru Greadigol. Dyfeisiwyd tair rhaglen astudio newydd yn benodol ar gyfer pobl ifanc 16 i 25 oed, a rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr gwrdd â gweithwyr proffesiynol y diwydiant, dysgu am lwybrau gyrfa posibl yng Nghymru a phrofi gemau newydd cyn iddynt gael eu lansio ar gyfer y cyhoedd.

Yn dilyn llwyddiant Prosiect Gêm (sydd bellach yn cael ei gynnig fel cwrs prif ffrwd mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a'r Fro), lansiwyd peilot animeiddio y llynedd a ariannwyd gan ail rownd o gyllid Sgiliau Creadigol. Mae'r Prosiect Animeiddio yn cynnig maes llafur strwythuredig i bobl ifanc sydd â phrofiadau addysgol amrywiol, ynghyd â'r cyfle i rwydweithio a chymryd rhan yn y gymuned animeiddio ehangach, gan ddangos eu gwaith yng Ngŵyl Animeiddio Caerdydd ac mewn nosweithiau animeiddiadau rheolaidd.

Cyfarfu'r Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, â'r myfyrwyr animeiddio presennol yr wythnos diwethaf. Dywedodd:

Mae pwysigrwydd y diwydiannau creadigol i Gymru yn glir – mae'n ymwneud â swyddi, diwylliant a'n hunaniaeth. Roedd cwrdd â'r myfyrwyr animeiddio yn MAC yn ysbrydoliaeth – mae'r bobl ifanc hyn yn hynod dalentog ac yn angerddol am eu crefft. Rhaglenni fel y Prosiect Animeiddio yw'r union beth sydd ei angen arnom i sicrhau bod ein sector creadigol yn adlewyrchu Cymru gyfan, gan ddarparu llwybrau i dalent amrywiol ffynnu.

Treuliodd AJ, sy’n 20-mlwydd-oed, dair blynedd i ffwrdd o'r ysgol yn dilyn problemau teuluol. Ni ddychwelodd i fyd addysg nes iddi ymuno â'r cwrs Animeiddio lefel 3 cyfredol. Dywedodd hi:

Roedd gen i agoraffobia am amser hir felly doeddwn i ddim yn gallu gadael y tŷ. Dyma fy mlwyddyn gyntaf yn ôl ac mae pawb mor ystyriol. Dyma'r peth gorau a allai fod wedi digwydd.

Rwy'n bwriadu astudio yma y flwyddyn nesaf hefyd a dylai hynny roi'r graddau i mi fynd i'r brifysgol. Fy ngobaith yn y pen draw yw sefydlu stiwdio fy hun. Mae gen i gyfres animeiddio y bûm yn gweithio arni ers deng mlynedd ac yn gobeithio ei datblygu ymhellach.

Mae cronfa Sgiliau Creadigol yn cefnogi prosiectau sy'n helpu pobl i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y diwydiannau creadigol - o gerddoriaeth a sgrin i gemau, animeiddio, a thechnoleg ymgolli. Ar draws dwy rownd y gronfa, mae 34 o brosiectau wedi'u hariannu, gan fuddsoddi £3 miliwn.

Canfu adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar brif elfennau'r rownd ariannu gyntaf fod dros 27,000 o unigolion a thros 300 o gwmnïau wedi elwa o'r gefnogaeth a ddarparodd 488 o gyrsiau hyfforddi a sicrhau 300 o leoliadau profiad gwaith.