Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y GIG yn elwa ar £10 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i uwchraddio cyfarpar sganio a seilwaith digidol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r pecyn ariannu yn cynnwys:

  • £5 miliwn  ar gyfer gwasanaethau digidol i foderneiddio elfennau o'r seilwaith TG a chefnogi'r gwaith o ddarparu gofal cleifion effeithlon ac wedi'i foderneiddio
  • £1 miliwn i uwchraddio sganwyr MRI
  • £1.3 miliwn  ar gyfer cyfarpar sganio uwchsain

Mae'r cyllid ychwanegol ar gael heddiw wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei hail gyllideb atodol – cyllideb flynyddol, diwedd blwyddyn, sy'n ffurfioli newidiadau a wnaed yn ystod 2023 i 24.

Eleni, mae'r ail gyllideb atodol yn cynnwys newidiadau a gyhoeddodd y Gweinidog Cyllid ym mis Hydref 2023 i ddarparu cymorth ychwanegol i'r GIG a Trafnidiaeth Cymru.

Darparodd Llywodraeth Cymru gymorth ychwanegol yn ystod y flwyddyn o £425 miliwn i'r GIG a £125 miliwn i Trafnidiaeth Cymru i helpu i fynd i’r afael â phwysau costau cynyddol, a galw cynyddol yn achos y byrddau iechyd.

Mae'r ail gyllideb atodol hefyd yn manylu ar rywfaint o'r cyllid ychwanegol sydd ar gael i Gymru o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU i gynyddu gwariant mewn meysydd datganoledig.

Ond daeth yr hysbysiad ynghylch y cyllid canlyniadol ychwanegol yn rhy hwyr i'w wario yn y flwyddyn ariannol hon. Bydd y cyllid refeniw a chyfalaf ychwanegol yn cael ei roi yng Nghronfa wrth Gefn Cymru i'w ddefnyddio yn 2024 i 25 a 2025 i 26.  

Wrth i'r ffigurau gael eu cyhoeddi, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

Fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU y symiau terfynol yr wythnos diwethaf, gan adael dim ond wythnos inni ddyrannu arian ychwanegol.

Rwy'n falch ein bod wedi gallu cyfeirio cyllid y mae mawr ei angen i gynnal adeiladwaith ein GIG.

Ond ar adeg pan fo cyllidebau'r sector cyhoeddus wedi cael eu gwasgu mor dynn, dyma enghraifft arall pam fod angen mwy o bwerau benthyca arnom er mwyn ymateb yn gyflym i anghenion sy’n dod i’r amlwg.

Yn wahanol i Lywodraeth y DU, ni allwn fenthyca i ariannu gwariant o ddydd i ddydd, felly rydym yn ddibynnol ar symiau canlyniadol Barnett sy’n aml yn cyrraedd yn hwyr yn y flwyddyn heb fawr o rybudd, neu heb rybudd o gwbl.

Fel y mae hi, rydym wedi cael ein gorfodi i gynllunio yn seiliedig ar yr amcangyfrifon gorau ynghylch yr hyn y byddwn yn ei dderbyn gan Drysorlys y DU – yn syml, nid yw hyn yn dderbyniol.

Ychwanegodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mae croeso i'r cyllid cyfalaf ychwanegol hwn, ynghyd â'r cyllid refeniw yn ystod y flwyddyn.

Ond mae'r GIG yn wynebu'r pwysau ariannol anoddaf yn ei hanes yn ddiweddar oherwydd chwyddiant a mwy o alw o ran gofal sydd wedi'i gynllunio a gofal argyfwng.  Mae byrddau iechyd wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn er gwaethaf y chwistrelliad ychwanegol o gyllid ar ben eu cyllidebau penodedig.

Mae disgwyl i'r gyllideb atodol gael ei thrafod ddydd Mawrth 12 Mawrth, ar ôl Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2024 i 25 ddydd Mawrth 27 Chwefror.