Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: scu@gov.wales.

1. Rhanbarth

Bydd y cynllun ar waith ledled Cymru.

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Teitl y Cynllun Cymhorthdal yw Cymhorthdal Costau Byw ar gyfer Hosbisau.

3. Sail gyfreithiol y DU

Mae adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu y caniateir i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent yn ei ystyried yn briodol er mwyn hyrwyddo neu wella llesiant cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol Cymru. Caniateir arfer y pŵer hwn er budd neu mewn perthynas â Chymru gyfan, neu unrhyw ran ohoni, neu â phawb neu unrhyw rai sy'n byw neu sy'n bresennol yng Nghymru.

4. Amcanion y cynllun

Ystyrir bod y gweithgarwch sy'n cael ei gefnogi o dan y cynllun hwn yn 'Wasanaeth o Fudd Economaidd Cyhoeddus' ar y sail:

  • bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu er budd y cyhoedd, ac
  • na fyddai'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu, neu na fyddai'n cael ei ddarparu ar y telerau gofynnol, gan fenter o dan amodau arferol y farchnad.

Yr amcan polisi penodol yw darparu cymorth tymor byr i gynnal gwasanaethau clinigol a ddarperir gan hosbisau yng Nghymru ar y lefelau presennol a helpu i gadw eu gweithluoedd. O ganlyniad, dylai gwasanaethau clinigol craidd a ddarperir gan hosbisau gael eu diogelu.

5. Yr Awdurdod Cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys

Hosbisau sy'n darparu gwasanaethau craidd y GIG.

7. Sector(au) a gefnogir

Y sector gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol yw'r sector a fydd yn cael ei gefnogi gan y cynllun hwn. Yn benodol, y sector hosbisau.

8. Hyd y cynllun

Hyd y Cynllun yw rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024.

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun

Cyfanswm y gyllideb ar gyfer y cynllun hwn yw £4 miliwn.

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Bydd hosbisau a gomisiynir gan fyrddau iechyd yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau clinigol yn gymwys i wneud cais am y cymhorthdal hwn.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Cyfrifir y cymhorthdal ar sail y costau cyflog a ysgwyddir o ran darparu gwasanaethau clinigol yn 2023/2024.

13. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

Ni fydd unrhyw hosbis yn gymwys i gael mwy nag £1.1 miliwn.

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image