Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i ddysgwyr addysg bellach ddychwelyd ar gyfer tymor arall, mae cymorth i gefnogi eu hastudiaethau ar gael i fyfyrwyr addysg bellach yng Nghymru wrth i’r argyfwng costau byw barhau i effeithio ar bobl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae addysg bellach llawn amser am ddim

Gall dysgwyr llawn amser yng Nghymru gael mynediad at addysg bellach am ddim, beth bynnag yw eu hoedran. Mae cyllid hefyd ar gael i ddysgwyr sy’n dilyn ystod o gyrsiau rhan amser mewn addysg bellach, cysylltwch â’ch coleg addysg bellach i ddarganfod pa gyllid y gallech fod â hawl iddo.

Prydau bwyd am ddim

Mae’n bosibl y gallech fod yn gymwys i gael prydau bwyd am ddim i ddysgwyr yn ystod gwyliau’r coleg. Yn ddiweddar cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg bod y cynllun hwn yn cael ei ymestyn hyd ddiwedd mis Mawrth 2023

Help gyda chostau astudio

Os ydych rhwng 16 ac 18 oed, gallech fod yn gymwys am £30 yr wythnos mewn Lwfans Cynhaliaeth Addysg i helpu gyda chostau addysg bellach llawn amser, fel cludiant neu brydau bwyd.

Os ydych yn 19 oed neu’n hŷn, gallech fod yn gymwys am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg bellach er mwyn helpu gyda chostau astudio. Gall myfyrwyr llawn amser gael hyd at £1,500 ac mae hyd at £750 ar gael ar gyfer astudiaethau rhan amser.

Cymorth caledi ariannol

Gall y Gronfa Ariannol Wrth Gefn helpu dysgwyr cymwys mewn coleg addysg bellach sy’n wynebu anawsterau ariannol. Gallai hyn helpu gyda chostau fel ffioedd, costau cysylltiedig â’r cwrs, cludiant, prydau bwyd, a chostau gofal plant. Mae’r math o gymorth a ddarperir, a’r gofynion cymhwystra, yn dibynnu ar y coleg addysg bellach unigol.

Cynnyrch mislif am ddim

Mae eich coleg addysg bellach wedi cael cyllid i sicrhau mynediad at gynnyrch mislif, am ddim, yn y ffordd fwyaf urddasol posibl. Dylid defnyddio’r cyllid i gefnogi pawb yng nghymuned y coleg sydd angen cynnyrch mislif, gan flaenoriaethu’r rheini o gartrefi incwm isel.

Help gyda chostau cludiant

Mae’n bosibl bod help gyda chostau cludiant i’r coleg ar gael hefyd. Cysylltwch â’ch coleg neu’ch awdurdod lleol i weld a ddylech wneud cais.

Mae fyngherdynteithio yn darparu hyd at 30% oddi ar gostau teithio yng Nghymru. Rhaid i chi fod rhwng 16 a 21 oed, ac nid yw’r tocyn wedi ei gyfyngu i gludiant i’r ysgol neu’r coleg.

Rhagor o wybodaeth

Ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru neu i wefan eich coleg addysg bellach am gyngor a chymorth pellach am ba gymorth ariannol sydd ar gael.