Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth ymchwil a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2012 i gasglu a chrynhoi gwybodaeth am waith datblygu cymunedol a gweithgareddau cymorth cymdeithasau tai.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Asesodd yr astudiaeth natur, ystod a swm y gweithgareddau, a’r cyfraniad y maent yn ei wneud i amcanion Llywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad yn cyflwyno nifer yr unigolion a chartrefi sy’n elwa o’r gweithgareddau hyn, yr adnoddau ariannol a staffio a fuddsoddir ynddynt, a’r cyfraniadau a wnaed gan bartneriaid i’w cyflwyno.
