Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Fel y nodwyd yn y papur ar y cyd y llynedd, ers dechrau'r Cytundeb Cydweithio ym mis Rhagfyr 2021, bu ymgysylltu rheolaidd ac adeiladol rhwng y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Aelod Dynodedig Arweiniol. Mae hyn wedi parhau drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf gyda phedwar cyfarfod ffurfiol o Bwyllgor Cyllid y Cytundeb Cydweithio wedi’u cynnal rhwng mis Mawrth 2023 a mis Chwefror 2024, yn cwmpasu’r Cyllidebau Drafft, Terfynol ac Atodol a materion cysylltiedig fel yr ymarfer cynilo yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal â'r rhain, cynhaliwyd 12 cyfarfod dwyochrog rhwng y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Aelod Dynodedig Arweiniol yn y cyfnod hwn, gan gynnwys sesiynau briffio rheolaidd yn gysylltiedig â digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y DU.

Cyd-destun ar gyfer Cyllideb 2024 i 2025

Ar y cyfan, mae cyllideb Llywodraeth Cymru werth £1.3bn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021. Mae hyn wedi gwneud Cyllideb 2024-2025 yr un anoddaf ers datganoli, gan orfodi Gweinidogion Cymru i wneud dewisiadau anodd iawn.

Yn y Gyllideb Ddrafft, arweiniodd y dull a ddefnyddiwyd at ddyraniadau mewn meysydd lle mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gan Blaid Cymru ddiddordeb, gan gynnwys:

  • Cynnal y Grant Cymorth Tai
  • Diogelu lefelau taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol ar gyfer 2024-2025
  • Cadarnhau cyllid ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol (Grant Cynnal Refeniw).

Mae'r ymgysylltu hwn yn cynrychioli ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgynghori a chydweithio â Phlaid Cymru drwy gydol y broses o ddatblygu a chraffu ar bob cam o gylch y Gyllideb flynyddol. Fel y nodir ym mecanweithiau'r Cytundeb Cydweithio, ar y sail bod yr ymrwymiad hwn yn sicrhau cyllid priodol ar gyfer y rhaglen bolisi a rennir ac yn dylanwadu ar faterion cyllidebol eraill, mae Plaid Cymru yn cytuno i hwyluso’r broses o basio Cyllidebau Blynyddol ac Atodol gydol oes y Cytundeb hwn. Mae'r adran berthnasol o'r ddogfen fecanweithiau yn Atodiad A.

Wrth baratoi ar gyfer Cyllideb Derfynol 2024-2025, mae Gweinidogion a'r Aelod Dynodedig Arweiniol wedi dod i gytundeb ar y meysydd isod.

Cyllid priodol ar gyfer y rhaglen bolisi a rennir o dan y Cytundeb Cydweithio

Prydau Ysgol Am Ddim i holl blant ysgolion cynradd

  • Yn dilyn tanwariant yn nyraniad 2022-2023, cytunwyd y byddai £3.5m yn cael ei ail-broffilio i 2024-2025 sy'n golygu y bydd cyfanswm o £93.5m ar gael i gwblhau'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd.
  • Cynyddwyd cyfradd yr uned i £3.20 o fis Rhagfyr 2023.
  • Fel rhaglen a arweinir gan alw, bydd yn cael ei hadolygu'n agos. Os bydd costau'r rhaglen yn uwch na'r rhagolygon cyfredol, bydd yn flaenoriaeth ar gyfer unrhyw gyllid ychwanegol sydd ar gael ac ni fydd yn cael ei drin fel pwysau ar y Prif Grŵp Gwariant Addysg yn unig.

Gofal plant

  • Fel y nodir yn y Cytundeb Cydweithio, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y ddarpariaeth gofal plant ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn cael ei hehangu’n raddol i gynnwys pob plentyn dwy flwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar sicrhau bod ein cymunedau mwy difreintiedig yn cael cyfle cyfartal i fanteisio ar ddarpariaeth o’r fath ac ar ein nod cyffredin o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae cynnydd sylweddol wedi'i gyflawni dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn 2024-2025, rydym yn rhagweld y bydd Cam 2 yn cefnogi tua 5,500 o blant dwy flwydd oed ychwanegol i gael mynediad at ofal plant o ansawdd uchel, gan gefnogi cyfanswm o 9,500 o blant newydd hyd yma drwy ymrwymiad y Cytundeb Cydweithio.
  • Byddwn yn parhau i fonitro'r cynnydd yn ofalus wrth gyflawni. Byddwn yn datblygu cynllun a fydd yn canolbwyntio ar barhau i ehangu gofal plant i gyflawni'r ymrwymiad erbyn diwedd tymor y Senedd hon.

Diwylliant

  • Rydym yn cydweithio i gytuno ar flaenoriaethau strategol ar y cyd ar gyfer y sector diwylliant gan weithio gyda'r Grŵp Llywio. Byddwn yn canolbwyntio ar y cyd ar sicrhau cynaliadwyedd ariannol sector y celfyddydau a diwylliant ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Ymrwymiadau’r Cytundeb Cydweithio lle cytunwyd ar gamau nesaf

Ysgol Lywodraethu Genedlaethol

  • Yn dilyn y gwaith o ystyried y cyfraniad y gallai Ysgol Lywodraethu Genedlaethol ei wneud er mwyn sicrhau newid sylweddol o ran sut y gellir mynd ati mewn ffordd ymarferol i wireddu’r syniad o Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, bydd £225,000 yn cael ei ddyrannu i symud ymlaen â'r camau nesaf.

Bydd dyraniad o £1m yn cael ei wneud i gefnogi gwaith cyfansoddiadol:

Comisiwn Cyfansoddiadol

  • Rydym yn croesawu adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a byddwn yn datblygu rhaglen o waith dilynol a strwythur cysylltiedig.

Cefnogi gwaith ar ddatganoli cyfiawnder

  • Yn unol ag ymrwymiad y Cytundeb Cydweithio ar gynllun gweithredu Cymru Wrth-hiliol a’r datganiad i gefnogi gwaith i fynd ar drywydd datganoli pwerau plismona a chyfiawnder gan mai dyma’r ffordd fwyaf cynaliadwy o ddarparu system gyfiawnder ddiwygiedig sy'n iawn i Gymru, bydd cyllid yn cael ei ddarparu yn ystod 2024-2025 i gaffael ymchwil ar ganlyniadau cyfiawnder yng Nghymru ac i gefnogi’r gwaith o baratoi ar gyfer datganoli.

Meysydd eraill

Trafnidiaeth Gymunedol

  • Bydd cyllid yn cael ei ddarparu i ddatblygu cynigion ymhellach mewn perthynas â thrafnidiaeth gymunedol yng Ngorllewin Cymru. Bydd dyraniad cychwynnol o £185,000 yn cael ei ddarparu yn 2024-2025 a bydd yn cael ei adolygu'n barhaus gyda dyraniadau pellach fel y bo’n briodol wrth i gynigion gael eu datblygu yn 2024 a 2025. Bwriad hyn yw cefnogi darpariaeth yn lle’r hen wasanaeth Bwcabus yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ac mae'n ychwanegol at y cytundeb y gall Cyngor Sir Gaerfyrddin gadw un o'r cerbydau ar gyfer ei wasanaeth olynol ei hun.

Taliad plant

  • Er nad yw'r setliad datganoli ar hyn o bryd yn rhoi'r pwerau i Weinidogion Cymru weithredu cynllun fel Taliad Plant yr Alban, byddwn yn gweithio i sefydlu'n gliriach gydbwysedd y pwerau a gedwir yn ôl a’r pwerau datganoledig yn y maes hwn.
  • Rydym mewn cysylltiad â Llywodraeth yr Alban i ddeall pa adnoddau ariannol, deddfwriaethol ac unrhyw adnoddau eraill fyddai eu hangen i wneud taliad o'r math hwn ac i ddeall sut mae Taliad Plant yr Alban yn cyflawni fel rhan o raglen ehangach o weithgarwch sydd â'r nod o dargedu tlodi plant a’i atal.

Cyfalaf Trafodiadau Ariannol

Bydd dyraniad o hyd at £20m yn cael ei wneud i'r Prif Grŵp Gwariant Newid Hinsawdd at ddiben datblygu cynigion yn ymwneud â thai yn 2024-25. Bydd hyn yn parhau i gefnogi tai cymdeithasol ychwanegol i helpu i fynd i'r afael â digartrefedd, a'r costau anuniongyrchol cysylltiedig gan gynnwys canlyniadau gwaeth o ran iechyd, cyflogaeth ac addysg. Mae gwaith i ystyried fforddiadwyedd tai mewn ardaloedd y mae ail gartrefi yn effeithio arnynt hefyd ar y gweill yn lleol a bydd y dyraniad hwn yn helpu i ddatblygu a chyllido dulliau lleol a ffefrir, gan adeiladu ar y gwaith i ystyried morgeisi lleol a Cymorth i Aros.

Mae'r Gronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol yn gronfa gwerth £5m a weithredir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n darparu benthyciadau o hyd at £300,000 i helpu sefydliadau'r sector cymunedol a gwirfoddol i brynu neu wella asedau cymunedol, gan gynnwys adeiladau a mannau gwyrdd. Gall y Gronfa gynnig benthyciadau i sefydliadau trydydd sector corfforedig gan gynnwys Cymdeithasau Budd Cymunedol a mentrau cymdeithasol eraill am gyfnod o hyd at 25 mlynedd.

Mae'r gronfa wedi'i gordanysgrifio ar hyn o bryd, gyda galw clir am gyllid ychwanegol. Cytunwyd y bydd y Gronfa hon yn cael ei ehangu gan £5m ychwanegol o gyfalaf trafodiadau ariannol yn 2023-24.

Ail-broffilio y tu hwnt i dymor y Cytundeb tair blynedd

Mae cylch cyllideb tair blynedd yn sail i’r Cytundeb Cydweithio gyda dyraniadau cyllid wedi’u cytuno ar gyfer ymrwymiadau penodol. Bydd rhai agweddau o'r Cytundeb yn parhau i gael eu cyflawni y tu hwnt i ddiwedd blwyddyn ariannol 2024-2025.

Yn ystod trafodaethau'r Gyllideb cytunwyd y bydd dyraniadau ar gyfer Diogelwch Adeiladu, Ynni Cymru a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cael eu hailbroffilio y tu hwnt i dymor y Cytundeb fel dull pragmatig o reoli'r sefyllfa yn ystod y flwyddyn.

Bydd Gweinidogion yn blaenoriaethu'r dyraniadau hyn o fewn eu Prif Grwpiau Gwariant yn 2025-2026. Bydd hyn yn cael ei nodi mewn llythyrau setliad gan y Gweinidog Cyllid a bydd diweddariad ysgrifenedig yn cael ei ddarparu i Arweinydd Plaid Cymru yn cadarnhau bod y dyraniad yn cael ei gynnal. Bydd angen trafod ar gyfer cytuno gyda Phlaid Cymru unrhyw ail-flaenoriaethu o'r dyraniadau hyn. Bydd nodyn pellach yn diweddaru Arweinydd Plaid Cymru ar y gwariant yn cael ei rannu cyn diwedd blwyddyn ariannol 2025-2026.

Mae'r cytundeb hwn rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ac mae Gweinidogion wedi cytuno arno, gan sicrhau na fydd unrhyw newidiadau dilynol mewn portffolios Gweinidogol yn effeithio arno.

Atodiad A: Testun o ddogfen fecanweithiau'r Cytundeb Cydweithio

Mae’r Cytundeb Cydweithio a lofnodwyd ar 1 Rhagfyr 2021 yn cynnwys y paragraffau canlynol ar y gyllideb yn y ddogfen fecanweithiau:

Darperir adnoddau fel y cytunwyd ar gyfer y Cytundeb Cydweithio a chaiff y trosolwg o’r gwaith o gyflawni’r Cytundeb, a’r dyraniadau cyllidebol ar ei gyfer, ei fonitro ar y cyd drwy Bwyllgor Cyllid. Bydd aelodau’r Pwyllgor hwn yn cynnwys y Gweinidog sy’n gyfrifol am Gyllid ac aelod dynodedig perthnasol Plaid Cymru. Penderfynir maes o law ar amlder y cyfarfodydd ond cânt eu cynnull yn rheolaidd yn y cyfnod cyn gweithdrefnau’r Senedd ar gyfer y Gyllideb flynyddol, ac adeg unrhyw drafodaethau ar gyllidebau atodol a thanwariant / addasiadau diwedd blwyddyn.

Bydd cylch cyllideb tair blynedd yn sail i’r Cytundeb hwn. Byddai unrhyw adnoddau ychwanegol yn cael eu nodi a’u hystyried ar y cyd o flwyddyn i flwyddyn gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun y materion a nodir yn y Cytundeb Cydweithio.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ymgynghori a chydweithio â Phlaid Cymru drwy gydol y broses ddatblygu a chraffu ar bob cam o gylch y Gyllideb flynyddol.

Ar y sail y bydd yr ymrwymiad uchod yn sicrhau cyllid priodol ar gyfer y rhaglen bolisi a rennir ac yn dylanwadu ar faterion cyllidebol eraill, mae Plaid Cymru yn cytuno i hwyluso’r broses o basio Cyllidebau Blynyddol ac Atodol gydol oes y Cytundeb hwn.

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau wedi’u hen sefydlu ar gyfer monitro’r defnydd o arian sy’n cael ei ddyrannu drwy’r broses gyllidebol, ac adrodd ar y defnydd hwnnw. Bydd y gweithdrefnau hyn yn berthnasol yn yr un modd i arian a ddyrennir o dan y Cytundeb hwn. Bydd cyfrifoldebau’r Ysgrifennydd Parhaol fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu yn parhau i gwmpasu holl wariant Llywodraeth Cymru.