Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Ers dechrau'r Cytundeb Cydweithio ar 1 Rhagfyr 2021, bu ymgysylltu rheolaidd ac adeiladol rhwng y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Aelod Dynodedig Arweiniol ar ystod o faterion cyllidebol. Mae hyn wedi cynnwys saith cyfarfod ffurfiol o'r Pwyllgor Cyllid, hyd at ddiwedd mis Chwefror 2023, yn cwmpasu Cyllidebau Drafft, Terfynol ac Atodol a materion cysylltiedig. Yn ogystal, cynhaliwyd tua pedwar ar ddeg o gyfarfodydd dwyochrog rhwng y Gweinidog a'r Aelod Dynodedig Arweiniol yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys sesiynau briffio rheolaidd yn gysylltiedig â digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y DU.

Yn ogystal â pharhau i ddiogelu ymrwymiadau ariannu'r Cytundeb Cydweithio, mae'r ymgysylltu cynhyrchiol hwn wedi sicrhau bod cyllid ychwanegol hefyd wedi'i ddarparu (nodir manylion pellach isod); a bydd meysydd eraill sydd o ddiddordeb ar y cyd hefyd yn derbyn cyllid ychwanegol, yn enwedig mewn perthynas â'r argyfwng costau byw a phwysau ehangach ar ein gwasanaethau cyhoeddus gyda phwyslais ar ymdrechion ar yr agenda ataliol.

Cyd-destun i Gyllideb 2023 i 2024

Roedd y canlynol yn gefnlen i broses Cyllideb 2023 i 2024:

  • Mae Cyllideb 2023 i 2024 yn adeiladu ar y dyraniadau dangosol a gytunwyd fel rhan o'r Adolygiad Gwariant tair blynedd a gytunwyd yn 2022. (Cyhoeddwyd Adolygiad Gwariant 2022-25 yn ddrafft ym mis Rhagfyr 2021 ar gyfer cyfnod y 3 blynedd ganlynol. Roedd yn cwmpasu'r Gyllideb ar gyfer 2022-23 a chynlluniau gwariant dangosol ar gyfer 2023-24 a 2024-25. Fe'i pasiwyd gan y Senedd ym mis Mawrth 2022.) Nod hynny oedd darparu cymaint o sicrwydd â phosib ar gyfer gwasanaethau sy'n dibynnu ar gyllid gan Lywodraeth Cymru am y tair blynedd nesaf. Roedd hefyd yn nodi'r dyraniadau cyllidebol ar gyfer tri ar ddeg o feysydd penodol yn y Cytundeb Cydweithio.
  • Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymarfer ail-flaenoriaethu fel rhan o'r paratoadau ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2023-24, gan geisio rhyddhau arian o bortffolios i adleoli cyllid i fynd i'r afael â phwysau ar wasanaethau cyhoeddus, diogelu'r Rhaglen Lywodraethu – y mae'r Cytundeb Cydweithredu yn rhan allweddol ohoni – a helpu i liniaru effeithiau'r argyfwng costau byw.
  • Rhoddwyd ychydig o arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru oherwydd Datganiad yr Hydref (£1.2bn dros y ddwy flynedd nesaf); dyrannwyd hyn yn y Gyllideb Ddrafft a bydd yn cael ei gadarnhau yng Nghyllideb Derfynol 2023 i 2024.

Paratoi Cyllideb 2023 i 2024

  • Roedd tair egwyddor yn sail i benderfyniadau Llywodraeth Cymru wrth lunio Cyllideb Ddrafft 2023-24: gwarchod gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen a'n huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol; parhau i ddarparu cymorth i'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw; a chefnogi ein heconomi drwy gyfnod dirwasgiadol. Canlyniad hyn oedd nifer o ddyraniadau, mewn meysydd lle mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gan Blaid Cymru ddiddordeb brwd, gan gynnwys:
    • £227m ychwanegol i lywodraeth leol, gan gynnwys cyllid i ysgolion a gofal cymdeithasol
    • £165m ychwanegol i GIG Cymru i helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen
    • £40m i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus
    • £18.8m ychwanegol ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol
    • £10m i gefnogi tai a digartrefedd
    • £9m ar gyfer adrannau chweched dosbarth ac Addysg Bellach
    • £9m ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion
    • £5.5m ar gyfer y  cynllun Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau mewn ymateb i’r pandemig
    • £4.5m i gefnogi plant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol
  • Diogelwyd y pedwar-deg-chwech o feysydd yn rhaglen bolisi a rennir y Cytundeb Cydweithio yn ystod y broses hon. Arweiniodd hyn at ddiogelu pob un o’r tri ar ddeg o ddyraniadau cyllidebol, er gwaethaf y sefyllfa gyllidebol arbennig o heriol. Yn wahanol i feysydd gweithgarwch eraill, nid oeddent yn ddarostyngedig i ail-flaenoriaethu, gostyngiadau mewn cyllid na phroffil cyflenwi diwygiedig.
  • Yn ogystal, mae'r holl arian a ddyrannwyd i ymrwymiadau’r Cytundeb Cydweithio ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023 wedi cael ei ddiwygio a'i ail-broffilio lle mae tanwariant fel nad oes unrhyw gyllid yn cael ei golli o ddyraniadau’r Cytundeb Cydweithio mewn unrhyw ran o'r Llywodraeth.

Mae cyfres o gyfarfodydd dwyochrog rhwng Gweinidogion unigol ac Aelodau Dynodedig wedi archwilio cyllidebau portffolio unigol ac wedi sicrhau bod yr ymrwymiadau yn y Cytundeb Cydweithio ar y trywydd iawn a bod y cyllid a'r adnoddau priodol yn eu lle i gyflawni'r rhaglen bolisi a rennir. Byddwn ni'n parhau i fonitro'r rhain yn agos fel rhan o gyfarfodydd dwyochrog rheolaidd yn ogystal â'r Cyd-bwyllgorau Polisi a'r Bwrdd Trosolwg. Mae'r set ddiwygiedig o broffiliau wedi'u cytuno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Aelod Dynodedig Arweiniol.

Cyllid priodol ar gyfer rhaglen polisi a rennir y Cytundeb Cydweithio

  • Cafodd £10m o refeniw ychwanegol yn 2023 i 2024 a 2024 i 2025 ei ddyrannu yn y Gyllideb Ddrafft tuag at ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed a chytundeb y bydd y Bwrdd Trosolwg yn monitro hyn yn rheolaidd - sy'n berthnasol i ymrwymiad rhif 2 y Cytundeb Cydweithio.
  • O'r arian ychwanegol a roddwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn y Gyllideb Ddrafft, darparwyd £150,000 o refeniw o ganlyniad i'r Cytundeb Cydweithio. Byddwn hefyd yn sicrhau y bydd cyllid i gefnogi'r Strategaeth Ddiwylliant draws-lywodraethol sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd yn helpu i gynnal y sectorau diwylliant, celfyddydau a threftadaeth a'n sefydliadau diwylliannol cenedlaethol.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae trafodaethau pellach rhwng y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Aelod Dynodedig wedi tynnu sylw at feysydd yn y Cytundeb  Cydweithio lle bydd cyllid refeniw ychwanegol ar gyfer 2023 i 2024 yn cael ei ddarparu:

  • £100,000-£150,000 ychwanegol i barhau â'n gwaith ar y cyd ar hyrwyddo prynu nwyddau a gwasanaethau a wneir yng Nghymru a allai fod yn debyg i'r model Gwyddelig llwyddiannus, gan helpu i gadw arian yn yr economi leol – sy'n berthnasol i ymrwymiad rhif 10 y Cytundeb Cydweithio.
  • £80,000 ychwanegol ar gyfer archwilio strwythurau gorau yn y dyfodol ar gyfer mynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd yn rhanbarth Arfor ac i bartneriaeth ar draws cymoedd de Cymru - sy'n berthnasol i ymrwymiad rhif 26 y Cytundeb Cydweithio.
  • £111,500 ychwanegol i archwilio y cyfraniad y gallai sefydlu Ysgol Lywodraethu Genedlaethol ei wneud er mwyn sicrhau newid sylweddol o ran sut y gellir mynd ati’n ymarferol i wireddu’r syniad o Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru - sy'n berthnasol i ymrwymiad rhif 27 y Cytundeb Cydweithio.
  • Mae ymrwymiad ar y cyd hefyd i fonitro'n agos y gofynion cyllidebol ar gyfer cyflawni ymrwymiad rhif 1 y Cytundeb Cydweithio ar Brydau Ysgol Am Ddim.

Dylanwad ar feysydd eraill

Mae nifer o feysydd y tu hwnt i'r Cytundeb Cydweithio lle rydym wedi gallu cytuno ar ddyraniadau ariannol ychwanegol:

  • Refeniw ychwanegol o £1m ar gyfer 2023 i 2024 ar gyfer y Gymraeg – sy'n gysylltiedig ag ymrwymiad rhif 36 y Cytundeb Cydweithio ac fel rhan o gefnogaeth i ddeall a pheilota ymyriadau mewn ymateb i ganlyniadau Cyfrifiad y Gymraeg 2021 yn Sir Gaerfyrddin ac ardaloedd cyn-gadarnleoedd diwydiannol Cymoedd y Gorllewin. Gallai'r cyllid ychwanegol hwn gael ei ddarparu i weithio mewn partneriaeth ag eraill i’w ddefnyddio i ddiogelu a thyfu'r iaith mewn cymunedau sy'n hanfodol i'w dyfodol.
  • Gan adeiladu ar y pecyn o fesurau yn y Cytundeb Cydweithio ar ail gartrefi ac i wella argaeledd a fforddiadwyedd tai mewn cymunedau lleol i'r rhai ar incwm lleol, yn ogystal ag wrth ymateb i effaith costau byw, rydym yn bwriadu datblygu pecyn cymorth newydd ar gyfer tai.

    Gyda hyn mewn golwg, roedd tai yn rhan allweddol o ddyraniadau Cyfalaf Trafodiadau Ariannol ac mae'r rhan fwyaf o ddyraniadau wedi'u gwneud i'r Prif Grŵp Gwariant Newid Hinsawdd.

    Mae hyn yn cynnwys £20m yn 2023 i 2024 ac £20m yn 2024/2025 o Gyfalaf Trafodiadau Ariannol i helpu'r rhai sy'n cael trafferthion morgais yn gynnar er mwyn eu galluogi i aros yn eu cartrefi.

    Mae dyraniad o £40 miliwn yn 2023 i 2024 a £19m yn 2024/25 hefyd wedi'i wneud tuag at gefnogi darparu tai cymdeithasol newydd carbon isel. Bydd cymysgedd o fenthyciadau tymor byr a hirdymor yn cael eu darparu i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i annog parhad adeiladu tai.

    Byddwn yn sicrhau bod y cynigion Cyfalaf Trafodiadau Ariannol hyn yn gweithredu'n effeithiol gyda'n gwaith i sefydlu'r Cwmni Adeiladu Cenedlaethol, Unnos, ymrwymiad rhif 5 y Cytundeb Cydweithio.

    Bydd opsiynau pellach i gefnogi'r rhai mewn trafferthion ariannol i aros yn eu cartrefi yn ystod yr argyfwng costau byw presennol yn ogystal ag i'r rhai sy'n dymuno prynu cartref ond sy'n cael eu dal gan renti uchel yn ganolbwynt trafodaeth ac ymgysylltu pellach rhwng y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Aelod Dynodedig. Bydd hyn, yn ogystal â'n hymrwymiad i archwilio'r opsiynau ar gyfer argaeledd morgeisi lleol, hefyd yn cynorthwyo'n fawr yn ein nod o fynd i'r afael ag ail gartrefi a thai anfforddiadwy yn ein cymunedau i bobl leol ar incwm lleol.

  • Byddwn yn darparu £750,000 o refeniw ychwanegol, wedi'i rannu dros y ddwy flynedd ariannol nesaf, ar gyfer y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff – ymyrraeth iechyd sy'n cefnogi pobl i wneud a chynnal dewisiadau ar gyfer ffordd iachach o fyw a mesur ataliol hanfodol.
  • Byddwn yn darparu £150,000 o refeniw ar gyfer 2023-24 i ddarparu mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023 yn Sir Gâr.
  • Byddwn yn darparu dyraniadau newydd i sicrhau bod ein dyheadau a’n safbwynt a rennir ar bwysigrwydd Prydau Ysgol am Ddim yn cael ei gynnal a’i gryfhau yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw.

Meysydd blaenoriaeth ar gyfer 2023 i 2024

Yn ogystal â'r pwysau parhaus o dâl yn y sector cyhoeddus, ac fel rhan o'r berthynas gyllidebol barhaus, nodwyd y meysydd canlynol fel meysydd blaenoriaeth i Blaid Cymru i'w trafod os bydd unrhyw symiau canlyniadol pellach gan Lywodraeth y DU:

  • Cynnydd yn y Lwfans Cynhaliaeth Addysg
  • Ymestyn cymhwysedd i Brydau Ysgol Am Ddim mewn ysgolion uwchradd
  • Ymestyn y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau

Atodiad A: Testun o'r Cytundeb Cydweithio - mecanweithiau

Roedd y Cytundeb Cydweithredu a lofnodwyd ar 1 Rhagfyr 2021 yn cynnwys y paragraffau canlynol ar y gyllideb yn y ddogfen mecanweithiau:

Darperir adnoddau fel y cytunwyd ar gyfer y Cytundeb Cydweithio a chaiff y trosolwg o’r gwaith o gyflawni’r Cytundeb, a’r dyraniadau cyllidebol ar ei gyfer, ei fonitro ar y cyd drwy Bwyllgor Cyllid. Bydd aelodau’r Pwyllgor hwn yn cynnwys y Gweinidog sy’n gyfrifol am Gyllid ac aelod dynodedig perthnasol Plaid Cymru. Penderfynir maes o law ar amlder y cyfarfodydd ond cânt eu cynnull yn rheolaidd yn y cyfnod cyn gweithdrefnau’r Senedd ar gyfer y Gyllideb flynyddol, ac adeg unrhyw drafodaethau ar gyllidebau atodol a thanwariant / addasiadau diwedd blwyddyn.

Bydd cylch cyllideb tair blynedd yn sail i’r Cytundeb hwn. Byddai unrhyw adnoddau ychwanegol yn cael eu nodi a’u hystyried ar y cyd o flwyddyn i flwyddyn gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun y materion a nodir yn y Cytundeb Cydweithio.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ymgynghori a chydweithio â Phlaid Cymru drwy gydol y broses ddatblygu a chraffu ar bob cam o gylch y Gyllideb flynyddol.

Ar y sail y bydd yr ymrwymiad uchod yn sicrhau cyllid priodol ar gyfer y rhaglen bolisi a rennir ac yn dylanwadu ar faterion cyllidebol eraill, mae Plaid Cymru yn cytuno i hwyluso’r broses o basio Cyllidebau Blynyddol ac Atodol gydol oes y Cytundeb hwn.

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau wedi’u hen sefydlu ar gyfer monitro’r defnydd o arian sy’n cael ei ddyrannu drwy’r broses gyllidebol, ac adrodd ar y defnydd hwnnw. Bydd y gweithdrefnau hyn yn berthnasol yn yr un modd i arian a ddyrennir o dan y Cytundeb hwn. Bydd cyfrifoldebau’r Ysgrifennydd Parhaol fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu yn parhau i gwmpasu holl wariant Llywodraeth Cymru.