Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth 2022 i 2023: canllawiau i Bartneriaethau AGA a Chyngor y Gweithlu Addysg
Grantiau sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn rhaglen AGA ôl-raddedig achrededig yw cymhellion AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth. Mae Partneriaethau AGA a Chyngor y Gweithlu Addysg yn gweinyddu’r cynllun hwn ar ran Llywodraeth Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002 i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer recriwtio neu gadw athrawon a staff nad ydynt yn addysgu. Diben y grant hwn yw annog unigolion i hyfforddi, ymuno ac aros yn y proffesiwn addysgu ac ni ddylai fod yn rhan o becyn cyllid myfyrwyr.
Mae'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth yn gynllun cyfreithiol ("y Cynllun"), a wnaed gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu pwerau ac sy'n cael ei adolygu'n flynyddol. Mae pob Cynllun yn gwneud darpariaeth i Lywodraeth Cymru dalu grantiau drwy gymhellion i fyfyrwyr cymwys ymgymryd â rhaglen AGA ôl-raddedig mewn pynciau penodedig (pynciau â blaenoriaeth).
Mae myfyrwyr sy'n ymgymryd â Thystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) (amser llawn a rhan-amser) sydd â Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn gymwys i hawlio'r grant hwn ar yr amod eu bod yn cwrdd â'r meini prawf.
Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw Gynllun Hyfforddi Athrawon ar Sail Cyflogaeth, gan gynnwys y TAR Cyflogedig, yn gymwys i gael y grant hwn.
Nid yw myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni/cyrsiau hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR AHO) wedi'u cynnwys o dan y cynllun hwn.
Nodir gwybodaeth lawn am gymhwysedd ac amodau yn y cynllun cyfreithiol, y dylid ei darllen ochr yn ochr â'r wybodaeth hon.
Gweler y cynllun priodol ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd berthnasol i wirio a ydych yn gymwys a’r meini prawf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau’n ymwneud â blynyddoedd blaenorol, cysylltwch â ITEIncentives@llyw.cymru.
Blwyddyn academaidd 2022 i 2023
Lluniwyd cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth 2022 (“y Cynllun”) gan Weinidogion Cymru ar Mehefin 2022. Dylid darllen copi o’r Cynllun ochr yn ochr â’r wybodaeth hon.
Rhoddir Cynllun 2022 ar waith ar 1 Medi 2022 i fyfyrwyr yng Nghymru a fydd, rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023, yn dechrau ar raglenni AGA sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig mewn pynciau penodedig.
Myfyrwyr sy'n gwneud cais am grant
Mae Partneriaethau AGA a Chyngor y Gweithlu Addysg yn gyfrifol am weinyddu ac asesu cymhwysedd myfyrwyr am grantiau cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth ar ran Llywodraeth Cymru.
Gall myfyrwyr ond hawlio grant cymhelliant os ydynt:
- yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd
- yn astudio ar raglen gymwys
- wedi gwneud cais drwy gwblhau’r ffurflen gofrestru berthnasol
Os oes gan fyfyrwyr unrhyw ymholiadau am eu cymhwysedd neu wneud cais am grant, neu unrhyw gwestiynau am y grantiau hyn, dylent gysylltu â’u Partneriaeth AGA.
Rolau a chyfrifoldebau
Gweinyddir grantiau AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Bartneriaethau AGA a Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am bob taliad a wneir yn ystod rhaglen a phob taliad a wneir pan ddyfernir Statws Athro Cymwysedig.
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn gyfrifol am y cymelldaliad olaf ar ôl cwblhau’r broses sefydlu’n llwyddiannus a dyfarnu tystysgrif sefydlu.
Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am delerau ac amodau’r cynllun, ac am gasglu data i’w gwneud yn bosibl gwneud taliadau i Bartneriaethau AGA a Chyngor y Gweithlu Addysg.
Cyfrifoldebau Partneriaethau AGA o ran gweinyddu grantiau
Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am:
- nodi'r myfyrwyr sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd
- sicrhau mynediad i fyfyrwyr cymwys i’r ffurflen gofrestru ar ddechrau'r rhaglen AGA
- sicrhau bod myfyrwyr yn deall telerau'r grant
- casglu'r holl ffurflenni cofrestru wedi'u llofnodi, a'u dychwelyd mewn ffordd ddiogel i Lywodraeth Cymru
- cwblhau ffurflenni hawlio yn unol â’r dyddiadau perthnasol yn ystod rhaglen a phan ddyfernir SAC* (nodir y manylion hyn yn y llythyr cynnig grant)
- cefnogi myfyrwyr i gwblhau ffurflenni gohirio ac ailgydio yn ôl yr angen, a’u rhannu mewn ffordd ddiogel â Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r hawliadau perthnasol
- gweinyddu taliadau grant i fyfyrwyr yn ystod eu rhaglen (Ionawr) a phan ddyfernir SAC (Gorffennaf/Awst*)
- delio ag ymholiadau gan fyfyrwyr ynghylch y grant
- rhannu, mewn ffordd ddiogel, unrhyw wybodaeth ofynnol â Chyngor y Gweithlu Addysg ynghylch gweinyddu’r taliadau grant i fyfyrwyr. Diben rhannu’r wybodaeth yw ei gwneud yn bosibl rhoi’r cymelldaliad olaf i Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) ar ôl iddynt gwblhau eu cyfnod sefydlu yn llwyddiannus a derbyn eu tystysgrif sefydlu. Bydd Partneriaethau AGA a Chyngor y Gweithlu Addysg yn penderfynu ar y broses hon gyda’i gilydd
Caiff holl gyfrifoldebau'r Partneriaethau AGA eu hamlinellu bob blwyddyn mewn llythyrau cynnig grant a llythyrau contract unigol. Os bydd gan Bartneriaethau AGA gwestiwn ynghylch y broses o weinyddu'r grant, dylent gysylltu â ITEIncentives@llyw.cymru.
*Pan fydd myfyriwr yn cael ei asesu gan fwrdd arholi ailgyflwyno, dylai Partneriaethau AGA gyflwyno gwybodaeth hawlio wedi'i diweddaru i Lywodraeth Cymru ar gyfer yr unigolion hynny y dyfernir SAC yn llwyddiannus iddynt er mwyn galluogi taliadau i gael eu gwneud cyn 31 Rhagfyr.
Cyfrifoldebau Cyngor y Gweithlu Addysg o ran gweinyddu grantiau
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn gyfrifol am:
- weithio gyda Phartneriaethau AGA i nodi myfyrwyr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar ôl ennill SAC
- casglu gwybodaeth berthnasol gan athrawon newydd gymhwyso er mwyn gallu gwneud y cymelldaliad olaf
- sicrhau bod athrawon newydd gymhwyso yn deall telerau’r grant a’r broses ar gyfer y cymelldaliad olaf
- cwblhau ffurflenni hawlio a’u cyflwyno mewn ffordd ddiogel i Lywodraeth Cymru (nodir y manylion hyn yn y llythyr cynnig grant)
- gweinyddu’r cymelldaliad olaf
- delio ag ymholiadau gan fyfyrwyr ynghylch y cymelldaliad olaf
Bydd Partneriaethau AGA a Chyngor y Gweithlu Addysg yn penderfynu ar y broses ar gyfer rhannu gwybodaeth mewn perthynas â’r cynllun cymhelliant gyda’i gilydd.
Caiff holl gyfrifoldebau Cyngor y Gweithlu Addysg eu hamlinellu bob blwyddyn fel rhan o’r llythyr cynnig grant. Os bydd gan Gyngor y Gweithlu Addysg gwestiwn ynghylch y broses o weinyddu'r grant, dylent gysylltu â ITEIncentives@llyw.cymru neu’r Bartneriaeth AGA berthnasol.
Pwy sy'n gymwys ar gyfer y cynllun pynciau â blaenoriaeth
Mae’r grantiau cymhelliant AGA sydd ar gael yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio cyfredol o fewn y gweithlu addysgu yng Nghymru, ac maent ar gael i fyfyrwyr cymwys sydd ar raglenni AGA ôl-raddedig cymwys yng Nghymru.
Mae'r grantiau AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth ar gael ar gyfer rhaglenni llawnamser a rhan-amser. Dylai'r Partneriaethau AGA a Chyngor y Gweithlu Addysg droi at y cynllun priodol ar gyfer y flwyddyn astudio berthnasol er mwyn gwirio a yw myfyriwr yn gymwys. Mae’r cynllun cyfreithiol yn amlinellu gofynion statudol y cynllun.
Rhaglenni cymwys
Mae rhaglen yn gymwys os yw’n rhaglen AGA ôl-raddedig uwchradd sy’n arbenigo mewn pwnc â blaenoriaeth sy’n arwain at SAC.
Pynciau â Blaenoriaeth
I fod yn gymwys i gael grant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, rhaid i unigolyn fod â gradd 2.2 neu’n uwch, ac mai un o’r pynciau canlynol yw’r unig bwnc y mae’n ei astudio neu mai un o’r rhain y mae’n ei astudio’n bennaf:
- Bioleg
- Cemeg
- Cymraeg
- Dylunio a Thechnoleg
- Ffiseg
- Ieithoedd Tramor Modern
- Mathemateg
- Technoleg Gwybodaeth
Mae'r rhestr hon yn ymdrin â blynyddoedd academaidd 2022 i 2023 a 2023 a 2024.
Nid yw'n ofynnol bod y radd neu'r cymhwyster cyfatebol a bennir uchod yn yr un pwnc â'r hyn a astudir ar y rhaglen AGA ôl-raddedig. Rhaid i'r Partneriaethau AGA ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol i asesu cymhwysedd myfyriwr.
O ran dosbarthiad y cymhwyster, nid yw graddau anrhydeddus o unrhyw fath yn cael eu cydnabod fel cymwysterau academaidd.
Myfyrwyr sy’n gymwys
I fod yn gymwys am bob rhandaliad o’r grant cymhelliant, rhaid i unigolyn fodloni’r meini prawf unigol ar adeg y taliad yn unol â’r isod.
I fod yn gymwys am randaliad o’r grant cymhelliant yn ystod rhaglen, rhaid i unigolyn:
- fod yn dilyn rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy’n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi un flwyddyn academaidd, ond cyn 1 Medi y flwyddyn academaidd ganlynol
- bod yn fyfyriwr cymwys sy’n gymwys am gymorth ariannol o dan reoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 mewn perthynas â’r cwrs hwnnw
- peidio â bod yn athro cymwysedig eisoes
- peidio â bod wedi’i gyflogi i addysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro pan fydd yn ymuno â’i raglen AGA ôl-raddedig gymwys
- peidio â bod yn dilyn hyfforddiant a drefnwyd o dan gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, gan gynnwys y TAR cyflogedig
- peidio â bod yn dilyn cwrs addysg bellach o unrhyw fath
I fod yn gymwys am randaliad SAC o’r grant cymhelliant, ar ôl cwblhau rhaglen AGA ac ennill SAC, rhaid i fyfyriwr:
- fodloni’r gofynion cymhwysedd ar gyfer y grant pynciau â blaenoriaeth a bod wedi derbyn yr holl gymelldaliadau cymwys yn ystod ei raglen AGA
- bod wedi cwblhau rhaglen AGA gymwys yn llwyddiannus ac ennill SAC yn unol â Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012
I fod yn gymwys am randaliad olaf y grant cymhelliant, ar ôl cwblhau’r broses sefydlu, rhaid i Athro Newydd Gymhwyso:
- fod wedi bodloni’r gofynion cymhwysedd ar gyfer y grant pynciau â blaenoriaeth a bod wedi derbyn yr holl gymelldaliadau cymwys yn ystod ei raglen AGA ac ar ôl ennill SAC
- bod wedi cwblhau proses sefydlu a chael tystysgrif sefydlu o fewn tair blynedd i ddyfarniad SAC, mewn unrhyw leoliad uwchradd a gynhelir yng Nghymru, fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015
Mae gan Lywodraeth Cymru ddisgresiwn i beidio â thalu grant cymhelliant i fyfyrwyr sydd wedi'u derbyn ar gwrs AGA achrededig ar ôl i'r targed derbyn ar gyfer y rhaglen honno gael ei gyrraedd (fel y'i hysbyswyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg). Dylai Partneriaethau AGA roi gwybod i unrhyw fyfyrwyr y mae hyn yn effeithio arnynt.
Swm y grant
O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o £15,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd a meini prawf y rhaglen.
Taliadau grant
Pryd y dylid gwneud pa daliadau i fyfyrwyr ac athrawon newydd gymhwyso
Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am daliadau a wneir yn ystod rhaglen a thaliadau SAC.
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn gyfrifol am y cymelldaliad olaf, a wneir pan ddyfernir bod y cyfnod sefydlu wedi’i gwblhau.
Bydd y Partneriaethau AGA a Chyngor y Gweithlu Addysg yn penderfynu ar union ddyddiadau’r taliadau. (Darperir manylion yn eu llythyrau cynnig grant i helpu gyda’r bross o bennu’r dyddiadau hyn.)
Myfyrwyr llawnamser
Gwneir y cymelldaliadau o gyfanswm o £15,000 mewn tri rhandaliad ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA a dechrau gyrfa myfyriwr:
- £6,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR
- £6,000 ym mis Gorffennaf/Awst** ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo
- £3,000 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru
Myfyrwyr rhan-amser
Gwneir y cymelldaliadau o gyfanswm o £15,000 mewn pedwar rhandaliad ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA ran-amser a dechrau gyrfa myfyriwr:
- £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR
- £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf a thymor cyntaf ail flwyddyn ei gwrs TAR
- £6,000 ym mis Gorffennaf/Awst** ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo
- £3,000 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru
**Os caiff myfyriwr ei asesu gan y bwrdd arholi ddiwedd Awst, gwneir taliadau ym mis Medi.
Caiff union ddyddiadau’r taliadau eu nodi yn nhelerau ac amodau’r cytundeb grant.
Taliadau yn ystod y rhaglen
Dim ond i’r myfyrwyr cymwys hynny sy’n parhau â’u rhaglen AGA ac sydd wedi cwblhau cyfnod penodedig o’u hastudiaethau y dylid gwneud taliadau yn ystod y rhaglen.
Os bydd myfyriwr wedi tynnu’n ôl o raglen neu wedi ei gohirio cyn bod y taliad yn ddyledus, ni ddylid gwneud y taliad. Gweler yr adran ar ‘Pryd y dylid gwneud pa daliadau i fyfyrwyr ac athrawon newydd gymhwyso’.
Taliad SAC
Dim ond i’r myfyrwyr cymwys hynny sydd wedi cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy’n arwain at SAC y dylid gwneud taliad SAC (pan ddyfernir y SAC). Os bydd myfyriwr yn methu ag ennill SAC, ni ddylid gwneud y taliad.
Os bydd myfyriwr wedi tynnu’n ôl o raglen neu wedi ei gohirio cyn i SAC gael ei ddyfarnu, ni ddylid gwneud y taliad.
Y cymelldaliad olaf
Dim ond i’r athrawon newydd gymhwyso cymwys hynny sydd wedi cwblhau eu cyfnod sefydlu yn llwyddiannus ac wedi cael tystysgrif sefydlu o fewn 3 blynedd i ennill eu SAC y dylid gwneud y cymelldaliad olaf.
Os bydd ANG yn methu â chwblhau cyfnod sefydlu yn llwyddiannus o fewn 3 blynedd i ennill ei SAC neu os nad yw wedi cael pob taliad blaenorol o dan y cynllun cymhelliant hwn, ni ddylid gwneud y taliad.
Cyllid blaenorol
Os yw myfyriwr wedi derbyn grant cymhelliant yn llawn neu'n rhannol o dan unrhyw gynllun blaenorol, caiff y rhandaliadau o'r grant cymhelliant hwn eu lleihau yn ôl swm y taliadau blaenorol a dderbyniwyd. Mae hyn hefyd yn berthnasol i grantiau a dderbyniwyd o dan unrhyw drefniadau yn Lloegr y mae Llywodraeth Cymru yn fodlon eu bod yn cyfateb i’r rhai a wnaed mewn perthynas â grantiau cymhelliant o dan y cynllun hwn.
Dim ond hyd at uchafswm gwerth y grant cymhelliant yn y flwyddyn academaidd pan ddechreuodd eu hastudiaethau y bydd gan fyfyrwyr cymwys hawl iddo, oni bai bod Llywodraeth Cymru'n cytuno fel arall yn ysgrifenedig.
Sut caiff y taliad ei wneud i Bartneriaethau AGA
Rhaid i Bartneriaethau AGA gyflwyno ffurflenni cofrestru unigol ar gyfer pob myfyriwr cymwys i Lywodraeth Cymru ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Mae'r ffurflen gofrestru yn cynnwys gwybodaeth sydd ei hangen ar Lywodraeth Cymru i weinyddu a gwerthuso’r cynllun, a rhaid i Bartneriaethau AGA rannu pob ffurflen gofrestru â Llywodraeth Cymru mewn ffordd diogel. Caiff yr wybodaeth hon ei rhannu hefyd â Chyngor y Gweithlu Addysg at ddibenion gweinyddu. Mae'r ffurflen gofrestru yn gofyn i fyfyrwyr gadarnhau eu bod wedi darllen a deall yr wybodaeth sydd ar we-dudalennau’r canllawiau i fyfyrwyr. Os na dderbynnir y cadarnhad hwn gan Lywodraeth Cymru, ni ellir gwneud taliadau grant.
Cyn pob rhandaliad yn ystod rhaglen a chyn pob rhandaliad SAC, rhaid i Bartneriaethau AGA lenwi a chyflwyno ffurflen hawlio i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod cyllid priodol yn cael ei ryddhau. Bydd Partneriaethau AGA yn cael gwybod am y dyddiadau cyflwyno drwy lythyr y cytundeb grant.
Bydd ffurflenni cofrestru a hawlio’n cael eu dosbarthu i Bartneriaethau AGA yn uniongyrchol. Os ydych yn Bartneriaeth AGA a bod gennych unrhyw gwestiynau sy'n gysylltiedig â'r broses dalu, cysylltwch â ITEincentives@llyw.cymru.
Sut caiff y taliad ei wneud i Gyngor y Gweithlu Addysg
Rhaid i Gyngor y Gweithlu Addysg gwblhau a chyflwyno ffurflenni hawlio i Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid priodol yn cael ei ryddhau yn unol â’r dyddiadau yn y llythyr cynnig grant.
Bydd ffurflenni hawlio’n cael eu dosbarthu i Gyngor y Gweithlu Addysg yn uniongyrchol. Os oes gan Gyngor y Gweithlu Addysg unrhyw gwestiynau sy'n gysylltiedig â'r broses dalu, cysylltwch â ITEincentives@llyw.cymru.
Gohirio, tynnu'n ôl ac ailgydio
Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol i’r flwyddyn pan ddechreuwyd astudiaethau’r myfyriwr gyntaf neu pan gawsant eu gohirio, gwneir taliadau ar yr un gyfradd (os o gwbl) ag a oedd yn weithredol y flwyddyn academaidd pan ddechreuwyd astudiaethau’r myfyriwr gyntaf neu pan gawsant eu gohirio, oni bai bod Llywodraeth Cymru yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig.
Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA, bydd angen iddo lenwi Ffurflen Ohirio ac Ailgydio. Ar ôl ei llenwi, rhaid i’r myfyriwr ei chyflwyno mewn ffordd ddiogel, ynghyd â’r ffurflen hawlio briodol, i Lywodraeth Cymru yn ITEincentives@llyw.cymru i sicrhau bod cyllid priodol yn cael ei ryddhau.
Mae Ffurflenni Gohirio ac Ailgydio ar gael gan Lywodraeth Cymru. Caiff y ffurflenni a ddaw i law eu rhannu â Phartneriaethau AGA, Llywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg. Bydd unrhyw daliadau a wneir i fyfyrwyr sy’n ailgydio mewn rhaglen AGA yn ystyried unrhyw daliadau a dderbyniwyd yn flaenorol.
Dychwelyd at Raglen AGA yn ystod blwyddyn academaidd 2022 i 2023
Dylai myfyrwyr a ddechreuodd eu rhaglen AGA cyn Medi 2022 ac sy’n dychwelyd at eu rhaglen i’w chwblhau rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023 ddarllen y telerau a nodir yn Cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2021 a blynyddoedd blaenorol. Bydd swm y grant, dosbarthiadau graddau, telerau ac amodau, a strwythur taliadau yn parhau’r un fath, a bydd myfyrwyr cymwys yn parhau i gael taliadau tymhorol tan fis Awst 2023, minws unrhyw daliadau a dderbyniwyd eisoes.
Bydd myfyrwyr a ddechreuodd raglen AGA cyn Medi 2022 ac sy’n dychwelyd ar ôl Medi 2023 yn mynd yn ôl at y strwythur taliadau a nodir yn y canllawiau hyn (ni fydd taliadau tymhorol yn cael eu gwneud mwyach) Bydd cyfanswm y cymhelliant yn parhau yn unol â’r hyn a nodir yn Cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2021 a blynyddoedd blaenorol, minws unrhyw daliadau a dderbyniwyd eisoes.
Taliadau yn ystod rhaglen 2022
Os bydd myfyriwr llawnamser yn gohirio ei astudiaethau yn ystod y tymor cyntaf, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y taliad a gollwyd pan ddyfernir SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl dyfarnu’r SAC ac yn ychwanegol at y taliad SAC.
Os bydd myfyriwr rhan-amser yn gohirio ei astudiaethau yn ystod y tymor cyntaf, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y taliad a gollwyd yn dilyn tymor cyntaf ei ail flwyddyn. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl i’r myfyriwr gwblhau ei flwyddyn gyntaf ac yn ychwanegol at yr ail daliad a wneir yn ystod y rhaglen.
Os bydd myfyriwr rhan-amser yn gohirio ei astudiaethau rhwng ail dymor ei flwyddyn gyntaf a thymor cyntaf ei ail flwyddyn, ni fydd yn gymwys i dderbyn yr ail daliad a wneir yn ystod y rhaglen. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn ail flwyddyn academaidd ei gwrs, caiff dderbyn y taliad a gollwyd pan ddyfernir SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl dyfarnu’r SAC ac yn ychwanegol at y taliad SAC.
Ni fydd gan fyfyrwyr llawnamser sy'n tynnu'n ôl o raglen cyn diwedd y tymor cyntaf, ac sy'n gymwys i gael grant cymhelliant, hawl i unrhyw daliad.
Ni fydd gan fyfyrwyr rhan-amser sy'n tynnu'n ôl o raglen yn ystod tymor cyntaf y flwyddyn gyntaf hawl i unrhyw daliad. Ni fydd gan fyfyrwyr rhan-amser sy'n cwblhau tymor cyntaf y flwyddyn gyntaf (ac sy'n derbyn y taliad cyntaf) ond sy'n tynnu'n ôl rhwng ail dymor eu blwyddyn gyntaf a thymor cyntaf eu hail flwyddyn hawl i unrhyw daliad pellach.
Taliad SAC
Os bydd myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau ar ôl derbyn taliadau a wneir yn ystod y rhaglen a chyn ennill SAC, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad SAC. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau ac yn ennill SAC, bydd ganddo hawl i dderbyn y taliad SAC pan ddyfernir SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu’r SAC) ac yn unol â'r amodau hyn.
Bydd angen cwblhau Ffurflen Ohirio ac Ailgydio.
Os bydd myfyriwr sy’n gymwys i gael grant cymhelliant yn tynnu'n ôl o raglen ar ôl derbyn y taliad cyntaf, ond cyn ennill SAC, dim ond i’r taliad a dderbyniwyd eisoes y bydd ganddo hawl.
Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n gymwys i gael grant cymhelliant, nad ydynt yn ennill SAC ar ddiwedd eu rhaglen AGA, hawl i gael y taliad SAC.
Y cymelldaliad olaf
Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n gymwys i gael grant cymhelliant ac sy'n ennill SAC, ond nad ydynt yn cwblhau eu cyfnod sefydlu o fewn y cyfnod penodedig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, hawl i gael y cymelldaliad olaf.
Rhaid cwblhau'r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus o fewn tair blynedd i ennill SAC mewn lleoliad a gynhelir yng Nghymru er mwyn parhau i fod yn gymwys i dderbyn y cymelldaliad olaf.
Adennill grantiau cymhelliant a dalwyd
Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i adennill grantiau cymhelliant a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddi ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn ai peidio, a bydd yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.
Caniateir i'r pwerau hyn gael eu harfer gan Lywodraeth Cymru:
- os bydd y derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â chwrdd ag unrhyw feini prawf cymhwysedd a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac a nodir yn yr Atodlen neu'r canllaw gwybodaeth mewn perthynas â rhandaliad dilynol
- os yw'r derbynnydd, yn ei gais am grant cymhelliant, neu mewn cysylltiad â'r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth anwir neu wybodaeth sy'n gamarweiniol; neu os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r cwrs neu nad oedd yn fwriad ganddo, ar ôl ei gwblhau, fynd i addysgu
Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth
Mae’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn ei chyflwyno, fel rhan o'u hawliad o dan gynllun cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (“y Ddeddf Diogelu Data").
Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:
- a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi'i chael o dan neu mewn cysylltiad â'r Cyllid i'r graddau y mae'n ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth o'r fath i berson sy'n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR a/neu
- a yw unrhyw wybodaeth wedi ei heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR
- a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti
Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd (PN00000374) a'n 'Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru'.
Cwestiynau cyffredin gan fyfyrwyr
Cwestiynau cyffredin gan Bartneriaethau AGA
A yw gwladolion nad ydynt o’r DU yn gymwys i hawlio'r cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth?
Os bydd myfyriwr yn bodloni'r holl feini prawf ac nad yw'n dod o dan esemptiad, yna byddai'n gymwys. Dylai Partneriaethau AGA ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol i asesu cymhwysedd myfyriwr.
Y prif bwynt i'w ystyried ar gyfer gwladolion nad ydynt o'r DU yw a ydynt yn gymwys i gael cymorth o dan y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr sydd mewn grym yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gallu helpu i sefydlu pwy sydd â hawl i gymorth.
Gweler y cynllun cyfreithiol a'r adran ar Swm y grant.
A yw myfyrwyr sy'n gwneud TAR Gwyddoniaeth Gyffredinol yn gymwys ar gyfer y cymhelliant hwn?
Ydy, mae pob pwnc gwyddonol, cemeg, bioleg a ffiseg yn flaenoriaeth recriwtio ar hyn o bryd ar gyfer y gweithlu addysgu yng Nghymru ac mae myfyrwyr sy'n dilyn cwrs TAR yn y pynciau hyn yn gymwys ar gyfer y cymhelliant hwn, lle mae unigolyn yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd. Mae cymhwyster yn cynnwys gwyddoniaeth gyffredinol gydag arbenigedd pwnc/pynciau, yn unrhyw un o'r tri phwnc gwyddoniaeth hyn. Mae hyn hefyd yn cynnwys rhaglenni gwyddoniaeth sy'n galluogi myfyrwyr i brofi lleoliadau cynradd neu uwchradd, fodd bynnag dylai'r ffocws fod ar addysg wyddoniaeth uwchradd i fod â hawl i'r cymhelliant hwn.
Cwestiynau pellach?
Os oes gan Bartneriaethau AGA neu Gyngor y Gweithlu Addysg unrhyw gwestiynau’n ymwneud â'r wybodaeth hon neu gwestiynau nad ydynt wedi’u hateb yn yr wybodaeth hon, dylent gysylltu â ITEIncentives@llyw.cymru.
Bydd myfyrwyr sydd ag unrhyw gwestiynau am y cymhellion yn cael eu cyfeirio at eu Partneriaeth AGA yn uniongyrchol.