Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi y bydd mwy o gymhellion yn cael eu cynnig i ddenu mwy o athrawon Bioleg o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae Bioleg wedi disgyn i'r pum pwnc isaf o ran nifer y ceisiadau fesul swydd athro.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi y bydd mwy o gymhellion yn cael eu cynnig i ddenu mwy o athrawon Bioleg o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae Bioleg wedi disgyn i'r pum pwnc isaf o ran nifer y ceisiadau fesul swydd athro.

Bydd athrawon TAR Bioleg dan hyfforddiant yn gallu cael cymorth ychwanegol o hyd at £20,000 i raddedigion â gradd dosbarth cyntaf neu radd Meistr. Ymysg y pynciau eraill sy'n denu'r cymhellion uchaf mae Mathemateg, Ffiseg, Cemeg a Chymraeg.

Bydd cynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory, ar gyfer athrawon cyfrwng Cymraeg, hefyd yn parhau, gan gynnig cymhellion o hyd at £5,000, sy'n golygu y gall athrawon dan hyfforddiant dderbyn cyfanswm o hyd at £25,000.

Mae arwyddion cychwynnol recriwtio i raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon llawn amser yn dangos bod dros 200 yn fwy o fyfyrwyr wedi derbyn cynigion i astudio i fod yn athrawon uwchradd eleni. Cafodd 690 o leoedd eu derbyn ym mis Awst 2020, o'i gymharu â 449 ym mis Awst 2019.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cadarnhau codiadau cyflog i athrawon heddiw, wedi'u ôl-ddyddio i 1 Medi, gyda chynnydd o 2.75% o leiaf ar gyfer pob athro. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu dros £5.5 miliwn i awdurdodau lleol i gefnogi cost y dyfarniad cyflog eleni.

Wrth siarad cyn sesiwn friffio polisi heddiw ar recriwtio a chadw athrawon, dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: 

Mae cynlluniau cymell pynciau â blaenoriaeth yn helpu i ddenu gweithwyr proffesiynol o ansawdd uchel i'r gweithlu addysgu. Rwy'n falch o allu parhau â'r cymhellion a chynyddu uchafswm y cymorth i ddenu athrawon Bioleg newydd, er mwyn ymateb i'r galw cynyddol.

Rwyf hefyd yn falch bod 200 yn fwy wedi cael eu recriwtio i’n rhaglenni hyfforddi llawn amser eleni, gan gryfhau ein gweithlu athrawon yng Nghymru ymhellach.

Hoffwn hefyd gadarnhau heddiw y codiad cyflog i wobrwyo ein hathrawon medrus a gweithgar yma yng Nghymru. Rydym wedi parhau i ymwahanu oddi wrth y cynigion yn Lloegr drwy ddyfarnu cyflog cychwynnol uwch i athrawon a chyflwyno rhai newidiadau allweddol, megis dilyniant cyflog ar sail profiad a graddfeydd cyflog statudol cenedlaethol. Bydd hyn yn helpu i hyrwyddo addysgu fel proffesiwn o ddewis i raddedigion a’r rhai sy’n newid gyrfa.