Neidio i'r prif gynnwy

Mae arolygon yn helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisi drwy ddarganfod materion, siapio'r camau a gymerwn, a monitro newidiadau dros amser.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Rydym yn gweithio i wneud yn siŵr nad yw'r baich o gwblhau arolygon yn ormodol ar gyfer busnesau, sefydliadau na aelodau o'r cyhoedd. Er mwyn sicrhau hyn, cyn fod arolwg yn cael mynd yn ei flaen rydym yn ystyried y baich o’i gwblhau yn erbyn y manteision o gael y canlyniadau. Rydym yn gwneud yn siŵr bod y ffordd y mae'r arolwg yn cael ei gynllunio a'i gynnal yn cadw’r baich mor isel â phosibl.

Dylai pob arolwg a gynhaliwyd gan (neu ar ran) Llywodraeth Cymru neu rhai sefydliadau sy'n gysylltiedig â’r Llywodraeth, megis Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, fynd drwy'r 'Broses o gynghori ar arolygon a’u cymeradwyo'.

Os ydych yn bwriadu cynnal arolwg ac yn ansicr a oes angen cymeradwyaeth arolwg arno chi darllenwch y canllawiau.

Os ydych yn gwybod bod angen cymeradwyaeth arolwg arno chi, cwblhewch y ffurflen, a'i hanfon at cyngor-arolygon@llyw.cymru.

Gwybodaeth bellach

Am wybodaeth am rôl y Gwasanaeth Llywodraeth Cymru o Gynghori ar Arolygon a’u Cymeradwyo ewch i dudalen we y Monitro a lleihau baich ymatebwyr: Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth (civilservice.gov.uk).

I gael gwybodaeth am yr arolygon a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ac i gael cyngor am gynnal arolygon neu’r broses gymeradwyo, cysylltwch â cyngor-arolygon@llyw.cymru.