Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, wedi cyhoeddi cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru o £120,000 ar gyfer Llyfrgell Neyland, fel cyfraniad at brosiect i adnewyddu'r Llyfrgell.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Rhaglen Grantiau Cyfalaf yn helpu amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd i drawsnewid gwasanaethau ar gyfer defnyddwyr ac i sicrhau eu cynaliadwyedd yn y dyfodol.    

Bydd y prosiect yn golygu creu estyniad newydd fel rhan o brosiect datblygu ehangach fydd yn trawsnewid Clwb Athletau Neyland yn ganolfan gymunedol. Byddai hyn  yn trawsnewid y llyfrgell yn gyfleuster aml-ddefnydd, gan ei wneud yn fwy cynaliadwy yn ariannol a gwella perfformiad; bydd hefyd yn helpu'r llyfrgell i gysylltu â'r gymuned, a helpu i ddarparu gwasanaeth llyfrgell proffesiynol.  

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: 

"Dwi wrth ym modd o allu cyhoeddi'r cyllid hwn yn ystod Wythnos y Llyfrgelloedd - a dwi wedi gallu gweld drosof fy hun y gwelliannau y mae'r gronfa hon eisoes wedi ei wneud i greu lleoedd atyniadol, modern a chroesawgar i bawb.

"Tra bo Wythnos y Llyfrgelloedd yn gyfle gwych i ganfod amrywiol bethau y gallwch eu gwneud yn eich llyfrgell, o chwarae a dysgu i blant, i reoli eich iechyd, i gael wifi a gemau am ddim, i ddod o hyd i swydd, byddwn yn canolbwyntio eleni ar y llesiant sy'n golygu y gallwn ystyried swyddogaeth ehangach llyfrgelloedd o gryfhau ein cymunedau. A bydd y datblygiad newydd hwn yn Neyland yn ased gwych i'r gymuned gyfan.  Mae nifer o lyfrgelloedd yn ganolog i fywydau pobl ac mae ganddynt y potensial i drawsnewid y bywydau hynny drwy gynnig lle i rannu profiadau a hyrwyddo cyfleoedd dysgu."

Meddai Paul Miller, Aelod Cabinet Cyngor Sir Benfro dros yr Economi, Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant – sydd hefyd yn Gynghorydd Gorllewin Neyland:  

“Ddwy flynedd yn ôl roedd ein cymuned yn wynebu’r posibilrwydd o fwy neu lai golli’r gwasanaeth llyfrgell gyda cynnig yn cael ei ystyried i leihau amseroedd agor i uchafswm o ddau ddiwrnod yr wythnos.  

“Bellach, diolch i’r bartneriaeth hon rhwng Cwmni Buddiannau Cymunedol Neyland, Cyngor Sir Benfro a Llywodraeth Cymru, gall y gymuned edrych ymlaen at lyfrgell hollol newydd, wedi’i hadeiladu’n bwrpasol yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf ac ar agor saith diwrnod yr wythnos

“Mae’n ganlyniad gwych i bawb a bydd y Ganolfan Gymunedol newydd yn agor ei drysau cyn diwedd 2019.”