Neidio i'r prif gynnwy

Rhestr Termau

Cymorth ar gyfer gwelliannau tai

Gall awdurdodau lleol gynnig help ariannol i berchnogion tai er mwyn gwella ac atgyweirio cartrefi. Gall hyn gynnwys grantiau a benthyciadau ar gyfer caffael, addasu, gwella, atgyweirio, dymchwel ac ailadeiladu cartrefi. Mewn llawer o achosion, mae'r cymorth hwn wedi'i dargedu at grwpiau agored i niwed fel pobl anabl neu'r henoed. Cyfeirir at y cymorth hwn yn y datganiad ystadegol hwn fel cymorth ar gyfer gwelliannau tai.

Grantiau ar gyfer cyfleusterau i'r anabl (GCAau)

Telir GCAau gan awdurdod lleol er mwyn darparu cyfleusterau i berson anabl (a) mewn annedd; neu (b) yn y rhannau cyffredin o adeilad sy'n cynnwys un fflat neu fwy. Gall y grantiau hyn helpu tuag at gost addasu cartref er mwyn galluogi person anabl i barhau i fyw yno. Ymhlith yr enghreifftiau o'r hyn y gellid defnyddio GCA ar ei gyfer mae:

  • Gwella mynediad i ystafell, er enghraifft, ehangu drysau neu osod lifft grisiau
  • Darparu cyfleusterau ymolchi ychwanegol, er enghraifft, cawod mynediad gwastad
  • Ei gwneud hi'n haws paratoi bwyd a choginio, er enghraifft, darparu unedau lefel isel

Mae rhai GCAau yn orfodol o dan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (Deddfwriaeth y DU) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 (Deddfwriaeth y DU). Bydd swm y grant yn dibynnu ar gost y gwaith a gaiff ei gymeradwyo ac amgylchiadau ariannol perchennog y cartref. Yr uchafswm grant sy'n daladwy yng Nghymru yw £36,000 ond gall awdurdod lleol ddefnyddio ei ddisgresiwn i dalu costau ychwanegol os bydd am wneud hynny.

Dim ond am GCAau sydd wedi'u cwblhau y mae'r datganiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth (lle mae'r taliad terfynol wedi'i wneud ar y grant ac mae'r gwaith wedi'i ardystio).

Annedd

Adeilad neu ran o adeilad a feddiannir fel annedd ar wahân neu lle y bwriedir hynny. At ddiben y datganiad hwn, mae anheddau yn cynnwys tai amlfeddiannaeth fel y'u diffinnir yn adran 77 o Ddeddf Tai 2004. Nid ydynt yn cynnwys fflatiau un ystafell unigol (hynny yw, ystafelloedd unigol nad oes bath/cawod na thoiled y tu mewn yn gysylltiedig â'r ystafell unigol honno yn unig), ond dylid cyfrif pob grŵp o fflatiau un ystafell sy'n rhannu cyfleusterau fel un annedd.

Cynllun ‘atgyweirio grŵp’

Term cyffredinol yw'r term hwn ac nid yw wedi'i ddiffinio mewn deddfwriaeth. Fe'i defnyddir i gyfeirio at amrywiaeth o gynlluniau y gallai awdurdodau lleol fod wedi'u cynnwys yn eu polisïau lleol at ddiben adnewyddu nifer o anheddau ar yr un pryd.

Ardaloedd adfywio

Trwy ddefnyddio cynlluniau adfywio sy’n seiliedig ar ardal, mae awdurdodau lleol yn gallu canolbwyntio ar gynnal gweithgareddau a buddsoddi mewn ardaloedd sydd angen cymorth ond sydd hefyd â photensial i adfywio.  Dylai buddsoddi mewn cynlluniau adfywio ardal sicrhau gwelliannau i’r tai eu hunain a hefyd i’r amodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd gan arwain at ailennyn hyder yn yr ardal.  Mae’r buddiannau niferus a ddaw trwy adfywio yn bwysig hefyd o safbwynt taclo’r problemau o ran allgáu cymdeithasol a chynaliadwyedd sy’n wynebu llawer o gymunedau. Nod ardaloedd adfywio yw:

  • gwella’r tai a’r amwynderau cyffredinol mewn ardal lle ceir problemau cymdeithasol ac amgylcheddol ynghyd â thai o safon isel
  • datblygu partneriaethau rhwng trigolion, y sector preifat a’r awdurdod lleol
  • sicrhau adfywiad, gan gynnwys datblygiadau defnydd cymysg
  • ennyn hyder yn nyfodol yr ardal, a thrwy hynny, helpu i wrthdroi unrhyw ddirywiad

Cyfraniadau gan breswylwyr

Caiff y cyfraniadau hyn eu cyfrif ar yr adeg y dyfernir y grant neu'r cymorth. Caiff swm y cyfraniad ei bennu gan y prawf adnoddau fel y'i pennir gan yr awdurdod lleol.

Cymorth trydydd parti

Mae hyn yn cynnwys unrhyw gymorth ar gyfer adfywio o ffynonellau eraill. O ran benthyciadau a hwylusir gan yr awdurdod lleol, gall awdurdodau lleol ddarparu’r cyllid i’r trydydd parti allu rhoi benthyciad.

Cefndir

Cyd-destun polisi a chyd-destun gweithredol

Defnyddir y wybodaeth hon i fonitro effeithiolrwydd y polisi presennol i aelwydydd yng Nghymru gael y cyfle i fyw mewn cartrefi o ansawdd da ac er mwyn datblygu polisïau yn y dyfodol. Daeth Deddf Tai (Cymru) 2014 (Deddfwriaeth y DU) yn gyfraith ar 17 Medi 2014 ac mae'n cyflwyno gwelliannau sylweddol ym mhob rhan o'r sector tai er mwyn helpu i sicrhau bod cartrefi boddhaol a fforddiadwy a gwasanaethau tai gwell ar gael i bobl. Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr 2022 wedi newid y ffordd y mae landlordiaid yng Nghymru yn rhentu eu heiddo.  Bydd y gyfraith newydd yn ei gwneud hi’n haws iddynt rentu ac rhoi mwy o sicrwydd iddynt.

Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Defnyddwyr a defnyddiau

Caiff y wybodaeth yn y datganiad hwn ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru i nodi a monitro'r swm a gaiff ei wario bob blwyddyn ledled Cymru ar gymorth ar gyfer gwelliannau tai a nifer yr anheddau a gafodd eu gwella. Fe'i defnyddir i fonitro tueddiadau o ran ymdrechion awdurdodau lleol i wella ansawdd y stoc dai yn eu hardal. Mae'r wybodaeth am GCAau gorfodol ac anorfodol yn helpu i ddarparu darlun o nifer y GCAau a'r mathau o GCAau a chostau addasiadau ar lefel leol a chenedlaethol. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r wybodaeth am nifer o resymau, gan gynnwys gwaith cynllunio strategol ym maes tai ac er mwyn cwblhau Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol. Yn fwy cyffredinol, caiff y wybodaeth ei defnyddio er mwyn:

  • monitro tueddiadau tai
  • datblygu polisïau
  • cyngor i Weinidogion
  • llywio dadleuon yn Senedd Cymru a thu hwnt
  • gwaith proffilio daearyddol, cymharu a meincnodi

Mae amrywiaeth o bobl yn defnyddio'r ystadegau hyn, gan gynnwys llywodraeth genedlaethol a lleol, ymchwilwyr, academyddion a myfyrwyr. I gael rhagor o wybodaeth am y defnyddwyr a'r defnyddiau, cyfeiriwch at yr Adroddiad Ansawdd Ystadegau Tai.

Cywirdeb

Diwygiwyd y data ar gyfer 2020-21 o ganlyniad i wall a nodwyd yn y data a ddychwelwyd ar gyfer Caerdydd. Cafodd hyn hefyd effaith ar gyfansymiau Cymru, a gafodd eu diwygio hefyd.

Ni chasglwyd data ar gyfer 2019-20 oherwydd pandemig y Coronafeirws (COVID-19). Nodwch y gallai'r tarfu a fu ar wasanaethau awdurdodau lleol fod wedi parhau i effeithio ar y ffigurau a gofnodwyd ar gyfer 2020-21 a 2021-22. Dylid ystyried hyn wrth gymharu data diweddar â data blynyddoedd blaenorol.

Ffynonellau a chwmpas y data

Caiff y data yn y datganiad ystadegol hwn eu casglu bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru gan bob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r ystadegau diweddaraf yn ymwneud â blwyddyn ariannol 2021-22 (mis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022). Caiff y data a ddangosir yn y datganiad hwn eu casglu drwy dair ffurflen ar wahân, sy'n ymwneud â'r canlynol:

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cylch prosesu data yn yr Adroddiad Ansawdd Ystadegau Tai hefyd. Ymatebodd pob un o'r 22 o awdurdodau lleol i'r broses casglu data ar gyfer 2021-22, felly ni fu'n rhaid priodoli unrhyw ddata. Mae'r wybodaeth a ddangosir yn cynnwys gweithgareddau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Deddfwriaeth y DU), Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (Deddfwriaeth y DU) a Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 (Deddfwriaeth y DU).

Dilysu a gwirio

Mae awdurdodau lleol yn cwblhau ffurflenni casglu data sy'n cynnwys canllawiau a dulliau dilysu sylfaenol sy'n eu galluogi i ddilysu rhannau o'r data cyn eu hanfon at Lywodraeth Cymru. Mae enghreifftiau o'r gwiriadau dilysu sydd wedi'u cynnwys yn y ffurflenni yn cynnwys newidiadau blwyddyn ar flwyddyn, croeswiriadau â thablau data perthnasol eraill a gwiriadau i sicrhau bod y data yn rhesymegol gyson. Rhoddir cyfle hefyd i'r awdurdodau gynnwys gwybodaeth gyd-destunol lle y bu newidiadau mawr (e.e. lle bydd eitemau data wedi newid o fwy na 10% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol). Mae hyn yn golygu y gellir glanhau'r data i raddau yn y ffynhonnell a lleihau nifer yr ymholiadau dilynol sydd eu hangen. Mae copïau o'r ffurflenni casglu data i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru:

Unwaith y byddwn yn derbyn y data, byddant yn destun gwiriadau dilysu a gwirio pellach, er enghraifft:

  • gwiriad synnwyr cyffredin i ganfod unrhyw ddata coll/anghywir heb unrhyw esboniad
  • gwiriadau cysondeb rhifyddol 
  • croeswiriadau yn erbyn y data ar gyfer y flwyddyn flaenorol
  • croeswiriadau â chasgliadau data perthnasol eraill
  • gwiriadau goddefgarwch trylwyr
  • prosesau dilysu i gadarnhau bod y data sydd y tu allan i'r cyfyngau goddefgarwch yn gywir

Os ceir gwall wrth gynnal y prosesau dilysu, byddwn yn cysylltu â'r awdurdod lleol ac yn ceisio datrys y mater. Os na chawn ateb o fewn cyfnod amser rhesymol, byddwn yn defnyddio dulliau priodoli i wella ansawdd y data. Wedyn, byddwn yn hysbysu'r sefydliad ac yn esbonio iddo sut rydym wedi diwygio neu wedi priodoli'r data. Tynnir sylw at y dull priodoli a'r data yr effeithiwyd arnynt yn adran ‘gwybodaeth am ansawdd’ y datganiad cyntaf.

Sicrhau ansawdd

Mae'r datganiad hwn wedi cael ei sgorio yn erbyn matrics Sicrhau Ansawdd Data Gweinyddol Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae Awdurdod Ystadegau'r DU yn defnyddio'r matrics fel safon rheoleiddio ar gyfer sicrhau ansawdd data gweinyddol. Mae'r Safon yn cydnabod y rhan gynyddol y mae data gweinyddol yn ei chwarae wrth lunio ystadegau swyddogol ac yn esbonio beth y dylai cynhyrchwyr ystadegau swyddogol ei wneud er mwyn sicrhau eu hunain o ansawdd y data hyn. Mae'r pecyn cymorth sy'n ategu'r Safon yn rhoi arweiniad defnyddiol i gynhyrchwyr ystadegol am yr arferion y gallant eu mabwysiadu er mwyn sicrhau ansawdd y data a gânt, ac mae'n nodi'r safonau ar gyfer asesu ystadegau yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol. Mae'r matrics yn asesu'r datganiad yn erbyn y meini prawf canlynol:

  • cyd-destun gweithredol a threfniadau casglu data gweinyddol
  • cyfathrebu â phartneriaid sy'n cyflenwi data
  • yr egwyddorion, y safonau a'r gwiriadau sicrhau ansawdd a ddefnyddir gan gyflenwyr data
  • ymchwiliadau a dogfennaeth sicrhau ansawdd y cynhyrchydd

Caiff awdurdodau lleol eu hysbysu am amserlen yr ymarfer casglu data ymlaen llaw. Mae hyn yn rhoi digon o amser i awdurdodau lleol goladu eu gwybodaeth, a chodi unrhyw broblemau a allai fod ganddynt. Mae'r daenlen yn cynnwys canllawiau sy'n helpu defnyddwyr i gwblhau'r ffurflen.

Diwygiadau

Gall fod angen gwneud diwygiadau am amrywiaeth o resymau, er enghraifft, os bydd awdurdod lleol yn dychwelyd ffurflen yn hwyr, neu os bydd cyflenwr data yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru ei fod wedi cyflwyno gwybodaeth anghywir. Weithiau, gall fod angen gwneud diwygiadau oherwydd gwallau yn ein prosesau ystadegol. Os felly, byddwn yn penderfynu a yw'r newid yn ddigon pwysig i ni gyhoeddi datganiad ystadegol diwygiedig.

Lle nad ystyrir bod y newidiadau yn bwysig h.y. mân newidiadau, cânt eu diweddaru yn natganiad ystadegol y flwyddyn ganlynol. Fodd bynnag, mae'n bosibl y caiff mân ddiwygiadau i'r ffigurau eu hadlewyrchu yn nhablau StatsCymru cyn y datganiad nesaf hwnnw.

Caiff data diwygiedig eu nodi â (r) yn y datganiad ystadegol.

Rydym yn dilyn polisi diwygiadau ystadegol Llywodraeth Cymru.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod yr ystadegau swyddogol yn cyrraedd y safonau uchaf o ran y gallu i ymddiried ynddynt, ansawdd a gwerth i'r cyhoedd.

Dylai unrhyw ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt ar ôl i gangen rheoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU eu hasesu. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.

Mae cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn amau a yw'r ystadegau hyn yn cyrraedd y safonau priodol o hyd, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Awdurdod ar unwaith. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg lle na lwyddir i gynnal y safonau uchaf, a'i ailddatgan pan gaiff y safonau eu cyrraedd unwaith eto.

Cadarnhawyd dynodiad parhaus yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol yn 2012 ar ôl asesiad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Ers adolygiad diweddaraf y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Wedi ehangu ar ein sylwebaeth i gynnwys mwy o gyd-destun polisi a chyd-destun gweithredol.
  • Wedi egluro cwmpas y datganiad (h.y. gwariant awdurdodau lleol yn ystod cyfnod penodedig o 12 mis).
  • Gwella'r gallu i ymddiried yn yr ystadegau drwy leihau/dileu mynediad cyn-cyhoeddi.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Maent yn anelu at greu Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog a lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae'n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol ger bron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) cyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt ger bron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn ger bron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r gyfres a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd gynnig naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a gellid eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Cydlyniant ag ystadegau eraill

Addasiadau tai

Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddwyd yr adroddiad ymchwil Addasiadau tai: dadansoddiad 2019 i 2020. Cafodd y data yn yr adroddiad hwn eu casglu'n uniongyrchol gan ddarparwyr addasiadau gan Lywodraeth Cymru. Cafwyd data gan yr 13 o asiantaethau Gofal a Thrwsio, y 22 o awdurdodau lleol a'r 29 o gymdeithasau tai. Ni chafodd ffurflenni eu cyflwyno gan chwe chymdeithas dai, yr oedd dwy ohonynt yn gyrff Trosglwyddo Gwirfoddol ar Raddfa Fawr a ddaeth yn berchnogion ar dai cyngor blaenorol. Felly nid yw'r adroddiad hwn yn cynnig darlun cenedlaethol cyflawn o'r addasiadau tai a wnaed. Fodd bynnag, o ystyried cwmpas y trefniadau casglu data hyn, rydym yn ystyried a allai ddisodli'r wybodaeth a gaiff ei chasglu bob blwyddyn ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol am gymorth ar gyfer gwelliannau  tai, fel y cyhoeddir yn y datganiad hwn. Byddwn yn adolygu cynnwys a chwmpas y datganiad hwn maes o law a byddem yn croesawu unrhyw adborth ar y cynigion cynnar hyn.

Anfonwch eich sylwadau drwy e-bost i: ystadegau.amodautai@llyw.cymru

Ystadegau cysylltiedig ar gyfer gwledydd eraill y DU

Lloegr

Mae'r un ddeddfwriaeth yn berthnasol i weithgareddau adnewyddu yn y sector preifat a GCAau yn Lloegr â'r ddeddfwriaeth i Gymru, sef Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 (Deddfwriaeth y DU). Caiff gwybodaeth gymaradwy i Loegr am fenthyciadau, grantiau a chymorth arall ei chasglu yn Adran F o'r ffurflenni data blynyddol ar Ystadegau Tai Awdurdodau Lleol (Adran Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau).

Yr Alban

Cyflwynodd Deddf Tai (Yr Alban) 2006 (Deddfwriaeth y DU) bwerau yn galluogi awdurdodau lleol i roi cymorth ar gyfer gwaith atgyweirio a gwella sy'n debyg i'r pwerau yr ymdrinnir â nhw gan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 (Deddfwriaeth y DU). Mae gwybodaeth ar gael yn Ystadegau tai ar gyfer yr Alban – Grantiau Gwella ac Atgyweirio Tai yn y Sector Preifat (Llywodraeth yr Alban).

Gogledd Iwerddon

Mae gwybodaeth am y grantiau sydd ar gael i wella cartrefi yng Ngogledd Iwerddon ar gael ar wefan NIDirect.