Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am gymorth ariannol a ddarperir gan awdurdodau lleol ar gyfer gwella ac atgyweirio cartrefi. Mae'n cynnwys gwybodaeth am grantiau cyfleusterau i'r anabl (DFGs). Mae’r cymorth wedi'i anelu'n bennaf at wella tai sector preifat ond mae hefyd ar gael ar gyfer tai cymdeithasol trwy gynlluniau adnewyddu tai.

Gwariant cyffredinol

  • Yn 2023-24, y gwariant cyffredinol ar gymorth ar gyfer gwella tai (gan gynnwys DFGs) oedd £56.5 miliwn.
  • Dyma'r gwariant uchaf a gofnodwyd, oherwydd tanwariant yn ystod y pandemig yn ogystal â chynnydd diweddar mewn cost a galw.

Grantiau cyfleusterau i'r anabl (DFGs)

  • O'r gwariant cyffredinol, gwariwyd £44.3 miliwn (78.3%) ar DFGs gorfodol.
  • Y gwariant cyfartalog fesul DFG gorfodol oedd £9,600.

Gwella tai (ac eithrio DFGs)

  • Yn 2023-2024, gwariwyd £8.8 miliwn ar wella tai drwy grantiau’r awdurdodau lleol, benthyciadau, cymorth trydydd parti a chyfraniadau preswylwyr.
  • Y gwariant cyfartalog fesul annedd oedd £2,500, sy'n gyson â'r 10 mlynedd diwethaf.

Ardaloedd adnewyddu

Mae cynlluniau adnewyddu ar sail ardal yn galluogu’r awdurdodau lleol i ganolbwyntio gweithgarwch a buddsoddiad ar ardal lle mae problemau cymdeithasol ac amgylcheddol yn cael eu cyfuno â thai gwael.

  • Mae gwariant ardaloedd adnewyddu wedi gostwng yn raddol yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, o £33.6 miliwn yn 2012-13 i £2,000 yn 2023-24.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: James Koe
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image