Neidio i'r prif gynnwy

Mae £19 miliwn o gyllid yr UE wedi'i sicrhau i ddatblygu gwaith ar Metro De Cymru, a gaiff ei gadarnhau yn hwyrach heddiw gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r gwaith wedi dechrau i drawsnewid rhwydwaith rheilffordd Cledrau'r Cymoedd fel rhan o gam 2 rhaglen Metro De Cymru, fydd yn cynnig gwasanaeth cyflymach a mwy rheolaidd i orsafoedd blaenau'r cymoedd a chysylltiad uniongyrchol â Bae Caerdydd.

Bydd y buddsoddiad yn mynd tuag at wella'r seilwaith er mwyn darparu ar gyfer dyblu nifer y trenau i orsafoedd blaenau'r cymoedd o ddwy yr awr i bedair. Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i foderneiddio gorsafoedd i wella mwy ar deithiau defnyddwyr trenau. 

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae Metro De Cymru yn rhan bwysig o'n huchelgais fel llywodraeth i wella trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltu cymunedau a phobl y  Cymoedd yn well gyda chyfleoedd am waith.

"Mae'r cadarnhad heddiw o £119 miliwn o gyllid yn golygu y gallwn fynd ymlaen â'r buddsoddiad mewn gwaith seilwaith ar reilffyrdd y cymoedd i ddarparu teithiau cyflymach a mwy effeithiol i'r miloedd o ddefnyddwyr y rheilffyrdd sy'n defnyddio'r llwybrau hyn bob dydd."

Mae cyhoeddiad heddiw ynghylch cyllid yn cynnwys:

  • £21.1 miliwn ar gyfer rheilffordd Merthyr i ddyblu'r trac rhwng Merthyr Tudful a Phentrebach, a rhwng Ynysowen a Quakers Yard. Bydd platfformau newydd yn cael eu hadeiladu i gynnwys dyblu'r trac, gyda chyfnewidfa well yng ngorsaf Merthyr Tudful, mynediad ramp newydd ym Mhentrebach a platfform a phont droed newydd yn Quakers Yard. 

  • £27.4 miliwn ar gyfer rheilffordd Treherbert i ganiatáu gwaith seilwaith ar hyd y rheilffordd i gyd, gan gynnwys dyblu'r trac o'r gogledd o Ynyswen i'r de o Dreorci a'r gogledd o Lwynypia i dde Dinas.  Mae'r cynllun yn cynnwys platfformau newydd hefyd.
  • £23 miliwn i reilffordd Aberdâr i ddyblu'r trac, adeiladu platfform newydd a gwaith seilwaith arall i ganiatáu i'r gwasanaeth gael ei gynyddu i bedair trên yr awr ar hyd y rheilffordd gyfan o Abercynon i Aberdâr. Bydd y gwaith o ddyblu'r trac yn digwydd rhwng Aberdâr a Chwmbach, Fernhill a Phenrhiwbeiber, ac i'r gogledd o Abercynon. Mae'r cynllun yn cynnwys platfform newydd, mynediad newydd heb risiau ac ystafelloedd aros newydd yn Aberdâr, a chyfnewidfa well yn Abercynon.  
  • £19.5 miliwn i reilffordd Rhymni i gynnal gwaith dyblu'r trac i'r de o Rhymni, i'r gogledd o Tir Phil ac o amgylch Bargoed. Bydd y cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith seilwaith arall i ganiatáu i'r gwasanaeth gael ei gynyddu i bedair trên yr awr a platfformau newydd, gan gynnwys mynediad heb risiau ac ystafell aros newydd yn Rhymni.
  • Bydd £27.3 miliwn hefyd yn cael ei neilltuo i gynllun Depo Ffynnon Taf i brynu tir, adeiladu ffordd a mynediad at y rheilffordd, gan ddarparu tir wedi'i wasanaethu ar gyfer depo newydd o safon uchel fydd yn sicrhau bod gwasanaeth y Metro yn fwy dibynadwy ac yn galluogi cynnal a chadw cerbydau modern. 

Gan groesawu cyhoeddiad heddiw, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:

"Dwi'n falch o gadarnhau y swm sylweddol hwn o gyllid yr UE ar gyfer Metro De Cymru. Bydd hwn, yn ogystal â dechrau contract rheilffordd newydd Cymru a'r Gororau yn ddiweddarach yn y mis, yn nodi datblygiad sylweddol tuag at ein cynlluniau ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd modern, effeithiol sy'n edrych at y dyfodol. 

"Rydyn ni wedi gwrando ar bryderon teithwyr ac wedi sicrhau bod eu hanghenion yn ganolog i'n cynlluniau ynghylch y contract rheilffyrdd newydd a Metro De Cymru. Bydd cyllid heddiw yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau cyflymach, gyda chyfleusterau modern, a chysylltiad gwell drwy'r Cymoedd."

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cais hefyd am £40 miliwn arall o leiaf o gyllid yr UE i gefnogi gwelliannau i seilwaith y Metro a fydd gobeithio wedi'i sicrhau erbyn diwedd 2018. 

Bydd disgwyl i'r gwaith ar Gam 2 Metro De Cymru gael ei gwblhau erbyn 2023.