Neidio i'r prif gynnwy

Gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion yn ailagor yn dilyn gwyliau'r haf, gofynnir i rieni, gwarcheidwaid a dysgwyr yng Nghymru gymryd rhai camau i helpu i gadw risg COVID-19 i lawr a dysgwyr yn dysgu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyn dechrau'r flwyddyn ysgol newydd, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i deuluoedd a dysgwyr barhau i ddilyn y canllawiau ar ynysu, profi a brechu, er mwyn lleihau'r risg o ledu COVID-19 yn ein lleoliadau addysg.

  • Cael y brechlyn os yw'n cael ei gynnig i chi.
  • Golchi dwylo'n rheolaidd.
  • Dylai unrhyw staff neu ddysgwr sydd â symptomau COVID-19 - waeth pa mor ysgafn – aros gartref a threfnu prawf PCR yn eu canolfan brofi agosaf.
  • Dylai staff mewn ysgolion cynradd - a staff a dysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau – sydd heb symptomau gymryd dau brawf llif unffordd, tri diwrnod ar wahân, yn ystod yr wythnos cyn eu diwrnod cyntaf yn ôl. Os yw'r prawf yn gadarnhaol dylent hunanynysu, a threfnu prawf PCR.
  • Ar ddechrau’r tymor newydd, dylai staff mewn ysgolion cynradd a staff a dysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau nad ydynt yn dangos symptomau barhau i gymryd profion llif unffordd cyflym rheolaidd ddwywaith yr wythnos, ac adrodd ar y canlyniadau ar-lein.
  • Dylai Dysgwyr Blynyddoedd 7 ac uwch barhau i wisgo gorchuddion wyneb ar gludiant i’r ysgol a choleg.

Dylai staff a dysgwyr ddefnyddio unrhyw brofion llif unffordd sydd ganddynt ar eu haelwyd yn gyntaf, neu archebu profion ar-lein am ddim, neu eu casglu o fannau casglu cymunedol neu fferyllfeydd. Bydd ysgolion yn darparu profion llif unffordd yn ystod y tymor.

Mae cymryd y profion yn rheolaidd - yn enwedig ar adegau pan fo nifer yr achosion yn uwch - yn cynyddu'r siawns o adnabod staff heintus neu ddysgwyr cyn iddynt adael y tŷ i fynd i'r ysgol a lledaenu'r feirws yn ddiarwybod i'w ffrindiau neu eu teulu.

Bydd profion rheolaidd hefyd yn helpu i leihau'r trosglwyddiad yn ein cymunedau, yn diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed ac yn lleihau’r tarfu ar addysg wyneb yn wyneb. Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Yn gynharach yn yr haf, roeddwn am sicrhau ein bod yn gallu cadw dysgwyr a staff yn ddiogel ar ddechrau blwyddyn ysgol 2021/22, a lleihau'r tarfu posibl a achosir gan COVID-19.

Erbyn hyn, bydd ein holl weithlu naill ai wedi derbyn neu wedi cael cynnig brechlyn. Rydym hefyd wedi cynnig y brechlyn i bob un o bobl ifanc 16 ac 17 oed Cymru gyfan, a byddwn yn ei gynnig i bobl ifanc 12 i 15 oed sy'n agored i niwed yn glinigol.

Mae hyn yn golygu bod risgiau COVID-19 yn llawer is - ond mae angen i bobl ddilyn rhai rheolau o hyd er mwyn sicrhau nad ydym yn gweld yr un faint o darfu ar ddysgu o ddydd i ddydd a welsom yn ystod y pandemig.

Ychwanegodd y Gweinidog:

Hoffwn ddiolch i bawb ledled Cymru am eu hymdrechion i'n helpu i gyrraedd y pwynt hwn. Drwy barhau i ddilyn y mesurau hyn, gallwn i gyd edrych ymlaen at ddechrau blwyddyn fwy diogel a mwy sefydlog, lle mai ysgolion a cholegau fydd y lle mwyaf diogel y gall dysgwyr fod.