Bydd hosbisau ledled Cymru yn cael rhagor o gymorth ariannol yn sgil cytuno ar ganllawiau comisiynu cenedlaethol nodedig.
Bydd y pecyn cymorth gwerth £4.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn rhoi rhyddhad ariannol i hosbisau plant ac hosbisau oedolion i helpu i dalu costau cynyddol.
Am y tro cyntaf, mae'r canllawiau comisiynu cenedlaethol yn gosod dull tecach a mwy cyson ar gyfer comisiynu gwasanaethau gofal mewn hosbisau a gofal lliniarol. Mae'r diwygiadau hyn yn pennu'r cyfeiriad ar gyfer model comisiynu cenedlaethol symlach o fis Ebrill 2027 ymlaen, a fydd yn mynd i'r afael ag annhegwch ac amrywiadau o ran cael gofal mewn hosbisau a gofal lliniarol ledled Cymru.
Mae tua 35,000 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn ac mae gan hyd at 29,000 o bobl anghenion gofal lliniarol. Gall hosbisau helpu unigolion i dreulio eu dyddiau olaf gydag urddas, cysur a thosturi yn eu cymunedau.
Fodd bynnag, mae'r sector yn wynebu heriau ariannol parhaus, ochr yn ochr ag amrywiadau sylweddol o ran mynediad at wasanaethau. Ar hyn o bryd, nid yw tua chwarter y bobl yng Nghymru yn gallu cael gofal mewn hosbis neu gymorth gofal lliniarol arbenigol cyfatebol.
Bydd y grant sefydlogi untro yn helpu hosbisau sy'n darparu gofal a gomisiynir gan y GIG i reoli pwysau ariannol sylweddol, gan gynnwys costau ynni cynyddol, prinder gweithwyr, galw cynyddol am ofal a chymhlethdod y gofal hwnnw.
Mae'n golygu y bydd cyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn hosbisau yn fwy na £25 miliwn yn ystod tymor y Senedd hon.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
Mae hosbisau yn rhoi gofal gwerthfawr a dibynadwy i filoedd o bobl a theuluoedd ar yr adeg anoddaf yn eu bywydau. Maen nhw'n helpu unigolion i dreulio eu dyddiau olaf gydag urddas, cysur a thosturi, yng nghwmni eu hanwyliaid.
Bydd y grant hwn yn rhoi cymorth ar unwaith i helpu hosbisau i barhau â'u gwaith hanfodol. Drwy'r canllawiau comisiynu newydd, rydyn ni'n gosod y sylfeini i greu dyfodol tecach a mwy cynaliadwy ar gyfer gofal mewn hosbisau yng Nghymru; dyfodol lle y bydd cyllid yn haws i'w rag-weld, lle y bydd gwasanaethau yn cael eu comisiynu ar sail anghenion, a lle y bydd pawb yn gallu manteisio ar ofal diwedd oes o ansawdd uchel.
Dywedodd yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes, Dr Idris Baker:
Mae'r canllawiau comisiynu newydd yn gam mawr ymlaen, ac yn gosod dull clir a chyson ar gyfer cynllunio ac ariannu gofal mewn hosbisau ledled Cymru.
Mae hosbisau yn rhan hanfodol o'r system gofal lliniarol a gofal diwedd oes, gan ddod ag arbenigedd, tosturi a chymorth arbenigol i bobl, teuluoedd a chymunedau ar yr adeg bwysicaf.
Mae'r cyllid hwn yn rhoi sefydlogrwydd pwysig i'r sector nawr, ac mae'r canllawiau yn gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy a theg, gan helpu i sicrhau mynediad at ofal o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar anghenion, ble bynnag y mae pobl yn byw.
Rydyn ni nawr yn canolbwyntio ar weithredu a cham nesaf y gwaith o gryfhau tegwch ledled Cymru, gan gynnwys datblygu dull system gyfan ar gyfer comisiynu gofal lliniarol arbenigol. Drwy adeiladu ar y cynnydd hwn, gallwn ni leihau amrywiadau, gwella mynediad, a sicrhau bod gwasanaethau yn gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol i ddiwallu anghenion pobl a theuluoedd ym mhob lleoliad.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol City Hospice, Dr Liz Booyse:
Mae'r cyllid hwn yn newyddion gwych i hosbisau ledled Cymru. Fel llawer yn ein sector, rydyn ni wedi bod yn llywio tirwedd ariannol hynod heriol.
Bydd y grant sefydlogi hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n gallu i barhau i ddarparu gofal arbenigol i gleifion a theuluoedd sydd ein hangen fwyaf.
Rydyn ni hefyd yn croesawu'r canllawiau comisiynu newydd, sy'n arwydd o ymrwymiad gwirioneddol i weithio mewn partneriaeth â'r sector hosbisau, ac sy'n sicrhau y gallwn ni fod yno i'n cymunedau am flynyddoedd i ddod.
