Neidio i'r prif gynnwy

Teitl yr adroddiad

Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr yn y sectorau ôl-16

Manylion yr adroddiad

Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o sut mae colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned wedi cefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr yn ystod cyfnod COVID-19, rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ionawr 2021. Mae hyn yn cynnwys y cyfnodau clo, yn ogystal â phan ailagorodd darparwyr. Mae’n cipio sut mae colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned wedi addasu eu cymorth i iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr wrth ymateb i’r heriau’n deillio o COVID-19.

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau

Mae effaith cyfnodau clo a’r pandemig ar iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr yn cael ei dylanwadu gan eu hamgylchiadau personol. Mae ffactorau cyfrannol allweddol yn cynnwys profedigaeth, ynysigrwydd cymdeithasol, ansicrwydd ynghylch trefniadau asesu cymwysterau, pryderon am ragolygon yn y dyfodol, pwysau gweithio oriau hir mewn galwedigaethau ar y rheng flaen, fel iechyd a gofal cymdeithasol, ac effaith cael eu rhoi ar ffyrlo neu eu diswyddo.

Mae’r newid i ddysgu o bell a dysgu cyfunol wedi bod yn haws i rai dysgwyr na dysgwyr eraill. Yn gyffredinol, roedd yn haws i ddysgwyr a oedd eisoes yn gallu manteisio’n rhwydd ar dechnoleg a chysylltedd band eang dibynadwy addasu i ffyrdd newydd o weithio. Yn aml, mae dysgwyr difreintiedig, fel gofalwyr ifanc a llawer o ddysgwyr hyfforddeiaethau, wedi wynebu pwysau ychwanegol sylweddol wrth geisio cadw i fyny â’u dysgu o ystyried eu hamgylchiadau personol anodd.

Ers y cyfnod clo cyntaf a ddechreuodd ym mis Mawrth 2020, mae pob darparwr wedi gwneud newidiadau sylweddol i’r ffyrdd y maent yn cefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr. Er y bu cyfnodau byr pan mae lleiafrif o ddarparwyr wedi dychwelyd i rai mathau o gymorth wyneb-yn-wyneb oherwydd llacio cyfyngiadau’r cyfnod clo, mae’r rhan fwyaf o gymorth wedi parhau i gael ei gynnig o bell. Dros gyfnod llawn y pandemig, mae bron pob darparwr wedi sicrhau mai lles dysgwyr a staff oedd y brif flaenoriaeth, ac wedi gweithio’n galed i gynnal parhad o ran cymorth, yn ogystal â pharhad addysgu, dysgu ac asesu.

Gellid disgrifio’r hyn sydd wedi esblygu hyd yn hyn yn ystod y pandemig yn fodel ‘cymorth cyfunol’, lle caiff cymorth ei roi mewn ffyrdd amrywiol. Mae’r ffyrdd hyn yn cynnwys cymorth o bell drwy alwadau ffôn neu negeseuon testun, galwadau fideo ar-lein ac, mewn ychydig o achosion, cyfleusterau sgwrsio ar-lein, yn ogystal â chymorth wyneb-yn-wyneb mwy traddodiadol.

Mae effeithiolrwydd cyffredinol y cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr yn amrywio’n sylweddol rhwng darparwyr a sectorau. Yn yr achosion gorau, mae darparwyr wedi cynnal neu gyflwyno dulliau brysbennu gofalus a thra ystyriol i adnabod a blaenoriaethu dysgwyr sydd naill ai mewn perygl neu sydd angen y cymorth fwyaf. Lle mae cymorth yn llai effeithiol, nid yw darparwyr yn nodi ac yn cynnal cysylltiad rheolaidd â’r rhai sydd â’r perygl mwyaf o ymddieithrio rhag dysgu neu brofi anawsterau â’u hiechyd meddwl a’u lles emosiynol. Caiff cymorth ei ddarparu ar sail ‘y cyntaf i’r felin’, gan mwyaf, ac mae dysgwyr yn aml yn wynebu rhestrau aros hir am gymorth arbenigol, fel darpariaeth cwnsela fewnol neu allanol.

Caiff cymorth ei ddarparu’n fwy effeithlon ac effeithiol pan fydd darparwyr yn cydweithio’n agos â phartneriaid mewnol ac allanol, ac asiantaethau arbenigol. Mae trefniadau cymorth amlasiantaeth yn fwyaf effeithiol pan fydd dysgwyr yn cael un man cyswllt. Fodd bynnag, nid yw’r trefniadau i’r dysgwyr hynny sy’n astudio â darparwyr partner ac isgontractwyr fanteisio ar gymorth arbenigol ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol yn cael eu gwneud yn ddigon clir bob tro mewn gwybodaeth sydd ar gael gan ddarparwyr arweiniol. 

Yn ogystal â darparu cymorth uniongyrchol, targedig i ddysgwyr y nodwyd bod angen cymorth penodol arnynt â’u hiechyd meddwl a’u lles emosiynol, mae darparwyr hefyd yn hyrwyddo iechyd meddwl a lles emosiynol cadarnhaol, er enghraifft drwy gynnal wythnosau lles a chynnig ystod o weithgareddau sy’n ymwneud â lles. Mae angen i bob darparwr ganolbwyntio mwy ar ddatblygu gwydnwch dysgwyr i oresgyn heriau a’u paratoi ar gyfer y byd gwaith ar ôl y pandemig.

Mae llawer o ddarparwyr wedi sicrhau bod ystod eang o adnoddau ar gael i ddysgwyr a staff. Yn yr achosion gorau, caiff adnoddau eu dewis yn ofalus a’u hadolygu, yn hytrach nag ychwanegu at dudalennau gwe ar-lein yn unig.  Mae hyn yn osgoi gorlwytho defnyddwyr â gormod o wybodaeth y mae’n anodd llywio drwyddi.

Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr wedi codi ymwybyddiaeth staff o faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl a lles emosiynol. Mae darparwyr yn crybwyll bod hyn wedi arwain at roi staff mewn sefyllfa well i adnabod a chefnogi dysgwyr sy’n cael trafferth, yn ogystal â helpu’r staff i gynnal eu lles emosiynol eu hunain. Mae llawer o ddarparwyr, yn enwedig mewn colegau addysg bellach a darparwyr dysgu yn y gwaith, wedi buddsoddi mewn rolau cymorth ychwanegol ar y rheng flaen hefyd, fel swyddogion lles, hyfforddwyr gwydnwch a dysgu, staff lles gweithredol a swyddogion ymgysylltu â dysgwyr yn rhan o’u darpariaeth cefnogi dysgwyr. Hefyd, bu twf sylweddol mewn hyfforddi a defnyddio swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl, yn enwedig mewn colegau addysg bellach a darparwyr dysgu yn y gwaith.

Mae darparwyr wedi adrodd am ddarlun cymysg o ran nifer yr adroddiadau a’r atgyfeiriadau diogelu ers dechrau’r pandemig. Mae mwyafrif y darparwyr wedi gweld cynnydd yn nifer y dysgwyr sydd wedi ceisio cymorth ar gyfer materion cymhleth, fel hunan-niweidio a meddyliau a theimladau hunanladdol. Hefyd, mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr wedi cryfhau eu dulliau o hybu a sicrhau diogelwch ar-lein cyhyd ag y bo modd, o fewn y cyd-destun heriol bod bron i bob dysgwr yn treulio mwy o amser ar-lein gartref, yn aml drwy eu hoffer eu hunain a rhwydweithiau Wi-Fi y cartref.

Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr wedi crybwyll y bu ymchwydd yn y galw am wasanaethau cwnsela i ddysgwyr yn ystod y pandemig.  Erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf o’r cymorth hwn yn cael ei ddarparu o bell. Er bod lleiafrif y staff cwnsela wedi ymgymryd â hyfforddiant penodol erbyn hyn ar sut i ddarparu cwnsela o bell yn effeithiol, nid yw hyn yn digwydd bob tro.  Yn yr un modd, er bod bron pob aelod staff cwnsela yn cael goruchwyliaeth glinigol reolaidd i gefnogi eu datblygiad a’u lles meddyliol eu hunain, nid oes cymorth tebyg ar gael i lawer o staff mewn rolau cymorth rheng flaen eraill, a all fod yn ymdrin ag achosion cymhleth a thrallodus fel rhan o’u gwaith.

Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr wedi manteisio ar gyllid ychwanegol i helpu dysgwyr â gofynion technoleg ar gyfer astudio gartref a chefnogaeth o bell. Nid yw ychydig o ddarparwyr yn gwneud defnydd digonol o gategorïau eraill o gyllid cymorth a all helpu eu dysgwyr i fanteisio ar fathau eraill o gymorth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.

Er bod llawer o’r materion sy’n gysylltiedig â’r pandemig wedi creu heriau ychwanegol i ddysgwyr a darparwyr, mae llawer o ddarparwyr hefyd yn cydnabod y gall yr addasiadau i’r ddarpariaeth cymorth, a’r dulliau a fu’n angenrheidiol oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo, gyflwyno cyfleoedd i wella yn y tymor hwy. Er enghraifft, gallai cynnig mwy o ddewis i ddysgwyr o ran sut gallant fanteisio ar gymorth yn y dyfodol wella hygyrchedd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol cymorth iechyd meddwl a lles emosiynol.

Argymhelliad 1

Dylai colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned dargedu adnoddau i hybu iechyd meddwl a lles emosiynol cadarnhaol yn ofalus er mwyn osgoi gorlwytho dysgwyr a staff â gormod o wybodaeth.

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sectorau i sicrhau bod yr adnoddau a gynhyrchir yn cael eu rhannu er mwyn osgoi dyblygu ac i sicrhau y caiff y cyllid ei ddefnyddio i'r eithaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i gefnogi iechyd meddwl a lles staff a dysgwyr ar gyfer 2020 i 2021 a 2021 i 2022. Mae rhan o'r cyllid hwn yn canolbwyntio ar gydweithio, gan annog yr angen i sefydliadau ac asiantaethau allanol gydweithio i ddatblygu adnoddau a hyfforddiant a sicrhau eu bod yn gyson, yn hygyrch ac yn cael eu rhannu er mwyn osgoi dyblygu. Fel amod ariannu, mae'r holl adnoddau a ddatblygir yn cael eu rhannu ar Hwb ac yn hygyrch i ddysgwyr, staff a rhieni/gofalwyr.

Argymhelliad 2

Dylai colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned nodi’n ofalus y dysgwyr hynny sydd â’r risg fwyaf o ymddieithrio rhag dysgu neu gael profiad o broblemau iechyd meddwl a lles emosiynol, a monitro eu lles yn rheolaidd.

Ymateb

Fel rhan o'r ceisiadau cydweithredol am gyllid yn 2020 i 2021, mae offeryn adnabod ar gyfer dysgwyr sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio wedi'i gynhyrchu a'i dreialu mewn dau goleg yng Nghymru. Mae cynlluniau i'w weithredu ar draws y sector yn cael eu trafod yn dilyn y cynllun peilot yn gynnar yn 2021 i 2022. Fel rhan o’r adferiad rhag Covid, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi'r sector ôl-16 i weithio gydag ysgolion i rannu gwybodaeth am anghenion cymorth addysgol a lles dysgwyr, er mwyn helpu i sicrhau pontio effeithiol i'w cam dysgu nesaf.

Mae sefydliadau eraill hefyd wedi datblygu amrywiaeth o arolygon ac adnoddau y gellir eu rhannu ar draws sectorau ar Hwb y gellir eu defnyddio i nodi dysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio a'r rhai sydd angen cymorth iechyd meddwl a lles.

Argymhelliad 3

Dylai colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned flaenoriaethu darparu cymorth yn ôl yr angen i sicrhau bod pob un o’r dysgwyr y mae angen cymorth brys arnynt â’u hiechyd meddwl a’u lles emosiynol yn cael cymorth cyn gynted ag y bo modd.

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i gefnogi iechyd meddwl a lles staff a dysgwyr ac annog y defnydd o gyllid i ddarparu cymorth mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys cwnsela, recriwtio swyddogion lles sefydliadol, hyfforddiant, codi ymwybyddiaeth a thrwy ddatblygu adnoddau ar gyfer staff a dysgwyr.

Argymhelliad 4

Dylai colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned gydweithio mor agos ag y bodd modd ag asiantaethau allanol i sicrhau bod cymorth cyffredinol ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol mor ddi-dor ag y bo modd a lleihau, neu osgoi yn ddelfrydol, yr angen am nifer o fannau cyswllt.

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn annog cydweithio ar draws y sectorau a chydag asiantaethau allanol er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyllid a sicrhau cysondeb o ran negeseuon a chyflenwi. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd hyn a hefyd bod angen gwneud rhagor o waith i osgoi'r angen am nifer o bwyntiau cyswllt. Gobeithiwn barhau i fynd i'r afael â'r angen hwn drwy gefnogi cydweithio a gweithio'n uniongyrchol gyda'r holl sectorau perthnasol i gyrraedd a chynnal dull "system gyfan" di-dor. Byddem hefyd yn disgwyl i'r sectorau weithio'n agos i gefnogi hyn drwy gydol taith y dysgwr.

Argymhelliad 5

Dylai colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned ei gwneud yn glir sut y gall pob dysgwr fanteisio ar gymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles meddyliol, gan gynnwys y rhai sy’n astudio ag isgontractwyr neu ddarparwyr partner.

Ymateb

Rhan o delerau ac amodau cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl a lles yw i bob Sefydliad Addysg Bellach ddatblygu a/neu ddiwygio eu strategaeth lles i gefnogi'r holl staff a dysgwyr yn eu sefydliad. Darparwyd rhestr wirio i sicrhau bod strategaethau'n cynnwys y gofynion angenrheidiol sy'n cynnwys manylion hygyrchedd a chyfeirio at wasanaethau a pholisïau eraill sy'n berthnasol i'r staff a'r dysgwr. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn awgrymu y dylai strategaethau gynnwys manylion cyswllt staff lles perthnasol, manylion yr hyfforddiant sydd ar gael a sut i gael gafael arno a dolenni at bolisïau a systemau cymorth eraill sy'n berthnasol i anghenion staff a dysgwyr. Dylid diwygio strategaethau'n rheolaidd a'u diweddaru yn seiliedig ar newidiadau i'r ddarpariaeth a'r amgylchiadau, a dylid rheoli fersiynau.

Argymhelliad 6

Dylai colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned sicrhau bod yr holl staff cwnsela, ac aelodau staff eraill mewn rolau tebyg, yn cael goruchwyliaeth neu fentora priodol, ac yn ymgymryd â dysgu proffesiynol penodol ar sut i ddarparu cymorth o bell yn effeithiol.

Ymateb

Mae dysgu proffesiynol yn faen prawf cymhwysedd sydd wedi'i gynnwys fel rhan o'r cyllid sydd wedi'i ddyrannu i iechyd meddwl a lles i bob Sefydliad Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig ar Waith a phartneriaethau dysgu oedolion. Gellir defnyddio cyllid hefyd i recriwtio swyddogion lles ac i ddarparu cwnsela i staff a dysgwyr. Mae prosiectau cenedlaethol ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ac adnabod camddefnydd o sylweddau yn cynnwys modiwlau hyfforddi ar gyfer staff a modiwlau hyfforddi'r hyfforddwr i sicrhau bod hyfforddiant staff perthnasol yn gyson ac yn gynaliadwy.

Argymhelliad 7

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau y caiff deilliannau prosiectau iechyd meddwl a ariennir gan Lywodraeth Cymru eu gwerthuso’n llawn, a rhannu’r canfyddiadau ar draws pob sector ôl-16.

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn ac yn cytuno y dylai holl ganlyniadau prosiectau iechyd meddwl a lles a ddatblygir o ganlyniad i gyllid iechyd meddwl a lles i'r sectorau ôl-16 gael eu gwerthuso'n llawn gyda chanfyddiadau'n cael eu rhannu fel y bo'n briodol. Rydym yn gweithio gyda Grŵp Lles Actif ColegauCymru a thrwy Hwb i gefnogi rhannu profiadau ac arfer da. Fel rhan o'r broses ymgeisio ar gyfer pob prosiect iechyd meddwl a ariennir, rhaid i ddarparwyr ddangos sut y byddant yn gwerthuso canlyniadau eu gweithgareddau.

Manylion cyhoeddi

Mae Estyn yn bwriadu cyhoeddi’r adolygiad yma ar, neu ar ôl, 23 Mawrth 2021.