Neidio i'r prif gynnwy

Grantiau sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn rhaglen AGA ôl-raddedig yng Nghymru sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) yw cymhellion AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae’r grantiau cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) sydd ar gael yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio cyfredol o fewn y gweithlu addysgu yng Nghymru.

Mae'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth yn rhoi grant o £15,000 i fyfyrwyr sy’n:

  • ymgymryd â rhaglen AGA ôl-raddedig mewn pynciau penodedig (pynciau â blaenoriaeth)
  • bodloni’r meini prawf cymhwystra

Mae myfyrwyr sy'n dilyn Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) sydd â Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn gymwys i hawlio'r grant hwn ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr llawnamser a rhan-amser.

Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn gymwys i gael y grant hwn. Mae hyn yn cynnwys y ‘cynllun TAR Cyflogedig’.

Nid yw myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR AHO) wedi'u cynnwys o dan y cynllun hwn.

Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2024 i 2025. Daw Cynllun 2024 i rym ar 1 Medi 2024. Bydd myfyrwyr sy’n dechrau ar raglenni AGA sy’n arwain at SAC rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025 yn gallu gwneud cais. Rhaid bod y myfyrwyr yn astudio pynciau penodedig yng Nghymru er mwyn bod yn gymwys.

Dylech ddarllen y canllawiau hyn ar y cyd â'r cynllun cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r flwyddyn astudio. Mae hyn yn nodi gofynion statudol y cynllun.

Meini prawf cymhwystra ar gyfer y cymhelliant AGA ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth

Mae myfyrwyr sydd ar raglenni AGA ôl-raddedig cymwys yng Nghymru sy’n bodloni’r meini prawf yn gallu gwneud cais i’r cynllun hwn. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni cymwys llawnamser a rhan-amser.

Mae’n bosibl na thelir grantiau AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth i fyfyrwyr sydd wedi’u derbyn ar raglen AGA achrededig ar ôl i’r nifer a ddyrannwyd ar gyfer y rhaglen honno gael ei gyrraedd. Dylech ofyn i’ch Partneriaeth AGA gadarnhau nad yw hyn yn effeithio arnoch chi.

Rhaglenni cymwys

Mae rhaglen yn gymwys os yw’n rhaglen AGA ôl-raddedig uwchradd sy’n arbenigo mewn pwnc â blaenoriaeth yng Nghymru sy’n arwain at SAC.

Pynciau â blaenoriaeth

I fod yn gymwys i gael grant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, rhaid i chi fod â gradd 2.2 neu’n uwch, a rhaid mai un o’r pynciau canlynol yw’r unig bwnc rydych chi’n astudio neu mai un o’r rhain rydych yn ei astudio’n bennaf:

  • Bioleg
  • Cemeg
  • Cymraeg
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Ffiseg
  • Ieithoedd Tramor Modern
  • Mathemateg
  • Technoleg Gwybodaeth

Nid yw'n ofynnol bod y radd neu'r cymhwyster cyfatebol a bennir uchod yn yr un pwnc â'r hyn a astudir ar y rhaglen AGA ôl-raddedig. Os byddwch am gael cyngor, cysylltwch â’ch Partneriaeth AGA.

O ran dosbarthiad y cymhwyster, nid yw graddau anrhydeddus o unrhyw fath yn cael eu cydnabod fel cymwysterau academaidd.

Cymhwystra am grant

I fod yn gymwys am bob rhandaliad o’r grant cymhelliant hwn, rhaid i chi fodloni’r fodloni’r meini prawf penodol ar adeg y taliad.

Taliad yn ystod y rhaglen

I fod yn gymwys am randaliad yn ystod rhaglen, rhaid i chi:

  • fod yn dilyn rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru. Rhaid i’r rhaglen ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi mewn un flwyddyn academaidd a chyn 1 Medi y flwyddyn academaidd ganlynol
  • bod yn fyfyriwr cymwys sy’n gymwys am gymorth ariannol o dan reoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 mewn perthynas â’r cwrs hwnnw
  • peidio â bod yn athro cymwysedig eisoes
  • peidio â bod wedi’i gyflogi i addysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro pan fydd yn ymuno â’i raglen AGA ôl-raddedig gymwys
  • peidio â bod yn dilyn hyfforddiant a drefnwyd o dan gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, gan gynnwys y TAR cyflogedig
  • peidio â bod yn dilyn cwrs addysg bellach o unrhyw fath

Taliad SAC

I fod yn gymwys am daliad SAC, ar ôl cwblhau rhaglen AGA ac ennill SAC, rhaid i chi:

  • fodloni’r gofynion cymhwystra ar gyfer y grant pynciau â blaenoriaeth a bod wedi derbyn yr holl gymelldaliadau cymwys yn ystod ei raglen AGA
  • bod wedi cwblhau rhaglen AGA gymwys yn llwyddiannus ac ennill SAC yn unol â Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012

Y cymelldaliad olaf

I fod yn gymwys am cymelldaliad olaf, ar ôl cwblhau’r broses sefydlu, rhaid i Athro Newydd Gymhwyso:

  • fod wedi bodloni’r gofynion cymhwystra ar gyfer y grant pynciau â blaenoriaeth a bod wedi derbyn yr holl gymelldaliadau cymwys yn ystod ei raglen AGA ac ar ôl ennill SAC
  • bod wedi cwblhau proses sefydlu yn llwyddiannus a chael tystysgrif sefydlu o fewn tair blynedd i ddyfarniad SAC, mewn unrhyw leoliad uwchradd a gynhelir yng Nghymru, fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015

Pa grant sydd ar gael a phryd caiff taliadau eu gwneud

O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o £15,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra.

Myfyrwyr llawnamser

Gwneir y cymelldaliadau o gyfanswm o £15,000 mewn tri rhandaliad. Byddant yn cael eu talu ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA a dechrau gyrfa myfyriwr:

  • £6,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR
  • £6,000 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo. Os caiff myfyriwr ei asesu gan y bwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr
  • £3,000 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru

Myfyrwyr rhan-amser

Gwneir y cymelldaliadau o gyfanswm o £15,000 mewn pedwar rhandaliad. Byddant yn cael eu talu ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA ran-amser a dechrau gyrfa myfyriwr:

  • £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR
  • £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf a thymor cyntaf ail flwyddyn ei gwrs TAR
  • £6,000 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo. Os caiff myfyriwr ei asesu gan y bwrdd arholi ailgyflwyno ddiwedd Awst, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr
  • £3,000 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru

Sut i wneud cais a sut caiff y taliadau eu gwneud

Gweinyddir grantiau AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth gan Llywodraeth Cymru ac ar ran Llywodraeth Cymru gan Bartneriaethau AGA.  Cysylltwch â’ch Partneriaeth AGA os hoffech gael gwybod a ydych yn gymwys neu i wneud cais am grant, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Bydd myfyrwyr cymwys yn cael taliadau yn ystod eu rhaglen a thaliadau SAC gan eu Partneriaethau AGA. Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y cymelldaliad olaf ar ôl cwblhau cyfnod sefydlu yn llwyddiannus a chael tystysgrif sefydlu.

Bydd partneriaethau AGA yn rhoi gwybod i fyfyrwyr eu bod yn gymwys i hawlio’r cymhelliant hwn. Byddant yn sicrhau mynediad i bob myfyriwr cymwys at ganllawiau ar y broses ac at y dogfennau cofrestru. Mae’r dogfennau cofrestru yn gofyn i fyfyrwyr gadarnhau eu bod wedi darllen a deall yr wybodaeth sydd ar y gwe-dudalennau hyn. Os na dderbynnir y cadarnhad hwn, ni ellir gwneud taliadau grant.

Caiff pob dogfen gofrestru a gyflwynir i Bartneriaethau AGA eu rhannu â Llywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn ei gwneud yn bosibl i’r taliadau gael eu gwneud.

Dylai myfyrwyr a ddechreuodd eu rhaglen AGA cyn Medi 2024 ac sy’n dychwelyd at eu rhaglen i’w chwblhau rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025 ddarllen adran Gohirio, tynnu’n ôl ac ailgydio y canllawiau hyn.

Cofrestru myfyrwyr ar gyfer cymhelliant AGA ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth

Bydd partneriaethau AGA yn nodi’r myfyrwyr hynny sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra. Byddant yn darparu ffurflenni cofrestru ar gyfer cynlluniau cymhelliant i fyfyrwyr cymwys eu llofnodi ar ddechrau eu rhaglen AGA. Bydd hyn yn cadarnhau eu bod yn gymwys ac yn ei gwneud yn bosibl i’r taliadau gael eu gwneud o dan y cynllun.

Caiff y ffurflenni cofrestru ar gyfer cynlluniau cymhelliant eu rhannu â phartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru.

Taliadau yn ystod y rhaglen

Bydd myfyriwr cymwys llawnamser yn derbyn un taliad yn ystod y rhaglen. Caiff hwn ei dalu ar ôl cwblhau’r tymor cyntaf cyn belled â bod y myfyriwr yn parhau â’i raglen AGA.

Bydd myfyriwr cymwys rhan-amser yn derbyn dau daliad yn ystod y rhaglen. Caiff y rhain eu talu ar ôl cwblhau’r tymor cyntaf ac ar ôl cwblhau tymor cyntaf yr ail flwyddyn cyn belled â bod y myfyriwr yn parhau â’i raglen AGA.

Mae partneriaeth AGA yn gyfrifol am wneud y taliad ym mis Ionawr. Byddant yn penderfynu ar yr union ddyddiad. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau atyn nhw.

Cyfrifoldeb y myfyriwr yw gwirio gyda’i bartneriaeth AGA p’un a yw’n gymwys i hawlio’r grant hwn.

Taliad SAC

Gwneir y taliad SAC i bob myfyriwr cymwys ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy’n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu’r SAC).

Mae partneriaeth AGA yn gyfrifol am wneud y taliad SAC. Byddant yn penderfynu ar yr union ddyddiad. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau atyn nhw.

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n methu ag ennill SAC hawl i gael y taliad SAC. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw gwirio gyda’i bartneriaeth AGA p’un a yw’n gymwys i hawlio’r grant hwn.

Y cymelldaliad olaf

Gwneir y cymelldaliad olaf i bob ANG cymwys ar ôl i fyfyriwr gwblhau cyfnod sefydlu yn llwyddiannus mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac ar ôl cael tystysgrif sefydlu. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wneud y taliad hwn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu â myfyrwyr yn ystod eu cyfnod sefydlu i sicrhau bod ganddynt yr holl fanylion perthnasol i brosesu’r taliad grant hwn.

Ni ellir hawlio’r cymelldaliad olaf oni bai bod y myfyriwr cymwys wedi hawlio’n llwyddiannus ac wedi derbyn pob taliad blaenorol o dan y cynllun cymhelliant hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wneud y cymelldaliad olaf, a nhw fydd yn penderfynu ar yr union ddyddiad. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at iteincentives@gov.wales.

Rhaid i chi hawlio'r cymelldaliad olaf o fewn blwyddyn i gwblhau eich cyfnod sefydlu, neu ni fydd modd gwneud y taliad. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod wedi hawlio’r taliad.

Gohirio, tynnu'n ôl ac ailgydio

Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol, gwneir taliadau ar yr un gyfradd (os o gwbl) ag a oedd yn weithredol y flwyddyn academaidd pan ddechreuwyd astudiaethau’r myfyriwr gyntaf neu pan gawsant eu gohirio. Mae hyn yn berthnasol oni bai bod Llywodraeth Cymru yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig.

Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA, bydd angen iddo lenwi Ffurflen Ohirio ac Ailgydio. Darperir y ffurflenni hyn gan Bartneriaethau AGA, a chaiff y ffurflenni a ddaw i law eu rhannu â Llywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg. Bydd unrhyw daliadau a wneir i fyfyrwyr sy’n ailgydio mewn rhaglen AGA yn ystyried unrhyw daliadau a dderbyniwyd yn flaenorol.

Dychwelyd at Raglen AGA

Bydd myfyrwyr a ddechreuodd raglen AGA cyn Medi 2022 ac sy’n dychwelyd ar ôl Medi 2024 yn mynd yn ôl at y strwythur taliadau a nodir yn y canllawiau hyn (ni fydd taliadau tymhorol yn cael eu gwneud mwyach). Bydd cyfanswm y cymhelliant yn parhau yn unol â’r hyn a nodir yn Cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2021 a blynyddoedd blaenorol, minws unrhyw daliadau a dderbyniwyd eisoes.

Sut mae gohirio yn effeithio ar daliadau yn ystod y rhaglen

Os bydd myfyriwr llawnamser yn gohirio ei astudiaethau yn ystod y tymor cyntaf, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y taliad a gollwyd pan ddyfernir SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl dyfarnu’r SAC ac yn ychwanegol at y taliad SAC.

Os bydd myfyriwr rhan-amser yn gohirio ei astudiaethau yn ystod y tymor cyntaf, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y taliad a gollwyd yn dilyn tymor cyntaf ei ail flwyddyn. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl i’r myfyriwr gwblhau ei flwyddyn gyntaf ac yn ychwanegol at yr ail daliad a wneir yn ystod y rhaglen.

Os bydd myfyriwr rhan-amser yn gohirio ei astudiaethau rhwng ail dymor ei flwyddyn gyntaf a thymor cyntaf ei ail flwyddyn, ni fydd yn gymwys i dderbyn yr ail daliad a wneir yn ystod y rhaglen. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn ail flwyddyn academaidd ei gwrs, caiff dderbyn y taliad a gollwyd pan ddyfernir SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl dyfarnu’r SAC ac yn ychwanegol at y taliad SAC.

Ni fydd gan fyfyrwyr llawnamser sy'n tynnu'n ôl o raglen cyn diwedd y tymor cyntaf, ac sy'n gymwys i gael grant cymhelliant, hawl i unrhyw daliad.

Ni fydd gan fyfyrwyr rhan-amser sy'n tynnu'n ôl o raglen yn ystod tymor cyntaf y flwyddyn gyntaf hawl i unrhyw daliad. Ni fydd gan fyfyrwyr rhan-amser sy'n cwblhau tymor cyntaf y flwyddyn gyntaf (ac sy'n derbyn y taliad cyntaf) ond sy'n tynnu'n ôl rhwng ail dymor eu blwyddyn gyntaf a thymor cyntaf eu hail flwyddyn hawl i unrhyw daliad pellach.

Sut mae gohirio yn effeithio ar y taliad SAC

Os bydd myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau ar ôl derbyn taliadau a wneir yn ystod y rhaglen a chyn ennill SAC, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad SAC. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau ac yn ennill SAC, bydd ganddo hawl i dderbyn y taliad SAC pan ddyfernir SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu’r SAC) ac yn unol â'r amodau hyn.

Bydd angen cwblhau Ffurflen Ohirio ac Ailgydio.

Os bydd myfyriwr sy’n gymwys i gael grant cymhelliant yn tynnu'n ôl o raglen ar ôl derbyn y taliad cyntaf, ond cyn ennill SAC, dim ond i’r taliad a dderbyniwyd eisoes y bydd ganddo hawl.

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n gymwys i gael grant cymhelliant, nad ydynt yn ennill SAC ar ddiwedd eu rhaglen AGA, hawl i gael y taliad SAC.

Y cyfnod sefydlu a’r cymelldaliad olaf

Ni fydd gan fyfyrwyr sy'n ennill SAC ac sy’n gymwys i gael grant cymhelliant, ond nad ydynt yn cwblhau eu cyfnod sefydlu o fewn y cyfnod penodedig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, hawl i gael y cymelldaliad olaf.

Rhaid cwblhau'r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus o fewn tair blynedd i ennill SAC mewn lleoliad a gynhelir yng Nghymru er mwyn parhau i fod yn gymwys i dderbyn y cymelldaliad olaf.

Adennill grantiau cymhelliant a dalwyd

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i adennill grantiau cymhelliant a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddi ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn ai peidio, a bydd yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.

Caniateir i'r pwerau hyn gael eu harfer gan Lywodraeth Cymru:

  • os bydd y derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â chwrdd ag unrhyw feini prawf cymhwystra a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac a nodir yn yr Atodlen neu'r canllaw gwybodaeth mewn perthynas â rhandaliad dilynol
  • os yw'r derbynnydd, yn ei gais am grant cymhelliant, neu mewn cysylltiad â'r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth anwir neu wybodaeth sy'n gamarweiniol, neu os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen AGA neu nad oedd yn fwriad ganddo, ar ôl ei gwblhau, fynd i addysgu

Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn ei chyflwyno, fel rhan o'u hawliad o dan gynllun cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (“y Ddeddf Diogelu Data").

Wrth gyflwyno’r wybodaeth hon, mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:

  • a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi'i chael o dan neu mewn cysylltiad â'r Cyllid i'r graddau y mae'n ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth o'r fath i berson sy'n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR a/neu
  • a yw unrhyw wybodaeth wedi ei heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR
  • a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd a'n 'Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru'.

Grantiau cymhelliant AGA eraill sydd ar gael

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu tri chynllun cymhelliant sydd ar gael i fyfyrwyr AGA.

Bydd partneriaethau AGA yn gweithio gyda’u myfyrwyr i helpu i nodi’r unigolion hynny sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer pob cynllun. Gallech fod yn gymwys ar gyfer mwy nag un cynllun. Nid yw bod yn gymwys ar gyfer un cynllun yn effeithio ar eich cymhwystra ar gyfer cynlluniau cymhelliant AGA eraill. Mae’n bosibl cael cyllid grant o dan bob un o’r tri cynllun cymhelliant os ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer pob cynllun unigol.

Bydd angen i fyfyrwyr lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer pob un o’r cynlluniau yr hoffent wneud cais ar ei gyfer. Bydd hyn yn cadarnhau bod yr unigolion yn gymwys ac yn ei gwneud yn bosibl i’r taliadau gael eu gwneud o dan y cynllun perthnasol.

Effaith ar gymorth ariannol arall

Treth

Nid yw grantiau cymhelliant fel arfer yn drethadwy i fyfyrwyr amser llawn.

Efallai y bydd y cymelldaliad olaf yn drethadwy i’r unigolion hynny sydd mewn cyflogaeth.

Dylech geisio cyngor gan CThEM am eich amgylchiadau unigol chi.

Cymorth ariannol i fyfyrwyr

Ni chaiff grant cymhelliant ei ystyried yn rhan o incwm yr aelwyd ar gyfer darpariaethau cyllid myfyrwyr. Ni ddylid cynnwys y grantiau wrth gyfrifo incwm trethadwy sydd heb ei ennill. Dylech geisio cyngor gan eich darparwr cyllid myfyrwyr am eich amgylchiadau unigol chi.

Ad-dalu benthyciadau myfyrwyr

Ar gyfer myfyrwyr llawnamser, ni fydd y grant yn golygu eich bod yn gorfod dechrau ad-dalu benthyciadau myfyriwr.

Ar gyfer myfyrwyr rhan-amser, mewn cyflogaeth, bydd eich sefyllfa yn dibynnu ar p’un a yw eich cyflog yn ddigon uchel ichi orfod dechrau ad-dalu benthyciadau myfyriwr.

Efallai y bydd rhaid ichi ddechrau ad-dalu eich benthyciad ar ôl ichi gael y cymelldaliad olaf. Bydd eich sefyllfa yn dibynnu ar p’un a yw eich cyflog yn ddigon uchel ichi orfod dechrau ad-dalu’r benthyciadau.

Effaith ar fudd-daliadau

Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Dylech geisio cyngor gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Effaith ar bensiynau

Nid yw’r grant cymhelliant yn bensiynadwy.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â'ch Partneriaeth AGA.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y taliad sefydlu, cysylltwch â ITEIncentives@gov.wales.