Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth yn gynllun cyfreithiol a wnaed gan Weinidogion Cymru. Mae'r cynllun yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr cymwys sy'n ymgymryd â rhaglen AGA ôl-raddedig mewn pynciau penodedig (pynciau â blaenoriaeth) fel eu bod yn cael manteisio ar y cymhelliant hwn.

Mae myfyrwyr sy'n ymgymryd â Thystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) (amser llawn a rhan-amser) sydd â Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn gymwys i hawlio'r grant hwn ar yr amod eu bod yn cwrdd â'r meini prawf.

Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw Gynllun Hyfforddi Athrawon ar Sail Cyflogaeth, gan gynnwys y TAR Cyflogedig, yn gymwys i gael y grant hwn.

Nid yw myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR AHO) wedi'u cynnwys o dan y cynllun hwn.

Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2022 i 2023 a blynyddoedd blaenorol. Dylid eu darllen ochr yn ochr â'r cynllun cyfreithiol sy’n ymwneud â’r flwyddyn astudio berthnasol sy’n amlinellu gofynion statudol y cynllun.

Lluniwyd cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth 2022 (“y Cynllun”) gan Weinidogion Cymru yn Mehefin 2022. Dylid darllen y Cynllun ochr yn ochr â’r wybodaeth hon.

Rhoddir Cynllun 2022 ar waith ar 1 Medi 2022 i fyfyrwyr yng Nghymru a fydd, rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023, yn dechrau ar raglenni AGA sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig mewn pynciau penodedig.

Cynlluniau blaenorol

Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth: canllawiau ar gyfer myfyrwyr 2021 a blaenorol.

Pwy sy'n gymwys am y cymhelliant AGA ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth?

Mae’r grantiau cymhelliant AGA sydd ar gael yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio cyfredol o fewn y gweithlu addysgu yng Nghymru, ac maent ar gael i fyfyrwyr cymwys sydd ar raglenni AGA ôl-raddedig cymwys yng Nghymru.

Mae'r grantiau AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth ar gael ar gyfer rhaglenni cymwys llawnamser a rhan-amser. Mae’r cynllun cyfreithiol yn amlinellu gofynion statudol y cynllun. Gweler y cynllun sy’n gysylltiedig â’r flwyddyn astudio berthnasol.

Rhaglenni cymwys

Mae rhaglen yn gymwys os yw’n rhaglen AGA ôl-raddedig uwchradd sy’n arbenigo mewn pwnc â blaenoriaeth yng Nghymru sy’n arwain at SAC.

Pynciau â Blaenoriaeth

I fod yn gymwys i gael grant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, rhaid i unigolyn fod â gradd 2.2 neu’n uwch, ac mai un o’r pynciau canlynol yw’r unig bwnc y mae’n ei astudio neu mai un o’r rhain y mae’n ei astudio’n bennaf:

  • Bioleg
  • Cemeg
  • Cymraeg
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Ffiseg
  • Ieithoedd Tramor Modern
  • Mathemateg
  • Technoleg Gwybodaeth

Nid yw'n ofynnol bod y radd neu'r cymhwyster cyfatebol a bennir uchod yn yr un pwnc â'r hyn a astudir ar y rhaglen AGA ôl-raddedig. Os bydd myfyriwr am gael cyngor, dylai siarad â’i Bartneriaeth AGA.

O ran dosbarthiad y cymhwyster, nid yw graddau anrhydeddus o unrhyw fath yn cael eu cydnabod fel cymwysterau academaidd.

Myfyrwyr sy’n gymwys am grant

I fod yn gymwys am bob rhandaliad o’r grant cymhelliant, rhaid i unigolyn fodloni’r meini prawf unigol ar adeg y taliad yn unol â’r isod.

I fod yn gymwys am randaliad o’r grant cymhelliant yn ystod rhaglen, rhaid i unigolyn:

  • fod yn dilyn rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy’n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi un flwyddyn academaidd, ond cyn 1 Medi y flwyddyn academaidd ganlynol
  • bod yn fyfyriwr cymwys sy’n gymwys am gymorth ariannol o dan reoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 mewn perthynas â’r cwrs hwnnw
  • peidio â bod yn athro cymwysedig eisoes
  • peidio â bod wedi’i gyflogi i addysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro pan fydd yn ymuno â’i raglen AGA ôl-raddedig gymwys
  • peidio â bod yn dilyn hyfforddiant a drefnwyd o dan gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, gan gynnwys y TAR cyflogedig
  • peidio â bod yn dilyn cwrs addysg bellach o unrhyw fath

I fod yn gymwys am randaliad SAC o’r grant cymhelliant, ar ôl cwblhau rhaglen AGA ac ennill SAC, rhaid i fyfyriwr:

  1. fodloni’r gofynion cymhwysedd ar gyfer y grant pynciau â blaenoriaeth a bod wedi derbyn yr holl gymelldaliadau cymwys yn ystod ei raglen AGA.
  2. bod wedi cwblhau rhaglen AGA gymwys yn llwyddiannus ac ennill SAC yn unol â Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012.

I fod yn gymwys am randaliad olaf y grant cymhelliant, ar ôl cwblhau’r broses sefydlu, rhaid i Athro Newydd Gymhwyso:

  1. fod wedi bodloni’r gofynion cymhwysedd ar gyfer y grant pynciau â blaenoriaeth a bod wedi derbyn yr holl gymelldaliadau cymwys yn ystod ei raglen AGA ac ar ôl ennill SAC
  2. bod wedi cwblhau proses sefydlu yn llwyddiannus a chael tystysgrif sefydlu o fewn tair blynedd i ddyfarniad SAC, mewn unrhyw leoliad uwchradd a gynhelir yng Nghymru, fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015

Mae’n bosibl na thelir grantiau AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth i fyfyrwyr sydd wedi’u derbyn ar raglen AGA achrededig ar ôl i’r nifer targed ar gyfer y rhaglen honno gael ei gyrraedd. Dylai myfyrwyr ofyn i’w Partneriaeth AGA gadarnhau nad yw hyn yn effeithio arnyn nhw.

Pa grant sydd ar gael a phryd caiff taliadau eu gwneud

O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o £15,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd.

Myfyrwyr llawnamser

Gwneir y cymelldaliadau o gyfanswm o £15,000 mewn tri rhandaliad ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA a dechrau gyrfa myfyriwr:

  • £6,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR
  • £6,000 ym mis Gorffennaf/Awst* ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo
  • £3,000 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru

Myfyrwyr rhan-amser

Gwneir y cymelldaliadau o gyfanswm o £15,000 mewn pedwar rhandaliad ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA ran-amser a dechrau gyrfa myfyriwr:

  • £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR
  • £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf a thymor cyntaf ail flwyddyn ei gwrs TAR
  • £6,000 ym mis Gorffennaf/Awst* ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo
  • £3,000 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru

*Os caiff myfyriwr ei asesu gan y bwrdd arholi ailgyflwyno ddiwedd Awst, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr.

Sut caiff taliadau eu gwneud

Gweinyddir grantiau AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth gan Llywodraeth Cymru ac ar ran Llywodraeth Cymru gan Bartneriaethau AGA a Chyngor y Gweithlu Addysg. Os hoffech gael gwybod a ydych yn gymwys neu wneud cais am grant, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y grantiau hyn, dylent gysylltu â’ch Partneriaeth AGA.

Bydd myfyrwyr cymwys yn cael taliadau yn ystod eu rhaglen a thaliadau SAC gan eu Partneriaethau AGA. Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y cymelldaliad olaf ar ôl cwblhau cyfnod sefydlu yn llwyddiannus a chael tystysgrif sefydlu.

Bydd partneriaethau AGA yn rhoi gwybod i fyfyrwyr eu bod yn gymwys i hawlio’r cymhelliant hwn, ac yn sicrhau mynediad i bob myfyriwr cymwys at ganllawiau ar y broses ac at y dogfennau hawlio. Mae’r dogfennau hawlio yn gofyn i fyfyrwyr gadarnhau eu bod wedi darllen a deall yr wybodaeth sydd ar y gwe-dudalennau hyn. Os na dderbynnir y cadarnhad hwn, ni ellir gwneud taliadau grant.

Caiff pob dogfen hawlio a gyflwynir i Bartneriaethau AGA eu rhannu â Llywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn ei gwneud yn bosibl i’r taliadau gael eu gwneud.

Dylai myfyrwyr a ddechreuodd eu rhaglen AGA cyn Medi 2022 ac sy’n dychwelyd at eu rhaglen i’w chwblhau rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023 ddarllen adran Gohirio, tynnu’n ôl ac ailgydio y canllawiau hyn.

Cofrestru myfyrwyr ar gyfer cymhelliant AGA ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth

Bydd partneriaethau AGA yn nodi’r myfyrwyr hynny sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd, ac yn darparu ffurflenni cofrestru ar gyfer cynlluniau cymhelliant i fyfyrwyr cymwys eu llofnodi ar ddechrau eu rhaglen AGA. Bydd hyn yn cadarnhau eu bod yn gymwys ac yn ei gwneud yn bosibl i’r taliadau gael eu gwneud o dan y cynllun.

Caiff y ffurflenni cofrestru ar gyfer cynlluniau cymhelliant eu rhannu â phartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru. 

Taliadau yn ystod y rhaglen

Bydd myfyriwr cymwys llawnamser yn derbyn un taliad yn ystod y rhaglen. Caiff hwn ei dalu ar ôl cwblhau’r tymor cyntaf cyn belled â bod y myfyriwr yn parhau â’i raglen AGA.

Bydd myfyriwr cymwys rhan-amser yn derbyn dau daliad yn ystod y rhaglen. Caiff y rhain eu talu ar ôl cwblhau’r tymor cyntaf ac ar ôl cwblhau tymor cyntaf yr ail flwyddyn cyn belled â bod y myfyriwr yn parhau â’i raglen AGA.

Mae partneriaeth AGA y myfyriwr yn gyfrifol am wneud y taliad ym mis Ionawr, a hi fydd yn penderfynu ar yr union ddyddiad. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at y bartneriaeth.

Cyfrifoldeb y myfyriwr yw gwirio gyda’i bartneriaeth AGA p’un a yw’n gymwys i hawlio’r grant hwn.

Taliad SAC

Gwneir y taliad SAC i bob myfyriwr cymwys ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy’n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu’r SAC).

Mae partneriaeth AGA y myfyriwr yn gyfrifol am wneud y taliad SAC, a hi fydd yn penderfynu ar yr union ddyddiad. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at y bartneriaeth.

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n methu ag ennill SAC hawl i gael y taliad SAC. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw gwirio gyda’i bartneriaeth AGA p’un a yw’n gymwys i hawlio’r grant hwn.

Y cymelldaliad olaf

Gwneir y cymelldaliad olaf i bob ANG cymwys ar ôl cwblhau cyfnod sefydlu yn llwyddiannus mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac ar ôl cael tystysgrif sefydlu. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wneud y taliad hwn.

Rhaid i chi hawlio'r cymelldaliad olaf o fewn blwyddyn i gwblhau eich cyfnod sefydlu, neu ni fydd modd gwneud y taliad. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod wedi hawlio’r taliad.

Bydd gofyn i chi lenwi ffurflenni hawlio sefydlu (A1 ac A2). Os nad ydych wedi derbyn ffurflenni hawlio, cysylltwch ag ITEIncentives@llyw.cymru

Ni ellir hawlio’r cymelldaliad olaf oni bai bod y myfyriwr cymwys wedi hawlio’n llwyddiannus ac wedi derbyn pob taliad blaenorol o dan y cynllun cymhelliant hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wneud y cymelldaliad olaf, a nhw fydd yn penderfynu ar yr union ddyddiad. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at ITEIncentives@llyw.cymru

Gohirio, tynnu'n ôl ac ailgydio

Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol i’r flwyddyn pan ddechreuwyd astudiaethau’r myfyriwr gyntaf neu pan gawsant eu gohirio, gwneir taliadau ar yr un gyfradd (os o gwbl) ag a oedd yn weithredol y flwyddyn academaidd pan ddechreuwyd astudiaethau’r myfyriwr gyntaf neu pan gawsant eu gohirio, oni bai bod Llywodraeth Cymru yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig.

Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA, bydd angen iddo lenwi Ffurflen Ohirio ac Ailgydio. Darperir y ffurflenni hyn gan Bartneriaethau AGA, a chaiff y ffurflenni a ddaw i law eu rhannu â Llywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg. Bydd unrhyw daliadau a wneir i fyfyrwyr sy’n ailgydio mewn rhaglen AGA yn ystyried unrhyw daliadau a dderbyniwyd yn flaenorol.

Dychwelyd at Raglen AGA yn ystod blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Dylai myfyrwyr a ddechreuodd eu rhaglen AGA cyn Medi 2022 ac sy’n dychwelyd at eu rhaglen i’w chwblhau rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023 ddarllen y telerau a nodir yn Cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2021 a blynyddoedd blaenorol. Bydd swm y grant, dosbarthiadau graddau, telerau ac amodau, a strwythur taliadau yn parhau’r un fath, a bydd myfyrwyr cymwys yn parhau i gael taliadau tymhorol tan fis Awst 2023, minws unrhyw daliadau a dderbyniwyd eisoes.

Bydd myfyrwyr a ddechreuodd raglen AGA cyn Medi 2022 ac sy’n dychwelyd ar ôl Medi 2023 yn mynd yn ôl at y strwythur taliadau a nodir yn y canllawiau hyn (ni fydd taliadau tymhorol yn cael eu gwneud mwyach). Bydd cyfanswm y cymhelliant yn parhau yn unol â’r hyn a nodir yn Cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2021 a blynyddoedd blaenorol, minws unrhyw daliadau a dderbyniwyd eisoes.

Taliadau yn ystod rhaglen 2022

Os bydd myfyriwr llawnamser yn gohirio ei astudiaethau yn ystod y tymor cyntaf, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y taliad a gollwyd pan ddyfernir SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl dyfarnu’r SAC ac yn ychwanegol at y taliad SAC.

Os bydd myfyriwr rhan-amser yn gohirio ei astudiaethau yn ystod y tymor cyntaf, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y taliad a gollwyd yn dilyn tymor cyntaf ei ail flwyddyn. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl i’r myfyriwr gwblhau ei flwyddyn gyntaf ac yn ychwanegol at yr ail daliad a wneir yn ystod y rhaglen.

Os bydd myfyriwr rhan-amser yn gohirio ei astudiaethau rhwng ail dymor ei flwyddyn gyntaf a thymor cyntaf ei ail flwyddyn, ni fydd yn gymwys i dderbyn yr ail daliad a wneir yn ystod y rhaglen. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn ail flwyddyn academaidd ei gwrs, caiff dderbyn y taliad a gollwyd pan ddyfernir SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl dyfarnu’r SAC ac yn ychwanegol at y taliad SAC.

Ni fydd gan fyfyrwyr llawnamser sy'n tynnu'n ôl o raglen cyn diwedd y tymor cyntaf, ac sy'n gymwys i gael grant cymhelliant, hawl i unrhyw daliad.

Ni fydd gan fyfyrwyr rhan-amser sy'n tynnu'n ôl o raglen yn ystod tymor cyntaf y flwyddyn gyntaf hawl i unrhyw daliad. Ni fydd gan fyfyrwyr rhan-amser sy'n cwblhau tymor cyntaf y flwyddyn gyntaf (ac sy'n derbyn y taliad cyntaf) ond sy'n tynnu'n ôl rhwng ail dymor eu blwyddyn gyntaf a thymor cyntaf eu hail flwyddyn hawl i unrhyw daliad pellach.

Taliad SAC

Os bydd myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau ar ôl derbyn taliadau a wneir yn ystod y rhaglen a chyn ennill SAC, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad SAC. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau ac yn ennill SAC, bydd ganddo hawl i dderbyn y taliad SAC pan ddyfernir SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu’r SAC) ac yn unol â'r amodau hyn.

Bydd angen cwblhau Ffurflen Ohirio ac Ailgydio.

Os bydd myfyriwr sy’n gymwys i gael grant cymhelliant yn tynnu'n ôl o raglen ar ôl derbyn y taliad cyntaf, ond cyn ennill SAC, dim ond i’r taliad a dderbyniwyd eisoes y bydd ganddo hawl.

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n gymwys i gael grant cymhelliant, nad ydynt yn ennill SAC ar ddiwedd eu rhaglen AGA, hawl i gael y taliad SAC.

Y cymelldaliad olaf

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n gymwys i gael grant cymhelliant ac sy'n ennill SAC, ond nad ydynt yn cwblhau eu cyfnod sefydlu o fewn y cyfnod penodedig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, hawl i gael y cymelldaliad olaf.

Rhaid cwblhau'r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus o fewn tair blynedd i ennill SAC mewn lleoliad a gynhelir yng Nghymru er mwyn parhau i fod yn gymwys i dderbyn y cymelldaliad olaf.

Adennill grantiau cymhelliant a dalwyd

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i adennill grantiau cymhelliant a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddi ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn ai peidio, a bydd yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.

Caniateir i'r pwerau hyn gael eu harfer gan Lywodraeth Cymru:

  • os bydd y derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â chwrdd ag unrhyw feini prawf cymhwysedd a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac a nodir yn yr Atodlen neu'r canllaw gwybodaeth mewn perthynas â rhandaliad dilynol, neu
  • os yw'r derbynnydd, yn ei gais am grant cymhelliant, neu mewn cysylltiad â'r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth anwir neu wybodaeth sy'n gamarweiniol, neu os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen AGA neu nad oedd yn fwriad ganddo, ar ôl ei gwblhau, fynd i addysgu

Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn ei chyflwyno, fel rhan o'u hawliad o dan gynllun cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (“y Ddeddf Diogelu Data").

Wrth gyflwyno’r wybodaeth hon, mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:

  • a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi'i chael o dan neu mewn cysylltiad â'r Cyllid i'r graddau y mae'n ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth o'r fath i berson sy'n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR a/neu
  • a yw unrhyw wybodaeth wedi ei heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR
  • a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti

Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd (PN00000807) a'n 'Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru'.

Grantiau cymhelliant AGA eraill sydd ar gael

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu tri gynllun cymhelliant sydd ar gael i fyfyrwyr. Bydd partneriaethau AGA yn gweithio gyda’u myfyrwyr i helpu i nodi’r unigolion hynny sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y naill gynllun a’r llall. Bydd angen llenwi ffurflen gofrestru bob un ar gyfer y cynlluniau. Bydd hyn yn cadarnhau bod yr unigolion yn gymwys ac yn ei gwneud yn bosibl i’r taliadau gael eu gwneud o dan y cynllun perthnasol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd myfyriwr yn gymwys am y tri gynllun.

Yr effaith ar unrhyw Gymorth ariannol arall

A yw'r grant cymhelliant yn drethadwy?

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn adran anweinidogol o Lywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gasglu trethi. Nid yw grantiau cymhelliant fel arfer yn drethadwy i fyfyrwyr amser llawn. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr geisio cyngor gan CThEM ar eu hamgylchiadau unigol. Dylid gofyn am gyngor pellach ynghylch y cymelldaliad olaf.

Efallai y bydd y cymelldaliad olaf yn drethadwy i’r unigolion hynny sydd mewn cyflogaeth.

Beth fydd effaith y grant cymhelliant ar gymorth arall i fyfyrwyr?

Ni chaiff grant cymhelliant ei ystyried yn rhan o'ch incwm ar gyfer darpariaethau cyllid myfyrwyr sy'n seiliedig ar incwm y cartref. Felly, ni ddylid ei gynnwys wrth gyfrifo eich incwm trethadwy sydd heb ei ennill. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr geisio cyngor gan eu darparwr cyllid myfyrwyr ar eu hamgylchiadau unigol.

Beth fydd effaith y grant cymhelliant ar fudd-daliadau?

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn adran o Lywodraeth y DU sy'n gyfrifol am bolisi lles a phensiwn. Dylech ofyn am gyngor ganddynt ar eich amgylchiadau unigol.

A fydd y grant cymhelliant yn golygu bod rhaid imi ddechrau ad-dalu fy menthyciad fel myfyriwr?

Na, ddim os ydych yn dilyn cwrs llawnamser. Fodd bynnag, os ydych yn dilyn cwrs rhan-amser, bydd eich sefyllfa yn dibynnu ar p’un a ydych hefyd yn ennill cyflog (drwy waith nad yw'n gysylltiedig ag AGA) sy'n ddigon uchel ichi orfod dechrau ad-dalu benthyciadau myfyriwr.

Efallai y bydd rhaid ichi ddechrau ad-dalu eich benthyciad ar ôl ichi gwblhau eich rhaglen, ennill SAC a dechrau ennill cyflog fel athro.

A fydd gennyf hawl i grant cymhelliant Iaith Athrawon Yfory?

Nid yw bod yn gymwys i gael y grantiau cymhelliant o dan y cynllun hwn yn effeithio ar eich cymhwysedd i gael grant cymhelliant Iaith Athrawon Yfory. Mae'n bosibl cael arian grant o dan y ddau gynllun. Ceir rhagor o wybodaeth yn Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory.

A fydd gennyf hawl i grant Addysg Gychwynnol Athrawon i Athrawon (AGA) o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol

Nid yw bod yn gymwys i gael y grantiau cymhelliant o dan y cynllun hwn yn effeithio ar eich cymhwysedd i gael grant cymhelliant Iaith Athrawon Yfory. Mae'n bosibl cael arian grant o dan y ddau gynllun. Ceir rhagor o wybodaeth yn Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynol Athrawon i Athrawon (AGA) o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol.

Dechreuais fy Rhaglen AGA cyn Medi 2022 ac rwy’n dychwelyd ym mlwyddyn academaidd 2022-23. Sut byddaf yn cael fy nhalu?

Bydd y taliadau yn parhau bob tymor nes ichi gwblhau rhaglen AGA ym mis Awst 2023. Gweler y canllawiau ar gyfer 2021 a’r blynyddoedd blaenorol.

Fodd bynnag, os byddwch yn dychwelyd at raglen AGA ar ôl Medi 2023, cewch eich talu o dan strwythur taliadau blwyddyn academaidd 2023/2024.

Bydd gofyn i bob myfyriwr sy’n dychwelyd gwblhau Ffurflen Ohirio ac Ailgydio, a bydd unrhyw daliadau a wneir yn ystyried unrhyw daliadau a dderbyniwyd eisoes.

Manylion cyswllt

Os ydych yn fyfyriwr a bod gennych gwestiwn yn ymwneud â'r wybodaeth hon neu gwestiwn nad yw wedi'i ateb yn y ddogfen hon, cysylltwch â'ch Partneriaeth AGA yn y lle cyntaf.