Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau rheng flaen y cynghorau, gan gynnwys ysgolion a gofal cymdeithasol, wrth wraidd Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-2025, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Gyllideb ddrafft wedi'i datblygu ar adeg pan fo’r sefyllfa ariannol anoddaf i Gymru ei hwynebu ers dechrau datganoli yn ei hanterth.

O ganlyniad i chwyddiant, mae cyllideb gyffredinol Cymru werth £1.3bn yn llai mewn termau real ers iddi gael ei gosod yn 2021. Nid yw setliad Cymru, sy'n cael ei ddarparu’n bennaf gan Lywodraeth y DU ar ffurf grant bloc yn ddigonol i ymateb i'r pwysau eithafol y mae gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phobl yn eu hwynebu, ac ni chafwyd unrhyw gynnydd gan Lywodraeth y DU i gydnabod y cyd-destun economaidd presennol.

Mae’r Gweinidogion wedi wynebu dewisiadau dybryd a phoenus gan eu bod wedi ail-lunio’r cynlluniau gwariant mewn modd radical i ganolbwyntio wrth neilltuo cyllid ar y gwasanaethau cyhoeddus craidd hynny sydd bwysicaf i bobl.

Bydd y Gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach heddiw.