Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn cyflwyno gwariant y GIG fesul rhaglen ofal dyrannu ar sail y cyflwr meddygol y mae'r gwariant yn ymwneud ag ef ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Caiff ffigurau ariannol eu casglu o’r holl fyrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru. Mae’r diweddariad yma yn adlewyrchu symud awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr ar 1 Ebrill 2019, sydd heb gael effaith sylweddol ar y proffil gwario fesul rhaglen.

Mae’r data hyn yn cynnwys dechrau pandemig y coronafeirws (COVID-19). Roedd yr effaith yn 2019-20 yn gyfyngedig o ganlyniad i amseriad y pandemig, serch hynny cofnodwyd gwariant ychwanegol yn 2019-20 sy’n uwch na blwyddyn nad effeithiwyd arni. Ar ôl didynnu elfennau a oedd wedi’u heithrio’n benodol, roedd £7.8 miliwn o gostau uniongyrchol perthnasol i effaith COVID-19 wedi’u cynnwys ar draws yr ystod lawn o raglenni. Roedd nifer y cleifion ac felly gostau darparu gofal uniongyrchol i gleifion â COVID-19 yn isel yn 2019-20.

Prif bwyntiau

  • Cyfanswm y gwariant ar gyfer yr holl gategorïau o gyllidebau rhaglenni oedd £7.3 biliwn neu £2,308 y pen o’r boblogaeth yn 2019-20.
  • Roedd cyfanswm y gwariant yn 2019-20 yn 7.0% yn uwch na gwariant yn 2018-19 a 35.9% yn uwch na degawd yn ôl. Mae cyfanswm gwariant wedi cynyddu pob blwyddyn ers 2009-10.
  • Y categori o gyllideb rhaglen gyda’r cynnydd mwyaf oedd ‘trawma ac anafiadau (gan gynnwys llosgiadau)’, a oedd wedi cynyddu £55 miliwn (11.3%) ers 2018-19.
  • Y categori sengl mwyaf o gyllideb rhaglen (ac eithrio ‘arall’) oedd ‘problemau iechyd meddwl’ a oedd yn cyfrif am 11.1% (£810 miliwn) o’r cyfanswm. Mae hyn wedi digwydd ers 2009-10.
  • Roedd gwariant y pen o’r boblogaeth, ar raglenni clinigol (ac eithrio ‘arall’), yn  amrywio o £13.20 ar ‘problemau clyw’ i £256.86 ar ‘problemau iechyd meddwl’.

Nodiadau

Cyflwynir data gwariant ar brisiau cyfredol ac nid ydynt yn gwneud unrhyw addasiad ar gyfer chwyddiant.

Cafodd costau cynnydd o 6.3% mewn cyfraniadau Pensiwn Cyflogwyr eu cynnwys gan fyrddau iechyd yn 2019-20 gan effeithio ar holl gyrff a staff GIG Cymru. Mae costau wedi effeithio ar raglenni gofal yn bennaf ar sail pro-rata gyda’r gost ychwanegol hon yn gyfwerth â 2.2% o gyfanswm gwariant cyllidebau rhaglenni.

Yn 2019-20, cafodd cwmpas y broses costio yng Nghymru ei ehangu i gynnwys costau gweithgareddau a oedd yn anghyflawn ar ddiwedd y cyfnod costio, gan alinio ffiniau gweithgareddau a chostau yn llawn am y tro cyntaf a’i gwneud yn bosibl adrodd ar gwmpas llawn gweithgareddau sy’n effeithio ar gyfnod costio. Nid oedd costau blynyddoedd blaenorol ond yn cynnwys y gweithgareddau hynny a oedd wedi’u cwblhau o fewn y cyfnod costio. Mân effaith y mae hyn yn ei chael gan y byddai costau, yn y mwyafrif helaeth o achosion, wedi’u cynnwys yn yr un rhaglenni cyn ac ar ôl y newid.

Roedd proses ddyrannu gwariant 2019-20 yn cynnwys cyfle i bob corff fabwysiadu canllawiau newydd mewn perthynas â neilltuo gweithgaredd nad yw wedi’i godio’n glinigol i raglenni pan fo hyder uchel o ddangosyddion data i wneud hynny. Cafodd y dull hwn ei fabwysiadu’n flaenorol gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Hywel Dda ac maent wedi parhau i’w ddefnyddio. Cafodd hefyd ei fabwysiadu i raddau helaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn 2019-20 ac i raddau llai gan y Byrddau Iechyd Prifysgol eraill.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys dadansoddiadau fesul bwrdd iechyd, ar gael yn StatsCymru.

Mae ffigurau gwariant y pen a gyhoeddwyd yn flaenorol ar StatsCymru ar gyfer 2017-18 wedi'u diwygio ar gyfer BILl Cwm Taf a BILl Abertawe Bro Morgannwg gan y canfuwyd bod y poblogaethau BILlau a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r ffigurau hyn yn anghywir.

Nid oes datganiad ystadegol llawn wedi’i gyhoeddi ar gyfer 2019-20 gan fod adnoddau dadansoddi wedi blaenoriaethu’r ymateb i bandemig COVID-19.

Mae gwybodaeth am ansawdd ar gael yn natganiad ystadegol 2018-19.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.