Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi datgelu Cyllideb Derfynol gyda chynlluniau i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru, gan ddarparu cymorth amserol i ddiogelu bywydau a bywoliaethau yn y misoedd i ddod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan adeiladu ar y pecyn ailgreu gwerth £320m a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf, mae'r Gyllideb hon yn darparu chwistrelliad pellach o £224.5m o gyllid cyfalaf i gefnogi ein hymdrechion ailgreu ac i ysgogi swyddi a’r galw am swyddi.

Mae'r buddsoddiad hwn yn cynnwys £147m ychwanegol i gynyddu rhaglenni tai a £30m yn ychwanegol i gyflymu ein rhaglen uchelgeisiol sef Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif, gan helpu i gefnogi twf economaidd, swyddi cynaliadwy a chyfleoedd hyfforddi ar draws y sector.

Mae'r pecyn newydd hefyd yn rhoi hwb i'r buddsoddiad sylweddol a neilltuwyd ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd ac amddiffyn yr arfordir yn nhymor y Senedd hon. Bydd £8m yn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i helpu’r awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i atgyweirio'r difrod a achoswyd gan y llifogydd ym mis Rhagfyr a mis Ionawr a diogelu  cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd.

I gydnabod y manteision y mae teithio llesol yn eu darparu i gyflogaeth, addysg, gwasanaethau allweddol, a dod â'n cymunedau at ei gilydd, rydym yn dyrannu £20m yn ychwanegol i ymestyn y seilwaith ymhellach ac i alluogi cynlluniau newydd i gael eu darparu. Mae hyn yn mynd â'n buddsoddiad arfaethedig ym maes teithio llesol ar gyfer 2021-22 i tua £75m.

Fel y nodwyd gan y Prif Weinidog ddoe, mae'r Gyllideb Derfynol hefyd yn cadarnhau mwy na £630m i gefnogi ein GIG a llywodraeth leol dros y chwe mis nesaf wrth iddynt barhau i ymateb i'r pandemig.

Mae'r Gyllideb Derfynol hefyd yn neilltuo £200m mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer cymorth  ychwanegol i fusnesau y flwyddyn nesaf i ymateb i’r newidiadau cyson yn heriau'r pandemig.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

“Mae'r Gyllideb yr wyf wedi'i chyhoeddi heddiw yn fuddsoddiad yn ein heconomi i helpu i roi hwb i  swyddi a’r galw am swyddi gan sicrhau adferiad sy'n dechrau ymwreiddio heddiw.

“Mae hefyd yn rhoi'r sicrwydd y mae ar y GIG a llywodraeth leol ei angen i ymateb i gam nesaf y pandemig.

"Rydyn ni'n gwybod bod angen sicrwydd ar ein busnesau sydd wedi dioddef waethaf hefyd. Dyna pam y gwnaethom aildrefnu cyllidebau i ddarparu mwy o gyllid ar gyfer cymorth i fusnesau yng Nghymru nag a gawsom fel cyfran o'r pecyn yn Lloegr.

“Byddwn yn rhoi eglurder pellach pan fydd ein sefyllfa ariannu wedi'i gwarantu'n llwyr.

“Pan fydd y Canghellor yn cadarnhau'r cyllid y bydd Cymru'n ei gael fel ei chyfran o safiad Lloegr ar ryddhad ardrethi ar gyfer y flwyddyn nesaf, byddaf yn cyhoeddi'r camau nesaf i Gymru.

“Mae'r mesurau heddiw yn adeiladu ar gyllideb sydd wedi’i chynllunio i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi, i adeiladu dyfodol gwyrddach ac i greu  newid ar gyfer Cymru fwy cyfartal.”

Bydd Cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru 2021 i 2022 yn cael ei chyhoeddi yma ynghyd â dogfennau cysylltiedig.