Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Senedd wedi pleidleisio o blaid rheoliadau newydd a fydd yn sefydlu Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru o fis Hydref 2027 ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r penderfyniad yn nodi cam pwysig arall yn nhaith Cymru tuag at economi gylchol a mynd i'r afael â sbwriel.

Mae Cynllun Dychwelyd Ernes yn gweithio trwy ychwanegu blaendal bach at bris diodydd mewn cynwysyddion cymwys pan fyddant yn cael eu prynu. Bydd aelodau'r cyhoedd yn cael yr arian hwnnw yn ôl pan fyddant yn dychwelyd y cynhwysydd gwag i bwynt dychwelyd dynodedig, fel peiriant mewn archfarchnad neu siop. Mae'r cynwysyddion wedyn yn cael eu casglu a'u hailgylchu neu eu hailddefnyddio, gan gadw deunyddiau gwerthfawr allan o safleoedd tirlenwi ac oddi ar y strydoedd.

Bydd y Cynllun Dychwelyd Ernes yn  hybu lefelau ailgylchu Cymru sydd eisoes ar y blaen ar lefel fyd-eang drwy helpu'r genedl i gymryd y cam nesaf i wella ailgylchu a dechrau'r broses o dreialu a chyflwyno fesul cam. Yn arwain y DU, dyma'r unig gynllun dychwelyd blaendal ym mhob un o'r pedair gwlad i gynnwys poteli gwydr.

Mae'r rheoliadau'n rhoi'r ddeddfwriaeth ar waith ar gyfer Cynllun Dychwelyd Ernes a all gyflawni i Gymru, gan gyflawni budd amgylcheddol drwy fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur a hefyd greu cyfleoedd economaidd pwysig ar gyfer twf gwyrdd, tra'n hyrwyddo'r dull a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Gan fod y rheoliadau hyn bellach wedi'u pasio mae modd symud ymlaen o ran gweithredu'r cynllun hwn mewn partneriaeth â diwydiant, llywodraeth leol a phartneriaid cyflenwi.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:

"Dyma garreg filltir allweddol i Gymru. Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos y gall Cynllun Dychwelyd Ernes fynd i'r afael â sbwriel, gwella ailgylchu y tu allan i'r cartref a lleihau gwastraff ymhellach. Bydd hyn yn cadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad am gyfnod hirach — gan adeiladu ar y system ailgylchu flaengar y mae Cymru eisoes wedi'i datblygu

"Edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda busnesau, awdurdodau lleol a chymunedau wrth i ni baratoi at weithredu yn 2027."

Bydd Llywodraeth Cymru bellach yn dechrau ar y cam nesaf o ran gweithredu, gan gynnwys penodi'r Sefydliad Rheoli Ernes i redeg y cynllun a chyflawni'r trefniadau gweithredol manwl erbyn Hydref 2027, ochr yn ochr ag ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid a gweithio mewn partneriaeth.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn edrych ar y posibiliadau o ran cynnwys cynwysyddion diodydd y gellir eu hailddefnyddio ochr yn ochr ag eitemau ernes untro, gan helpu i leihau gwastraff a chefnogi economi fwy cylchol.