Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Llun 6 Gorffennaf), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y caiff £2.6m o gyllid ychwanegol ei fuddsoddi i gefnogi plant ledled Cymru yn ystod gwyliau’r haf. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn helpu awdurdodadau lleol i ddarparu gofal plant a chwarae i blant dros yr haf. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i blant 5 i 16 oed gymryd rhan mewn gweithgareddau y gallent fod wedi gweld eu heisiau pan nad oeddent yn gallu mynd i’r ysgol yn ystod y cyfnod clo. 

Bydd y cyllid ychwanegol yn deillio o ddwy ffynhonnell – bydd £1.6m ar gael drwy Gronfa Galedi Awdurdodau Lleol i ddarparu gofal plant a chwarae i blant. A bydd £1m yn cael ei ddyrannu o’r gyllideb addysg i helpu plant a phobl ifanc i ailgydio yn eu haddysg dros yr haf. Bydd hynny’n rhoi’r cyfle iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau y gallent fod wedi gweld eu heisiau yn ystod eu cyfnod i ffwrdd o’r ysgol, megis cymdeithasu â’u cyfoedion a gweithgarwch corfforol.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mae ein hysgolion a’n darparwyr gofal plant wedi chwarae rôl bwysig i sicrhau bod gan ein plant ofal diogel, yn enwedig ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a phlant bregus. 

Wrth i wyliau’r haf agosáu, mae’n holl bwysig bod ein plant yn parhau i gael gofal diogel a chyfle i chwarae’n ddiogel. 

Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn helpu i ddarparu’r cymorth ychwanegol sydd ei angen dros yr haf.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i benderfynu sut y bydd y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu – bydd y cyllid yn targedu’r rheini sydd wedi bod fwyaf ar eu colled yn ystod eu cyfnod i ffwrdd o’r ysgol, ac yn canolbwyntio’n benodol ar anghenion plant bregus mewn cymunedau difreintiedig.

Bydd prydau ysgol am ddim yn parhau i fod ar gael i blant cymwys dros wyliau’r haf – Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud yr ymrwymiad hwnnw. 

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

Rydyn ni wedi gweld ymgyrchu proffil uchel yn ddiweddar i sicrhau bod prydau ysgol am ddim ar gael yn ystod gwyliau’r haf – Ro’n i’n falch iawn i allu cadarnhau ein hymrwymiad, a gafodd ei wneud ym mis Ebrill, y byddai plant yng Nghymru yn parhau i gael prydau ysgol am ddim yn ystod yr haf.

Bydd Cynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws, sy’n darparu gofal plant a ariennir i blant gweithwyr hanfodol a phlant bregus o dan 5 oed, yn parhau tan ddiwedd mis Awst. Byddwn yn ailedrych ar ddyfodol y Cynllun dros yr haf.