Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi cymeradwyo'r arian ar gyfer adeiladu campws cyfrwng Cymraeg newydd gwerth £17 miliwn ym Mhort Talbot.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bwriedir i'r datblygiad newydd weithredu fel anecs i'r ysgol 3-18 yn Ystalyfera.

Bydd lle i 650 o blant yn yr ysgol uwchradd 11-16 newydd a fydd yn bodloni'r galw cynyddol gan ysgolion cynradd Cymreig yn ne'r sir. Caiff ei hadeiladu ar safle hen Ysgol Gyfun Sandfields.

Cafodd yr arian ei ddyrannu fel rhan o Raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif. Yn y rhaglen unigryw hon, mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol yn cydweithredu i gyflawni'r nod o adeiladu cenhedlaeth o ysgolion yr 21ain ganrif yng Nghymru.

Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

"Dyma enghraifft arall o sut mae ein Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif yn canolbwyntio adnoddau ar yr ysgolion cywir yn y mannau cywir.

"Un ysgol uwchradd Gymraeg yn unig sydd gan yr awdurdod lleol ar hyn o bryd, ac mae'r ysgol honno yng ngogledd y sir. Bydd yr arian hwn yn helpu i fodloni'r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn y rhanbarth ac yn lleihau dipyn ar yr amser teithio i rai disgyblion."

Mae Awdurdod Lleol Castell-nedd Port Talbot wedi cael £10.69 miliwn tuag at gyfanswm cost y prosiect, sef £17.05 miliwn