Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol bod parhad yn y cyllid sy’n helpu undebau credyd i estyn eu gallu i fenthyca ac i helpu mwy o bobl sydd mewn sefyllfa fregus yn ariannol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd £600,000 yn rhoi hwb i’r ymyriad costau byw a gyflwynwyd y llynedd ac sy’n rhoi cymorth i bobl sydd â hanes credyd gwael sy’n ei chael hi’n anodd yn ariannol.

Mae gan undebau credyd hanes cryf o feithrin gwydnwch ariannol i'r rhai a allai fod mewn sefyllfa fwy bregus yn ariannol.

Yn sefydliadau nid er elw, maent yn eiddo i'r bobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau, yn hytrach nag i gyfranddalwyr allanol neu fuddsoddwyr. Maen nhw'n fenthycwyr fforddiadwy a chyfrifol sy'n cyfrannu at yr economi a lles ariannol aelodau.

Wrth ymweld â Banc Cymunedol Smart Money Cymru yng Nghaerffili, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:

"Mae undebau credyd Cymru yn gweithio'n anhygoel o galed o ran ein cefnogi i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a thaclo tlodi ledled Cymru.

"Mae eu gwasanaethau nhw wedi bod - ac fe fyddan nhw'n parhau i fod - yn hanfodol i bobl sy'n wynebu trafferthion ariannol yn ystod yr argyfwng costau byw hwn na welwyd ei debyg o’r blaen. Hoffwn ddiolch iddynt am eu hymrwymiad i ddarparu mynediad at gredyd teg a fforddiadwy.

"Byddwn yn annog y rhai sy'n ei chael hi'n anodd ac a allai fod yn wynebu risg benthycwyr stepen drws llog uchel neu fenthycwyr arian didrwydded, i droi at eu hundeb credyd lleol, sy'n gallu rhoi mynediad i chi at gredyd teg a fforddiadwy."

Mae'r arian yn un o nifer o ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw drwy ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sydd ei angen fwyaf.

Mae ymweliad y Gweinidog yn dilyn rhoi £121,033 yn ychwanegol mewn cymorth cyfalaf i Fanc Cymunedol Smart Money Cymru ac Undeb Credyd Bwrdeistref Merthyr Tudful i gynorthwyo gyda'r gost o wneud gwaith ddiweddaru angenrheidiol i seilwaith TG, gan sicrhau eu bod cystal â banciau ar y stryd fawr.

Bydd y gwaith o uwchraddio TG yn gwneud undebau credyd yn fwy deniadol i aelodau sy'n disgwyl profiad digidol, gan ddarparu dewis arall gwirioneddol yn lle benthycwyr cost uchel, yn enwedig i gynulleidfa iau.

Dywedodd Mark White, Prif Weithredwr Banc Cymunedol Smart Money Cymru:

"Mae cymorth cyfalaf Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn TG newydd wedi bod yn hwb aruthrol a fydd yn caniatáu i Smart Money dyfu a datblygu gwasanaethau bancio fforddiadwy newydd.

“Mae’r cyllid ychwanegol i gefnogi ein gwasanaeth benthyca i’r rhai sydd leiaf tebygol o allu cael cyllid yn golygu y gallwn dargedu ein benthyciadau at y rhai sydd â’r angen mwyaf am gredyd yn yr hinsawdd bresennol.”