Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar ddyfarnu cymorth ariannol lleiaf (MFA) o dan gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau’r DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw cymorth ariannol lleiaf?

Mae cymorth ariannol lleiaf (MFA) yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddyfarnu cymorthdaliadau hyd at £315,000 heb angen cydymffurfio â’r mwyafrif o'r gofynion rheoli cymorthdaliadau. Nid oes angen asesu MFA yn erbyn yr egwyddorion rheoli cymorthdaliadau na’r egwyddorion ynni a'r amgylchedd. Mae rheolau tryloywder yn berthnasol i gymorthdaliadau MFA gwerth dros £100,000.

Mae'r gwaharddiadau canlynol yn parhau mewn grym gyfer pob dyfarniad MFA:

  • ar ddyfarnu cymorthdaliadau sy'n ymwneud â nwyddau ar gyfer perfformiad allforio
  • ar gynnwys domestig.

Cronni

Mae'r uchafswm o £315,000 yn derfyn treigl dros 3 blwyddyn ariannol (y flwyddyn ariannol bresennol a'r 2 flwyddyn ariannol flaenorol). Mae cymorthdaliadau MFA yn cronni gyda chymorthdaliadau MFA neu Gymorth Gwasanaeth o Fudd Economaidd Cyhoeddus (SPEIA) eraill a geir yn ystod y cyfnod perthnasol.

Maent yn cronni gyda’r canlynol hefyd:

  • unrhyw gymorth a roddir o dan reoliadau de minimis yr UE
  • cymorthdaliadau a roddir fel symiau bach o gymorth ariannol (SAFA) o dan Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU a’r UE.

Bydd dyfarnu cymhorthdal fel MFA yn cyfyngu ar fynediad y buddiolwr at gymorthdaliadau MFA yn y dyfodol. Mae'n bwysig ystyried llwybr y cymhorthdal ac anghenion y buddiolwr gyda’i gilydd.

Mae ein rhestr wirio MFA yn nodi'r hyn y mae rhaid i awdurdodau cyhoeddus ei ystyried cyn dyfarnu cymhorthdal MFA.