Neidio i'r prif gynnwy

Daw’r cyllid ar ôl i’r sefydliad gyhoeddi’r papur ‘Meithrin Miliwn’ yn nhymor yr haf 2017.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y sefydliad yn cael £3.031 miliwn y flwyddyn am y ddwy flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn cynnwys £2.031 miliwn o gyllid blynyddol a £1 miliwn y flwyddyn  yn ychwanegol yn rhan o’r fargen rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r gyllideb.

Daw’r cyllid ar ôl i’r sefydliad gyhoeddi’r papur ‘Meithrin Miliwn’ yn nhymor yr haf 2017, yn amlinellu’r camau y mae angen eu cymryd i alluogi Mudiad Meithrin i ymateb yn gadarnhaol i’r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Bydd y cyllid ychwanegol yn caniatáu i Fudiad Meithrin:

  • gynnig cymorth ychwanegol i sefydlu lleoliadau newydd mewn mannau â blaenoriaeth ledled Cymru lle nad oes digon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
  • datblygu modelau gwahanol ar gyfer cylchoedd meithrin newydd.
  • cryfhau strwythurau rhanbarthol a chenedlaethol Mudiad Meithrin i gefnogi’r cynnydd yn nifer yr aelodau.

Meddai Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, wrth gyhoeddi’r cyllid:

“Mae miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged uchelgeisiol iawn. Mae addysg, ac addysg y blynyddoedd cynnar yn arbennig, yn allweddol yn hyn o beth a dyna pam yr ydym wedi gosod targedau i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg trwy sefydlu 40 o gylchoedd meithrin Cymraeg ychwanegol erbyn 2021 a 150 o gylchoedd meithrin Cymraeg ychwanegol dros y degawd sydd i ddod.

“Gan mai Mudiad Meithrin yw’r arbenigwr ym maes gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg, mae gan y sefydliad gyfraniad hollbwysig i’w wneud. Rwyf wrth fy modd felly yn cyhoeddi’r cyllid ychwanegol hwn i’w gynorthwyo i gyfrannu at y targed.”

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Bydd buddsoddiad ariannol ychwanegol Llywodraeth Cymru yn galluogi Mudiad Meithrin i sicrhau agor Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi o’r newydd er mwyn cyfrannu at dargedau uchelgeisiol strategaeth iaith ‘Cymraeg 2050’. Mae’r berthynas rhwng cynnydd yr iaith a gofal plant yn allweddol i lwyddiant y cynllun hwn.”