Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Bydd gwasanaeth profi ar-lein am HIV, sy'n cynnig profion cyfrinachol ac am ddim yn cael ei ehangu gyda chyllid newydd i gefnogi mesurau i ddileu trosglwyddiadau newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae mwy na £9m yn cael ei fuddsoddi yng Nghynllun Gweithredu HIV Cymru dros y ddwy flynedd nesaf, sy'n cynnwys bron i £4m y flwyddyn i ehangu mynediad at wasanaethau profi.

Mae'r gwasanaeth profi ar-lein eisoes yn darparu 40,000 o brofion HIV gartref bob blwyddyn a bron i 16,000 o becynnau profi cymunedol ledled Cymru. Bydd y cyllid newydd yn helpu i ehangu'r gwasanaeth ymhellach.

Ymhlith y mesurau eraill sy'n cael eu cefnogi mae gwella mynediad at broffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP), a'r defnydd ohono, sef cyffur sydd, o'i gymryd yn unol â'r presgripsiwn, yn lleihau'r risg o ddal HIV drwy ryw 99%.

Mae Cymru eisoes yn darparu PrEP drwy'r GIG. Bellach, bydd math amgen o'r cyffur ar gael fel mater o drefn i'r rhai nad ydynt yn gallu cymryd y math presennol.

Byddwn yn cryfhau gwasanaethau cymorth i sicrhau bod pobl sydd â HIV yn byw'n dda ac yn cael y driniaeth gywir pan fydd ei hangen arnynt. Gan adeiladu ar y cymorth sydd eisoes ar gael yng Nghymru, bydd cyllid yn cael ei ddyrannu ar gyfer rhaglen genedlaethol cymorth gan gymheiriaid.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:

Rydyn ni eisiau i bobl sy'n byw gyda HIV yng Nghymru fyw eu bywydau gorau posibl.

Byddwn ni'n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd profi ac yn ehangu ein gwasanaethau profi ar-lein llwyddiannus, gan ei gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at brawf. Byddwn ni hefyd yn ei gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at PrEP ac yn atgyfnerthu'r neges allweddol na all pobl sydd ar driniaeth effeithiol drosglwyddo HIV i eraill.